Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei stondin arddangos yn SpaceTech Europe, Bremen
YNGLŶN Â SPACETECH EUROPE
Cynhelir SpaceTech Europe ar 18-20 Tachwedd 2025 yn Bremen, yr Almaen.
SpaceTech Europe yw'r digwyddiad Gofod B2B mwyaf yn Ewrop, gan groesawu dros 800 o arddangoswyr sy'n amrywio o fusnesau newydd i arweinwyr y diwydiant, ac yn denu dros 10,000 o ymwelwyr.
Yn SpaceTech Europe, gallwch ddisgwyl gweld amrywiaeth o dechnolegau’r gofod a ddefnyddir mewn prosesau gweithgynhyrchu, gwasanaethau profi, cydrannau, a pheirianneg systemau ar gyfer llongau gofod, lanswyr, a rhaglenni lloeren.
PAM MYNYCHU?
Gall arddangos gyda Llywodraeth Cymru fod yn ffordd gost-effeithiol iawn o arddangos eich cwmni, ennill cysylltiadau gwerthfawr a chynyddu eich allforion yn y sectorau hyn.
Y GOST
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau o Gymru i fynd i’r sioe, gydag opsiynau prisio hyblyg.
Pecyn Arddangoswr - £1,800
1. gofod wedi'i frandio
2. eich cofrestriad ar-lein eich hun i wella eich presenoldeb yn y digwyddiad
3. defnyddio mannau cyfarfod ar y stondin
4. 2 docyn mynediad
5. Cael eich cynnwys yn neunydd cyfryngau a marchnata brand Cymru, ac mewn cyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus posibl.
6. ymgysylltu â busnesau allweddol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y digwyddiad, gan gynnwys eich cyd-bartneriaid ar y stondin
7. mae logisteg y stondin i gyd yng ngofal gweithwyr digwyddiadau a marchnata proffesiynol a phrofiadol
8. yn gynwysedig yn eich pecyn arddangoswr mae cymhorthdal o 50% tuag at:
- Hedfan yno ac yn ôl
- Llety am 4 noson gyda brecwast
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiaau:
1 Awst 2025 (Teithio yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru
*Mae prisiau yn cynnwys TAW.
*Os bydd lle ar gael.