Wedi'i sefydlu yn 2012, mae cwmni TrakCel o Gaerdydd yn cynnig meddalwedd ddigidol i reoli, ac olrhain samplau cleifion a gesglir ar gyfer treialon clinigol a therapïau celloedd a genynnau.
Mae eu meddalwedd, OCELLOS, yn helpu i gydlynu therapïau celloedd a genynnau sydd yn gallu achub bywydau wrth drin ystod eang o ganserau a chyflyrau awto-imiwn. Gyda’r meddalwedd hwn gall y sefydliadau yn y gadwyn gyflenwi fonitro’r therapiau mewn amser real.
Mae TrakCel wedi datblygu enw da yn rhyngwladol fel arweinydd byd-eang yn y sector. Daw'r mwyafrif helaeth o'i fusnes trwy allforio i 11 o wledydd ledled y byd, gan gynnwys Gogledd America, Ewrop ac Awstralia, ac mae ganddynt dros 2,800 o ddefnyddwyr ar draws mwy na 300 o ganolfannau triniaeth awdurdodedig (ATCs).
Llwyddiant mawr yn yr Unol Daleithiau
Mae'r Unol Daleithiau yn farchnad allweddol i'r cwmni, gydag allforion i'r rhanbarth wedi tyfu o 65% i 84% o’i werthiannau, dros y pum mlynedd diwethaf. Yn sgil y twf hwn, mae’r cwmni wedi sefydlu eu canolfan eu hunain yn yr Unol Daleithiau i helpu gyda gwerthiant a gweithrediadau’r busnes.
Dywedodd Fiona Withey, Prif Swyddog Gweithredol TrakCel: "Roedd dechrau gwerthu i’r Unol Daleithiau yn rhan allweddol o'n strategaeth o'r cychwyn cyntaf, gan fod y wlad yn gartref i ddiwydiant fferyllol mwya’r byd.
" Erbyn hyn, yn yr Unol Daleithiau mae’r rhan fwyaf o'n busnes. Ac mae’n parhau i gynnig cyfleoedd twf cyffrous wrth i ni ddenu mwy o gleientiaid a chryfhau ein presenoldeb lleol."
Yn fwy diweddar, mae'r cwmni wedi sicrhau pedwar cleient newydd yn America sydd wedi arwain i gytundebau gwerth miliynau o ddoleri ac o ganlyniad, TrakCel yw'r darparwr annibynnol mwyaf o systemau cydlynu celloedd i'r sector therapi celloedd a genynnau bellach, ac mae’n cefnogi mwy nag 20 o therapïau ledled y byd.
Llwyddiant Llywodraeth Cymru
Mae llwyddiant allforio TrakCel wedi ei hybu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Llywodraeth wedi darparu cyllid ar gyfer ymweliadau marchnad i ranbarthau targed, yn ogystal â threfnu teithiau masnach i'r Unol Daleithiau. Mae'r gefnogaeth hon wedi galluogi TrakCel i fynychu digwyddiadau allweddol yn y diwydiant, megis Uwchgynhadledd Cadwyni Cyflenwi Therapïau Celloedd a Chonfensiwn Rhyngwladol BIO yn Boston a San Diego i rwydweithio â chleientiaid posibl a chodi ymwybyddiaeth o'i dechnoleg arloesol.
Gan edrych i’r dyfodol, mae TrakCel yn gobeithio parhau i dyfu eu hallforion gan ddechrau gwerthu i Japan a Singapore, lle mae'r sectorau therapi celloedd a genynnau yn tyfu’n gyflym.
Wrth i'r cwmni barhau i dyfu, mae hefyd yn gobeithio creu mwy o swyddi uchel eu gwerth yn ei bencadlys yng Nghaerdydd i gryfhau diwydiant gwyddor bywyd Cymru.
Ychwanegodd Fiona: "Rydym yn gwmni o Gymru sy’n cynhyrchu meddalwedd cydlynu celloedd unigryw a bellach yn arweinydd marchnad a chyflenwr dibynadwy i’r sector therapi celloedd a genynnau ar draws y byd. Mae hyn yn ganlyniad, i raddau helaeth, i'r gefnogaeth a gawsom gan Lywodraeth Cymru."
"Mae Asia yn bendant yn farchnad yr ydym yn awyddus i fanteisio arni, yn enwedig Japan a Singapore sydd ar flaen y gad o ran ymchwil yn y maes. Rydym yn bwriadu cyflawni ein cynlluniau ehangu uchelgeisiol trwy fanteisio ar ragor o gymorth gan Lywodraeth Cymru i fynychu teithiau masnach yn y marchnadoedd hynny a chynnal ymchwil i'r farchnad."