Mae CellPath, cwmni gweithgynhyrchu o’r Drenewydd, yn arbenigo mewn cynhyrchu a chyflenwi offer a gwasanaethau a ddefnyddir wrth ganfod canser.
Mae gan y cwmni Cymreig, sy’n rhan o grŵp ehangach StatLab Medical Products o UDA, gysylltiadau mewn dros 170 o wledydd ar draws Ewrop, America, Asia, Affrica a'r Dwyrain Canol, gan gynnwys yr UAE, Qatar ac Irac.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r cwmni wedi gosod pwyslais ar werthiannau rhyngwladol ac wedi gweld ei allforion, a nifer ei ddosbarthwyr byd-eang, yn dyblu yn ystod y cyfnod hwnnw.
Uchelgeisiau allforio
Dros y 24 mis diwethaf, mae’r cwmni wedi dyblu ei drosiant allforio yn y Dwyrain Canol a De Asia, gyda CellPath yn mentro i Saudi Arabia am y tro cyntaf. Mae’r rhanbarthau hyn yn farchnadoedd targed allweddol diolch i'r sector feddygol sy'n tyfu ar garlam yno wrth i fuddsoddiad y llywodraeth yn y system gofal iechyd a lefelau cynyddol o dwristiaeth feddygol i'r ardal yrru twf yn y diwydiant.
Nawr bod CellPath yn rhan o grŵp cwmnïau StatLab, mae yna ragor fyth o gyfleoedd i gleientiaid dosbarthu cyfredol gyrchu portffolios cynnyrch busnesau eraill y grŵp hefyd.
Ffocws rhyngwladol
Mae CellPath wedi bod yn edrych tua'r farchnad ryngwladol ers i'r cwmni gael ei sefydlu'n wreiddiol ym 1990, pan ddiogelodd rhai o'i gleientiaid tramor cyntaf ar ôl mynychu sioe fasnach fwyaf y byd meddygol yn Dusseldorf.
Mae sioeau masnach wedi parhau i fod yn rhan allweddol o strategaeth allforio'r cwmni byth ers hynny ac maent yn cynorthwyo twf y cwmni. Mae’r cwmni wedi mynychu nifer o arddangosfeydd ym mhedwar ban y byd yn rhan o deithiau masnach Llywodraeth Cymru, gan alluogi iddo archwilio cyfleoedd masnach mewn amryw o ranbarthau, cyfarfod â phartneriaid dosbarthu newydd a chryfhau ei berthnasau â’i gleientiaid sy’n bresennol hefyd.
Buddsoddi yng Nghymru
Yn dilyn cynnydd yn y galw am ei gynnyrch dramor, dros y ddwy flynedd diwethaf, mae CellPath wedi buddsoddi dros £2m mewn storfa ddosbarthu ryngwladol a pheiriannau newydd ym mhencadlys y cwmni yng Nghymru.
Mae’r cwmni wedi agor swyddfa newydd yn ei bencadlys hefyd, ac mae’n bwriadu ehangu ei dîm gwerthu i ategu’r twf yma.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod o gymorth mawr i lwyddiant allforio CellPath, trwy ei gynorthwyo i fynychu teithiau masnach ac ymweld â rhanbarthau newydd, yn ogystal â chyflawni gwaith ymchwil i farchnadoedd targed er mwyn canfod faint o archwaeth sydd yna am ei gynnyrch.
Dywedodd Mark Wallace, Rheolwr Gwerthu Rhyngwladol CellPath: "Mae hi’n gyfnod cyffrous iawn i CellPath wrth i ni ddatblygu ac uno ymhellach â’n rhiant-gwmni, StatLab.
“Diolch i lwyddiant cyfredol gwerthiannau allforio CellPath a phrofiad y tîm yma, mae’r cwmni wedi cael ei ddewis i fod yn hyb allforio ar gyfer holl gynnyrch y grŵp, gan weithredu fel angor ar gyfer gwerthiannau allforio ar draws pob cwmni. Bydd bod yn rhan o StatLab yn rhoi hwb fawr i CellPath ac mae yna lu o gyfleoedd ar gyfer twf allforio o’n blaenau.
"Rydyn ni wedi bod yn ffodus dros ben i gael pob math o gymorth gan Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd, gan gynnwys cymorth i ymchwilio i farchnadoedd targed a dod i hyd i ddarpar-bartneriaid newydd, yn ogystal â chymorth i fynychu teithiau masnach a digwyddiadau byd-eang, Yn nodedig, rydyn ni wedi cael cymorth i ymuno yn sioe fasnach Medlab Asia, ac rydyn ni’n gobeithio mynd i ddigwyddiad nesaf Medica hefyd fel aelodau o'r ddirprwyaeth o Gymru.”