TrakCel
Wedi'i sefydlu yn 2012, mae cwmni TrakCel o Gaerdydd yn cynnig meddalwedd ddigidol i reoli, ac olrhain samplau cleifion a gesglir ar gyfer treialon clinigol a therapïau celloedd a genynnau.Mae eu meddalwedd, OCELLOS, yn helpu i gydlynu therapïau celloedd a genynnau sydd yn gallu achub bywydau wrth drin ystod eang o ganserau a chyflyrau awto-imiwn. Gyda’r meddalwedd hwn gall y sefydliadau yn y gadwyn gyflenwi fonitro’r therapiau mewn amser real.