Denise Cole - Director at Tomoe Valve Ltd.

 

Mae cwmni Tomoe Valve o Gasnewydd yn cynhyrchu falfiau adeiniog perfformiad uchel sy’n cael eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o brosiectau ym mhedwar ban y byd.

Sefydlwyd y cwmni ym 1986, ac ar y cychwyn, bu’n gweithio ar draws y sectorau olew a nwy yn bennaf. Ond mewn blynyddoedd mwy diweddar, gyda buddsoddiad mewn ffynonellau ynni tanwydd ffosil yn lleihau, mae’r cwmni wedi amrywio’i fusnes i gyflenwi falfiau ar gyfer amrywiaeth ehangach o ddiwydiannau. Yn sgil twf cyflym mewn sectorau fel cynhyrchu bwyd, trin dŵr ac adeiladu ar draws y byd i gyd, mae’r galw am gynnyrch Tomoe Valves yn uwch nag erioed.

Yn fwyaf diweddar, mae cynnyrch y cwmni wedi cael ei ddefnyddio wrth ddatblygu injan dân hollol drydan gyntaf y DU.

Canolbwyntio ar allforion

Heddiw, mae Tomoe Valve yn allforio i dros 57 o wledydd ar draws Gogledd America, Asia, Ewrop, De America a’r Dwyrain Canol, a gwerthiannau rhyngwladol sydd i gyfrif am 90% o fasnach y gweithgynhyrchwyr Cymreig.

Targedu Unol Daleithiau

Mae’r cwmni’n llygadu twf rhyngwladol pellach erbyn hyn ac mae hi wedi gosod ei olygon ar gyflawni hynny trwy ehangu yn UDA ar ôl diogelu contract £1.6 miliwn gyda phrosiect wedi ei ariannu gan lywodraeth UDA yn nhalaith Washington. Bydd y cytundeb yn gweld hyd at 80 o falfiau’n cael eu gosod yn un o ffatrïoedd deunyddiau batri silicon datblygedig mwyaf y byd, sef batris sy’n cael eu defnyddio wrth gynhyrchu cerbydau trydan, bysys, tryciau, electroneg defnyddwyr a hedfan trydan yn bennaf.

Pwysigrwydd ymweliadau â'r farchnad a chefnogaeth Llywodraeth Cymru

Yr allwedd i lwyddiant allforio Tomoe Valve yw ei bresenoldeb ar ymweliadau â marchnadoedd mewn rhanbarthau targed, gan gynnwys y Dwyrain Canol ac UDA, a hynny gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Mae’r ymweliadau wedi galluogi iddo gyfarfod â darpar-gwsmeriaid, sydd wedi arwain yn uniongyrchol at fusnes newydd.

Mae’r cwmni wedi cael cymorth i ddatblygu ei gadwyni cyflenwi a chyflawni gwaith ymchwil i’r farchnad hefyd, sydd wedi helpu i glustnodi cyfleoedd i amrywio’r busnes mewn rhanbarthau targed, a deall sut i ddod â’i gynnyrch i amryw o farchnadoedd rhyngwladol.

Dywedodd Denise Cole, Cyfarwyddwr Cyllid Tomoe Valve Ltd: “Mae gwerthiannau rhyngwladol wedi bod yn rhan annatod o’n busnes erioed, ac mae llawer o’n cwsmeriaid gwreiddiol mewn marchnadoedd tramor. Allforion sydd wedi adeiladu ein busnes. Mae ein cynnyrch yn cael ei ddefnyddio mewn prosiectau gweithgynhyrchu gwerth uchel ym mhedwar ban y byd, felly er taw llond llaw yn unig o gwsmeriaid sydd gennym ar y tro, mae’r cwsmeriaid hynny’n dod â chyfleoedd refeniw aruthrol.

“Mae’r gallu i ddeall marchnadoedd posibl heb dreulio misoedd ar waith ymchwil a phrofion hyfywedd wedi bod yn gymaint o ased i’r busnes. Gallwn gychwyn gweithio’n syth a chanolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i ni - sef y bobl sydd y tu ôl i’r busnes.


“Rwy’n credu’n gryf bod pobl yn prynu gan bobl. Rydyn ni’n ymfalchïo yn y perthnasau sydd gennym gyda’n cwsmeriaid, gan gynnig cymorth technegol ac atebion hyd yn oed os nad ydyn ni’n gwerthu rhywbeth. Rydyn ni’n gwybod bod cael cwrdd â nhw wyneb yn wyneb o’r cychwyn cyntaf, yn eu milltir sgwâr eu hunain, yn ein gosod ni ar y blaen ar gyfer busnes yn y dyfodol, ac yn meithrin perthnasau hirsefydlog.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen