Mae Concrete Canvas, cwmni gweithgynhyrchu o Bont-y-clun, yn cynhyrchu ffabrig concrit hyblyg sy’n cael ei ddefnyddio mewn prosiectau adeiladu a pheirianneg sifil ar draws y byd.
Sefydlwyd y cwmni yn 2005, a gosododd Concrete Canvas ei olygon ar ehangu’n rhyngwladol yn gynnar iawn, gan ddiogelu ei gontract allforio cyntaf yn Asia yn 2009.
Er taw defnydd gwreiddiol y cynnyrch oedd helpu yn sgil trychinebau, agorodd ymweliadau â marchnadoedd tramor y drws ar ddiddordeb rhyngwladol mewn defnyddio’r deunyddiau mewn meysydd eraill, gan gynnwys adeiladu llochesi a phrosiectau rheoli dŵr. Ar ôl datblygu cynnyrch arloesol y cwmni, CCX™, a ddyluniwyd yn benodol i leinio camlesi er mwyn atal erydiad a lleihau faint o ddŵr sy’n cael ei golli trwy dryddiferiad, mae’r cwmni wedi gweld cynnydd aruthrol yn ei waith yn y maes seilweithiau dŵr.
Mewn blynyddoedd diweddar, mae gweithgarwch Concrete Canvas yn y sector peirianneg sifil wedi cynyddu’n fawr, gan arwain at dwf cyflym gartref a thramor. Allforion sydd i gyfrif am dros 85% o fasnach Concrete Canvas, gyda’r cwmni’n gweithio mewn dros 100 o wledydd ar draws Ewrop a De-ddwyrain Asia, yn ogystal ag ar draws Gogledd America.
Gyda thwf sylweddol mewn allforion i UDA dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys ei gytundeb gwerth dros $1.4 miliwn – y mwyaf eto yn UDA, mae Concrete Canvas yn disgwyl treblu ei werthiannau yng Ngogledd America erbyn 2026, a bydd hynny i gyfrif am 30% o’i allforion byd-eang.
Yr allwedd i lwyddiant allforio Concrete Canvas yw ei bresenoldeb rheolaidd mewn sioeau masnach ac ar deithiau masnach gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Mae’r cymorth yma wedi caniatáu i’r cwmni gyfarfod â darpar-gwsmeriaid newydd ym mhedwar ban y byd, gan arwain yn uniongyrchol at fusnes newydd.
Mae’r cwmni’n defnyddio Hyb Allforio ar lein Busnes Cymru’n rheolaidd at ddibenion ymchwil i’r farchnad ac er mwyn dilysu gwybodaeth, gan gynnwys tariffau mewnforio. Yn ogystal, mae’r cwmni’n aelod o’r ‘Rhaglen Clwstwr Allforio’, sy’n tynnu cwmnïau o bum sector allweddol ynghyd, gan gynnwys Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel, er mwyn dysgu gan ei gilydd, rhannu arferion gorau, cael cyngor arbenigol ar allforio a datblygu galluoedd allforio ar y cyd.
Dywedodd Will Crawford, cyfarwyddwr Concrete Canvas:“Mae hi wedi bod yn anhygoel gweld sut mae allforio wedi trawsnewid ein ffrydiau refeniw yn llwyr. Erbyn hyn mae gennym tua 60 o ddosbarthwyr ar draws y byd sydd â chontractau neilltuol i werthu ein cynnyrch. Mae cael rhwydwaith byd-eang wedi cyflymu ein twf, ac wedi meithrin ein dycnwch i wrthsefyll unrhyw drafferthion mewn marchnadoedd byd-eang.
“Rhan anferth o’n llwyddiant yw dod o hyd i’r partneriaid gwerthu cywir ar lawr gwlad mewn marchnadoedd newydd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol wrth ein helpu ni i gyflawni hyn. Mae mentro i farchnadoedd rhyngwladol newydd yn gallu bod yn her, yn arbennig wrth addysgu’r farchnad am y deunyddiau newydd ac arloesol rydym yn eu cynhyrchu. Mae cael pobl ar lawr gwlad wedi bod yn amhrisiadwy wrth agor drysau i ni, ac wrth fagu hyder yn ein cynnyrch mewn tiriogaethau newydd.”