Yn 2018, cafodd Mangar Health o Lanandras ei gaffael gan fusnes gofal iechyd Ffrengig, Winncare Group, gweithgynhyrchwr blaenllaw gwelyau, cynnyrch gofal pwysedd, offer codi cleifion ac atebion hylendid yn Ewrop.
Cyn y caffaeliad, roedd Mangar Health, y dyfeisiodd ei sylfaenydd yr offeryn pŵer cyntaf yn y byd i godi pobl o’r bath, wedi ennill ei blwyf fel arweinydd byd-eang wrth ddylunio, cynhyrchu a chyflenwi offer symud a chodi chwyddadwy er mwyn helpu pobl anabl ac oedrannus.
Mae’r cymhorthion, sy’n cynnwys offer codi o’r bath, offer codi pen clustog a chlustogau codi mewn argyfwng yn cael eu defnyddio i helpu gyda thasgau pob dydd, gan gynnwys mynd i mewn ac allan o’r gwely, ymdrochi a chodi unigolion sydd wedi syrthio.
Ers y caffaeliad, mae cangen y cwmni yng Nghymru bellach yn gweithio gydag adrannau’r Winncare ar draws Ewrop ac ymhellach i ffwrdd, mewn lleoliadau fel Gwlad Pwyl, Denmarc, Ffrainc, Sbaen a Thiwnisia. Diolch i’r caffaeliad, mae gan y cwmni amrywiaeth ehangach o lawer bellach o gynnyrch i’w ddangos i’w gwsmeriaid.
Winncare Cymru sy’n gyfrifol am yr holl farchnadoedd Saesneg eu hiaith ar draws y byd, sy’n cynnwys Awstralia, Seland Newydd a Gogledd America’n bennaf.
Ers dod yn rhan o Grŵp ehangach Winncare, mae ei drosiant wedi tyfu o £10m bum mlynedd yn ôl, i £14m heddiw, y mae tua 20% o hynny diolch i’w strategaeth allforio, a disgwylir i’r ffigurau hyn gynyddu.
“Rydyn ni wedi penodi gwerthwyr newydd yn ein holl diriogaethau”, meddal Clare Birt, cyfarwyddwr marchnata Winncare. “Mae ein gwerthwr newydd yn Awstralia, a benodwyd yn unig werthwr i ni, newydd ennill archeb gwerth tua £300,000, ac rydyn ni’n disgwyl i ragor o gytundebau ddilyn hyn.
“Rydyn ni wedi bod yn torri cwys yn UDA, lle mae’r farchnad gofal iechyd broffidiol ar gyfer cyn-aelodau o’r lluoedd yn sector bwysig i ni. Mae Llywodraeth UDA yn gwario degau o biliynau o bunnoedd i ofalu am ei gyn-filwyr ac mae yna gannoedd o ganolfannau ar gyfer cyn-filwyr ar draws y wlad i gyd, felly mae ein gwerthwr yn UDA yn gwerthu’n uniongyrchol i’r rhain. Mae hi’n farchnad enfawr.
“Yn UDA, mae’r ffaith fod cynnyrch yn cael ei gynhyrchu ym Mhrydain yn fantais fawr. Yn ogystal â gwerthfawrogi ein hanes o ragori ym maes gweithgynhyrchu, maen nhw’n ystyried bod ein system gofal iechyd, a’r gwerthoedd y mae hi’n seiliedig arnynt, o safon ryngwladol.”
Mae llwyddiant Winncare dramor wedi cael ei ategu gan statws y DU wrth arwain y byd o ran systemau codi a thrin cleifion, lle mae deddfwriaeth a hyfforddiant hollol ddatblygedig wedi gosod y genedl ar flaen y mudiad byd-eang i sicrhau gwell ddeilliannau i gleifion.
“Mae hi’n sicr ein bod ni wedi elwa ar enw da’r DU o fewn y sector yma. Mae’r DU ymhell ar flaen gweddill y byd o ran codi a thrin cleifion”, meddai Clare, “ac rydyn ni wedi gallu elwa ar yr arbenigedd yma a’r data sydd ar gael er mwyn creu cynnyrch sydd gyda’r gorau sydd ar gael ar raddfa ryngwladol.”
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru, a gafwyd trwy Busnes Cymru, wedi bod yn rhan bwysig o lwyddiant allforio’r cwmni ers amser hir. Mae’r cwmni wedi cael cymorth Busnes Cymru i gyflawni ymchwil i’r farchnad a dod o hyd i ddosbarthwyr mewn darpar-diriogaethau, sydd wedi cynorthwyo’r cwmni i ddiogelu contractau gyda gwerthwyr yn Ffrainc a’r Eidal ymhell cyn iddo gael ei gaffael gan Winncare. Mae’r perthnasau hyn yn dal i fodoli heddiw, er nad ydynt dan reolaeth adran Cymru mwyach.
“Mae allforion yn cynnig potensial aruthrol am fod y sialensiau sy’n wynebu poblogaeth sy’n heneiddio, y mae ein cynnyrch yn mynd i’r afael â nhw, yn debyg ar draws y byd i gyd”, meddai Clare.
“Ond fel busnes, rydyn ni’n hoffi cadw ffocws tynn ar i ble’r ydyn ni’n mynd ac â phwy rydyn ni’n siarad. Wedi’r cyfan, mae’r byd yn lle mawr, ac mae angen i ni fod yn strategol. I ni, mae rhai gwledydd mor bell ar ei hôl hi o ran iechyd a diogelwch fel y byddai’n wastraff amser ceisio gosod ein cynnyrch o fewn eu marchnadoedd, am y byddai hynny’n gofyn am gymaint o addysg.
“Felly fy nghyngor i allforwyr eraill yw ei bod hi’n hanfodol deall eich marchnadoedd – nid yw pob marchnad at ddant pawb, ond mae’r rhai sydd i chi yn gallu chwyldroi eich busnes.”