Dulas - Catherine McLennan

Mae cwmni Dulas o Fachynlleth yn datblygu ac yn gweithredu atebion ynni adnewyddadwy i gynorthwyo cymunedau yn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig y byd.

Mae ei gynnyrch technoleg cadwyn oer, sy’n cynnwys oergelloedd solar i gadw brechiadau ar y tymheredd cywir, yn cynorthwyo rhaglenni brechu ar draws y byd er mwyn sicrhau eu bod ar gael i bawb.

Sefydlwyd y cwmni cyfranddaliadaeth sydd ym mherchnogaeth ei weithwyr ym 1982. Mae ganddo dros 60 o aelodau staff parhaol yn ei bencadlys yn y canolbarth, a’r llynedd, llwyddodd i werthu gwerth dros £7 miliwn o nwyddau’n rhyngwladol diolch i’w strategaeth allforio.

Allforion sydd i gyfrif am 60% o fasnach Dulas, ac mae’r cwmni’n allforio ei gynnyrch i dros 80 o wledydd ac i rai o fannau mwyaf anghysbell y byd, mewn ardaloedd fel America Ladin, Asia, y Dwyrain Canol ac Affrica Is-Sahara.

Yn dilyn llwyddiannau diweddar yng Ngorllewin Affrica, gan gynnwys cytundebau gwerth dros £2.5 miliwn, mae’r cwmni wedi gosod ei olygon ar ehangu eto fyth, â’r nod o gynyddu ei werthiannau a chryfhau capasiti lleol ar draws y rhanbarth.

Mae allforion Dulas wedi cryfhau mewn blynyddoedd diweddar diolch i’r cymorth ymchwil a datblygu y mae’r cwmni wedi ei gael gan Llywodraeth Cymru i’w gynorthwyo i gynyddu ei bortffolio o gynnyrch a chyflawni achrediad PQS llym Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).  Mae bodloni’r safonau hyn yn caniatáu i Dulas barhau i ddarparu systemau rheweiddio solar ar gyfer cymunedau ym mhedwar ban y byd.

Mae’r cymorth yma wedi cynnwys cymorth ariannol i ymuno mewn ymweliadau â marchnadoedd mewn gwledydd targed yng Ngorllewin Affrica yn ogystal â mynychu sioeau masnach yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac America Ladin, sydd wedi arwain yn uniongyrchol at fusnes newydd i’r cwmni, ac wedi agor y drws i bartneriaid a chleientiaid newydd mewn rhanbarthau allweddol.

Dywedodd Catherine McLennan, Arweinydd Masnachol Dulas: “Mae cefnogaeth a chyngor Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant allforio. Maen nhw wedi helpu i godi ymwybyddiaeth brand i ni mewn rhanbarthau newydd, ac wedi darparu gwybodaeth newydd a pherthnasol am y farchnad.

“Mae’r teithiau masnach wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i ni, gyda sylw ar lawr gwlad yn arwain yn uniongyrchol at bartneriaethau lleol newydd. Y brif her gyda’n hallforion yw’r logisteg o gael ein cynnyrch i’r lleoliad perthnasol. Mae angen ein cynnyrch yn rhai o ardaloedd mwyaf anghysbell y byd, ac yn aml mae angen iddynt gael eu cludo ar awyren, mewn cwch, tryc neu hyd yn oed â llaw er mwyn teithio’r ‘filltir olaf’ yna.

“Mae hi’n hanfodol i’n busnes fod gennym bartneriaid â gwybodaeth leol arbenigol yn y wlad o dan sylw, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ein cynorthwyo ni i feithrin partneriaethau sy’n caniatáu i ni ehangu ein rhwydweithiau a darparu cynnyrch sy’n achub bywydau ar gyfer y bobl fwyaf anghenus.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen