Finalrentals - Ammar Akhtar

Platfform bwcio i logi ceir yw’r cwmni technoleg ariannol, Finalrentals ym Mhenarth. Mae’r dechnoleg yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am brisiau llogi ceir gan amrywiaeth o gwmnïau mewn lleoliad penodol, a’u cymharu.

Sefydlwyd y cwmni yn 2019 ac mae hi wedi gweld twf sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf. Mae Finalrentals wedi diogelu ei gontract allforio mwyaf erioed yn ddiweddar – contract £5 miliwn dros 5 mlynedd a fydd yn gweld y cwmni’n ychwanegu deg o leoliadau allweddol ar draws Twrci, gyda’r gallu i gyrchu rhwydwaith o dros 500 o gerbydau.

Allforion sydd i gyfrif am 100% o fasnach Finalrentals, ac mae’r cwmni’n cynnig ei blatfform mewn dros 36 o wledydd ar draws y byd yn Ewrop, Gogledd Affrica, Gogledd America, y Caribî a’r Dwyrain Canol.  

Mae presenoldeb mewn sioeau masnach ac ymweliadau â marchnadoedd mewn rhanbarthau targed wedi bod yn allweddol i lwyddiant allforio Finalrentals, gyda’r cwmni’n ymweld â San Fransisco, Singapore, Madrid a Berlin mewn misoedd diweddar, ac mae hyn wedi arwain yn uniongyrchol at gontractau gyda phartneriaid yn Turks a Caicos, y Bahamas a Montenegro sydd werth £200,000 y flwyddyn.

Dywedodd Ammar Akhtar, sylfaenydd a Phrif Weithredwr Finalrentals: “Mae Twrci’n farchnad arbennig o anodd o ran llogi ceir am taw hi yw’r farchnad fwyaf a mwyaf cystadleuol yn Ewrop. Dydy hi ddim yn hawdd i rywun o’r tu allan dorri cwys yn y farchnad, ond ar ôl cwrdd â darpar-bartneriaid yn ITB Berlin, fe lwyddon ni i negodi ein cytundeb mwyaf hyd yn hyn.”

Gan fynd o fod yn gwmni newydd sbon i un sy’n dibynnu’n llwyr ar farchnadoedd rhyngwladol mewn cwta pum mlynedd, mae llwyddiant allforio Finalrentals wedi digwydd ar garlam diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. 

Mae’r cymorth yma wedi cynnwys mynychu ymweliadau â marchnadoedd ym mhedwar ban y byd, sydd wedi arwain yn uniongyrchol at fusnes newydd yn y rhanbarthau hyn. Ochr yn ochr â’r cymorth yma, mae hi wedi bod yn rhan o raglen Clwstwr Allforio Llywodraeth Cymru, sy’n tynnu cwmnïau ar draws pum sector allweddol ynghyd, gan gynnwys byd technoleg, er mwyn dysgu gan ei gilydd, rhannu arferion gorau, cael cyngor gan arbenigwyr allforio, a datblygu galluoedd allforio ar y cyd.

Ychwanegodd Ammar: “Eleni, rydyn ni wedi bod yn llwyddiannus wrth agor marchnadoedd newydd sbon trwy gymryd rhan mewn sioeau masnach a digwyddiadau ar draws y byd lle gallwn gwrdd â darpar-gysylltiadau yn y rhanbarthau o dan sylw. Mae bod o fewn y farchnad yn rhoi mantais i’ch busnes, gan ganiatáu i chi gael gwybodaeth a dirnadaeth, a negodi cytundebau wyneb yn wyneb. Does yna ddim byd cystal.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rôl arbennig yn nhwf ein hallforion dros y blynyddoedd diwethaf. Trwy ein Hymgynghorydd pwrpasol ar Fasnach Ryngwladol, rydyn ni wedi cael cyflwyniad i gysylltiadau a chyfleoedd newydd, ac wedi cael cyngor lleol, sydd wedi agor y drws i farchnadoedd newydd ar gyfer ein busnes. Rydyn ni wedi cael cymorth i fynychu teithiau masnach ac arddangosfeydd rhyngwladol hefyd, sydd wedi arwain yn uniongyrchol at ffrydiau refeniw newydd i Finalrentals.”
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen