1. Cyflwyniad
Mae’n hanfodol sefydlu’r trefniadau ariannol priodol ar gyfer eich busnes allforio. Bydd hynny’n eich helpu chi i:
- osgoi dyledion drwg a fydd yn effeithio er gwaeth ar broffidioldeb eich busnes
- osgoi’r effaith y caiff taliadau hwyr ar eich llif arian
- lleihau’r gost o gysylltu â’r rhai sy’n hwyr yn talu
Mae gofalu’ch bod yn gallu ariannu’r contract, rheoli arian tramor a chael eich talu i gyd yn allweddol i bawb sy’n allforio.
2. Dulliau o dalu
Cael eu talu’n llawn ac mewn da bryd yw nod pawb sy’n allforio yn y pen draw a bydd angen i chi ddewis dull o dalu sy’n addas i chi a’ch perthynas â’ch cwsmer. Lleia’n y byd yw’r risg i chi, mwya’n y byd yw’r risg yw’ch cwsmer.
Pan fyddwch yn cyflenwi nwyddau, mae 4 prif ddull o dalu wrth fasnachu’n rhyngwladol:
Pan fyddwch yn cyflenwi gwasanaethau dramor, ni allwch eich diogelu’ch hun â dulliau o dalu fel llythyrau credyd a chasgliadau dogfennol, sef y dulliau a ddefnyddir i leihau’r risgiau wrth allforio nwyddau. Gall hefyd fod yn anodd profi’ch bod wedi darparu’r gwasanaethau, ac yn ddrud neu’n amhosibl adennill dyledion drwy’r llysoedd lleol.
Gan y gall fod yn anodd profi’ch bod wedi darparu’r gwasanaethau, dylech ofalu bod gennych gytundeb clir o ran y trefniadau talu cyn darparu gwasanaethau. Fel yn achos allforio nwyddau, dylid cytuno ar rai materion ymlaen llaw , gan gynnwys:
- faint fydd yn cael ei dalu, yn arian pa wlad, a phryd
- pwy sy’n gyfrifol am y taliadau banc
- beth fydd yn digwydd os na fydd y cwsmer yn talu
- ble caiff y taliad ei wneud e.e. eich cyfrif banc yn y DU
- pwy sy’n gyfrifol am dalu unrhyw drethi dyledus
Efallai y byddai’n werth ymchwilio i weld pa mor ddibynadwy yw’ch cwsmer o ran ei barodrwydd i dalu ac y dylech ystyried cael yswiriant credyd i helpu i’ch diogelu rhag ofn na fydd yn talu. Byddai’n syniad da gwasgaru’r taliadau os byddwch yn darparu gwasanaethau dros gyfnod gan y byddai hynny’n helpu i leihrau’r risg a gwella’ch llif arian.
3. Talu ymlaen llaw
Efallai mai’r drefn o dalu ymlaen llaw cyn allforio nwyddau sy’n ymddangos orau i chi gan ei bod o fantais i’ch cyfalaf gweithio cyn trosglwyddo perchnogaeth i’r prynwr. Fodd bynnag, dyma’r dewis lleiaf ffafriol i’r prynwr gan ei fod yn creu problemau llif arian ac yn cynyddu’r risg i’r prynwr.
Gellid ystyried ei bod yn hanfodol i chi gael eich talu ymlaen llaw os nad oes gennych fawr o hyder yn eich prynwr neu os yw’r sefyllfa wleidyddol neu economaidd yng ngwlad eich prynwr yn cynyddu’r risg i chi beidio â chael eich talu.
Os oes gennych gynnyrch unigryw sy’n flaenllaw yn y farchnad, mae’n bosibl y gallwch ddwyn perswâd ar eich prynwr i dalu ymlaen llaw. Fodd bynnag, mewn marchnad fwy cystadleuol, gallech golli’r contract os bydd un o’ch cystadleuwyr yn cynnig amodau talu mwy ffafriol i’r prynwr.
Un ffordd o leihau’r risg i’ch prynwr fyddai darparu gwarant talu ymlaen llaw. Gall UK Export Finance eich cynghori ynglŷn â hyn.
4. Llythyrau Credyd
Llythyrau Credyd yw un o’r trefniadau talu mwyaf diogel o safbwynt allforwyr. Ymrwymiad gan fanc yw hwn, ar ran y prynwr, y caiff taliad ei wneud i’r allforiwr, cyn belled ag y bo’r amodau a’r telerau a nodir yn y Llythyr Credyd yn cael eu bodloni. Gall hyn warantu y bydd y gwerthwr yn cael ei dalu, a gall y prynwr fod yn sicr na wneir unrhyw daliad nes bydd wedi cael y nwyddau.
Rhaid i’r Llythyr Credyd adlewyrchu’r cytundeb rhyngoch chi a’ch prynwr a dylai fod yn barod , yn ddelfrydol, cyn i chi ddechrau cynhyrchu a chyn i chi ddosbarthu’ch cynnyrch, o leiaf. Rhaid i chi fod yn sicr y gallwch fodloni’r holl ofynion a restrir yn y cytundeb, fel y dyddiad cludo diweddaraf a’r dull o gludo, ac y gellir darparu’r holl ddogfennau y gofynnir amdanynt.
Mae nifer o wahanol fathau o lythyrau credyd ar gael i’w defnyddio, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Bydd y gost i chi’n dibynnu ar y math o lythyr credyd ac amgylchiadau’ch prynwr. Darllenwch ragor am Lythyrau Credyd a sut y gallwch eu defnyddio i leihau’r risg wrth fasnachu’n rhyngwladol.
Cyn gynted ag y bydd eich cynhyrchion yn cael eu dosbarthu, ewch â’r holl ddogfennau angenrheidiol i’ch banc. Bydd y banc yn cadarnhau bod y dogfennau’n bodloni gofynion eich llythyr credyd. Rhaid i’ch dogfennau gyd-fynd â’ch llythyr credyd neu ni fydd eich banc yn gallu hawlio taliad gan y banc sy’n gyfrifol am anfon y taliad.
5. Casgliadau dogfennol
bydd y cwsmer yn derbyn y bil cyfnewid hwn, rhaid iddo, yn ôl y gyfraith, ei dalu. Dim ond wedyn bydd yr allforiwr yn caniatáu i’r cwsmer gael y dogfennau cludiant sydd eu hangen i gymryd meddiant o’r nwyddau, gan wneud hynny, fel arfer, drwy’r banc yng ngwlad y prynwr.
Mae’r dull hwn o dalu yn rhoi mwy o reolaeth i chi, yr allforiwr, na thrafodion cyfrif agored, gan fod y dogfennau’n mynd drwy’r systemau bancio. Os nad yw’ch prynwr yn talu neu os nad yw’n derbyn y bil cyfnewid, byddwch yn cadw meddiant o’ch nwyddau. Gallech, fodd bynnag, orfod talu am gludo’r nwyddau’n ôl i’r DU.
6. Cyfrif Agored
Drwy drefniant Cyfrif Agored, rhaid i chi ddisgwyl taliad ar ôl i chi anfon nwyddau at eich prynwr ynghyd ag anfoneb ac unrhyw ddogfennau angenrheidiol eraill fel Bil Llwytho.
Mae’n bosibl y bydd eich cwsmer yn gofyn i chi gynnig telerau credyd neu mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud hynny i gystadlu â gwerthwyr eraill.
Bydd y galw am eich cynnyrch, eich pris a pha mor awyddus ydych chi i werthu i’r prynwr i gyd yn effeithio ar y telerau y penderfynwch eu cynnig. Mae prynwyr yn gynyddol yn gofyn am Gyfrif Agored, a chytundeb ynglŷn â’r cyfnod talu, ond ni ddylech ei ystyried oni bai’ch bod yn gwybod gryn dipyn am eich prynwr a bod gennych hyder gwirioneddol ynddo.
Fodd bynnag, os cytunwch i ymestyn telerau credyd, gall hynny fod yn gostus i’ch busnes gan y bydd yn effeithio ar eich llif arian, felly mae’n bwysig amcangyfrif cost yr amser a gymerir i chi gael y taliad ar ddiwedd y cyfnod credyd, a chynnwys hyn yn eich pris.
Y risg gyda Chyfrif Agored yw bod y prynwr yn gallu cael y nwyddau a pheidio â’ch talu, gan eich gadael yn gwbl agored i risg credyd y prynwr, yn ogystal â risg posibl o ran y wlad ac arian y wlad honno. Gellid lliniaru rhai o’r risgiau hyn drwy ddefnyddio yswiriant credyd.
7. Rheoli arian tramor
Gall cyfraddau cyfnewid fod yn faes cymhleth i allforwyr a dylech drafod hyn â’ch banc neu’ch cynghorydd ariannol a gofalu eich bod yn deall beth yn union y mae angen ei wneud.
Er y bydd defnyddio punnoedd sterling fel arian cyfred eich contract yn osgoi’r broblem hon, bydd yn trosglwyddo’r risg sydd ynghlwm wrth ansefydlogrwydd arian cyfred tramor i’ch cwsmer a gall hynny olygu na fyddwch mor gystadleuol.
Mae gwahanol ddulliau o reoli’r risg sydd ynghlwm wrth gyfraddau cyfnewid, gan gynnwys:
Gosod eich prisiau mewn punnoedd sterling
Gosod eich prisiau mewn punnoedd sterling yw’r dull rhataf a mwyaf diogel i chi fel allforiwr. Rydych yn sicr o gael y swm a nodwyd mewn sterling a’r prynwr fydd yn gorfod ysgwyddo risg y gyfradd gyfnewid. Mewn marchnad sy’n ffafrio’r prynwr, bydd hyn yn golygu na fyddwch yn gystadleuol.
Cyfrifon arian tramor
Os ydych yn talu am nwyddau mewn arian tramor, mae’n werth ystyried y dewis hwn. Byddech yn gallu cyfateb derbynebau arian tramor â’ch treuliau gan leihau’r risg sydd ynghlwm wrth ansefydlogrwydd arian cyfred tramor.
Contractau cyfnewid ymlaen llaw
Mae contractau cyfnewid ymlaen llaw yn cynnig trefniant risg isel i’r prynwr a’r gwerthwr. Mae’n golygu cloi’r gyfradd gyfnewid gyda’ch banc ar gyfer diwrnod penodol yn y dyfodol. Mae’r gwerthwr yn wynebu rhai costau, ond bydd hyn yn dibynnu ar werth y trafodion a hyblygrwydd y contract rydych yn cytuno arno.
Dylech gysylltu â’ch banc neu gwmni sy’n arbenigo mewn rheoli arian tramor i bwyso a mesur y gwahanol bosibiliadau ac i ddewis y dull mwyaf addas i chi.
8. Cyllid ac yswiriant i allforwyr
Os ydych yn bwriadu allforio nwyddau neu wasanaethau o’r DU yna mae’n debygol y bydd angen rhyw fath o warant neu yswiriant credyd arnoch i’ch diogelu os na fydd eich cwsmer yn talu neu os bydd unrhyw broblemau ariannol eraill yn codi.
Os na chewch yr hyn sydd ei angen arnoch gan y farchnad breifat, mae’n bosibl y gall, UK Export Finance(UKEF) helpu. Gall gynnig gwarant, yswiriant a chyngor i hybu allforion o bob maint o’r DU. Gan weithio gydag amrywiaeth eang o sectorau, gall UKEF ystyried helpu i allforio i dros 200 o wledydd.
Mae gan UKEF ei fframwaith asesu risg ei hun ac mae’n canolbwyntio ar helpu allforwyr o’r DU i fanteisio ar y cyfle i fasnachu mwy dramor drwy weithio’n agos gydag allforwyr, banciau, prynwyr a noddwyr prosiectau i:
- yswirio allforwyr o’r DU rhag colledion os na fydd eu prynwyr tramor yn talu
- helpu prynwyr tramor i brynu nwyddau a gwasanaethau gan allforwyr o’r DU drwy warantu benthyciadau banc i ariannu’r pryniadau
- rhannu risgiau credyd â’r banciau i helpu allforwyr i gael bondiau tendrau a chontractau, i gael gafael ar gyllid cyfalaf gweithio cyn ac ar ôl cludo’r nwyddau ac i sicrhau bod llythyrau credyd wedi’u cadarnhau.
- yswirio’r rhai yn y DU sy’n buddsoddi mewn marchnadoedd tramor rhag risgiau gwleidyddol
Mae gan UKEF rwydwaith o Rheolwr Cyllid Allforio ar hyd a lled y DU sy’n gweithredu fel mannau cyswllt lleol i gyflwyno allforwyr, a busnesau a busnesau sy’n awyddus i allforio, i gwmnïau sy’n darparu cyllid, cwmnïau sy’n yswirio credyd, broceriaid yswiriant, cyrff hybu masnach a chymorth gan y llywodraeth.
Rheolwr Cyllid Allforio Cymru yw Steve Wilson (E-bost stephen.wilson@ukexportfinance.gov.uk, Ffôn +44 (0)7990 997748)
Dysgwch ragor am gynhyrchion a gwasanaethau UKEF a lawrlwythwch lyfrynnau am gynhyrchion
Gwybodaeth am reoli’ch llif arian