A yw eich busnes yn allforio? Oes gennych chi ddiddordeb mewn masnachu dramor? Hoffech chi wybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael?
Ble bynnag yr ydych ar eich taith allforio, gall cynadleddau Archwilio Allforio Cymru helpu eich busnes!
Mae Archwilio Allforio Cymru 2025 yn gyfle gwych i fusnesau rwydweithio â'i gilydd; cael y newyddion a'r cyngor allforio diweddaraf; siarad â sefydliadau cefnogol; edrych ar gyfleoedd dramor; a darganfod dull o wneud eich busnes allforio yn fwy hunangynhaliol.
Prif elfennau y diwrnod:
Prif araith weinidogol a sesiwn llawn – bydd busnesau sydd wedi llwyddo yn rhannu gwersi a ddysgwyd.
Cyfarfodydd un-i-un gyda chynrychiolwyr y farchnad dramor – gall gynadleddwyr gyfarfod â chynrychiolwyr o farchnadoedd tramor i edrych ar gyfleoedd allforio.
Arddangosfa – bydd sefydliadau o bob rhan o ecosystem allforio Cymru, gan gynnwys cyllid, cyfreithiol, logisteg, wrth law i drafod sut y gallant gynorthwyo eich busnes.
Parth Allforio Llywodraeth Cymru – cwrdd â'n Cynghorwyr Masnach Rhyngwladol ac edrych ar ein dulliau o gynnig cymorth digidol.
Gweithdai allforio – detholiad o sgyrsiau sy'n darparu'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar elfennau allweddol masnach ryngwladol.
Archwilio Allforio Cymru - De Cymru
Dydd Iau 13 Mawrth 2025
Stadiwm Dinas Caerdydd Ffordd Lecwydd Caerdydd CF11 8AZ | Archwilio Allforio Cymru – Gogledd Cymru
Dydd Iau 20 Mawrth 2025
Venue Cymru The Promenade Penrhyn Cres Llandudno LL30 1BB
|
Archwilio uchafbwyntiau cynhadledd Allforio Cymru 2024: