Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Dubai, United Arab Emirates.
Pam United Arab Emirates?
Mae'r Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) yn farchnad fywiog a deinamig, ac mae'n cynnwys y 10 marchnad uchaf ar gyfer Allforion Cymru, gyda Dubai yn brif ffocws i fusnesau.
Mae Dubai yn parhau i dyfu ac arallgyfeirio, ac mae nid yn unig yn llwybr mynediad mawr i ranbarth y Gwlff ond mae bellach yn ganolfan gymudo ar gyfer y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica yn ehangach.
Mae Dubai yn cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymru ym mhob sector blaenoriaeth; gweithgynhyrchu gwerth uchel, technoleg, gwyddor bywyd, cynhyrchion defnyddwyr, ynni glân a bwyd a diod.
Pam Mynd ar yr Ymeliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
• Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
• Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad.
• Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan.
• Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig.
• Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad.
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmn. Mae’r gost yn £1,300.00. Mae hyn yn cynnwys:
• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
• Llety am 6 noson gyda brecwast
• Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion Y Digwyddiad
Pan fyddwn yn – 7-13 Chwefror 2026
Sectorau – Aml Sector
Ble – Dubai
Trefn
7 Chwefror – Gadael am Dubai
9-10 Chwefror – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Dubai.
10-12 Chwefror – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Abu Dhabi.
13 Chwefror – Dychwelyd i Gymru
Trefniant Gwasanaeth Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o gyfarfodydd 3-4 i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Sylwch, os hoffech y gefnogaeth hon, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn i ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael.
Os cyflwynir eich cais ar ôl yr amser hwn 28 Tachwedd 2025, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
28 Tachwedd 2025 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
9 Ionawr 2025 (Teithio yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru
*Os bydd lle ar gael.