Reacta Healthcare
Sefydlwyd Reacta Healthcare, sydd â’i wreiddiau ym Mhrifysgol Manceinion a’i bencadlys ar Lannau Dyfrdwy yn y gogledd, yn 2013 i ddatrys sialens sylweddol yn y maes profi am alergeddau.Tra bod profion traddodiadol am alergeddau bwyd yn gofyn i’r cleifion fwyta neu yfed yr alergen o dan sylw, fel pysgnau, wyau neu laeth, mae cynhyrchion Reacta’n cynnwys dos diffiniedig cudd o’r alergen sy’n caniatáu ar gyfer profion mwy diogel, cyson a safonol.