Limb-art - Mark Williams

Mae Limb-art, cwmni o Gogledd Cymru, yn dylunio a chynhyrchu gorchuddion addurniadol ar gyfer coesau prosthetig i bobl ledled y byd.  Maent wedi ennill nifer o wobrau am eu gwaith safonol.

Dechreuodd Mark Williams y busnes yn 2018 gan ei fod eisiau helpu pobl â choesau prosthetig i deimlo’n fwy hyderus.  Roedd y cyn-athletwr Paralympaidd yn gwybod o brofiad ei blentyndod sut y gall prosthesis effeithio ar hunanddelwedd a hyder.  Dechreuodd ddylunio gorchuddion iddo’i hun a phan ddywedodd plentyn mewn archfarchnad wrtho ryw ddiwrnod bod ei goes yn edrych mor cŵl, cafodd ei ysbrydoli i sefydlu busnes a chreu gorchuddion i eraill.

O dderbyn archebion gan unigolion dros y we, aeth y cwmni ymlaen i ddarparu gorchuddion mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a Lloegr.  Er mwyn ehangu'r busnes yn rhyngwladol wedyn, aethant ymlaen i ymchwilio cyfleoedd i weithio gyda byrddau iechyd a chwmnïau yswiriant dramor.

Mae Limb-art yn cyfuno deunyddiau safonol a thechnoleg arloesol i greu gorchuddion fforddiadwy ac apelgar ar gyfer pobl sydd yn defnyddio prosthesis uwchben ac islaw'r pen-glin.

Tybir bod tua 1.5 miliwn o bobl ledled y byd yn colli coes neu fraich oherwydd llawdriniaeth bob blwyddyn.  Felly, mae disgwyl i'r galw am wasanaethau prosthetig ddyblu erbyn 2050.

Mae chwarter o nwyddau Limb-art bellach yn cael eu gwerthu yn Awstralia, yr Unol Daleithiau a’r Iseldiroedd gan gyfrannu £50,000 y flwyddyn mewn refeniw.  Mae'r cwmni'n disgwyl cynyddu'r ffigwr hwn 25% yn flynyddol ac yn anelu am drosiant o £1 miliwn erbyn 2026.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i lwyddiant allforio Limb-art. Cawsant help i ymchwilio i’r marchnadoedd targed, fel America, yn ogystal â chymorth i ddod o hyd i ddosbarthwyr posibl dramor.  Ac mae’r cwmni’n bwriadu manteisio eto ar help Llywodraeth Cymru i gynnal  ymchwil marchnad, cael cysylltiadau lleol a theithiau masnach a fydd yn helpu Limb-art i ennill mwy o fusnes yn Ewrop - marchnad bwysig ar gyfer twf. 

Dywedodd Mark Williams, perchennog Limb-art: "Mae’n gwerthiannau dramor wedi parhau i dyfu bob blwyddyn ers sefydlu'r cwmni ac ym mis Mehefin eleni, fe wnaethom werthu mwy yn rhyngwladol na gartref, am y tro cyntaf. 

"Mae’n anhygoel sut mae allforio wedi trawsnewid ein busnes ac mae’r potensial i werthu mwy dramor yn debygol o’n helpu i dyfu’r busnes dros y blynyddoedd nesaf.

“Rydym wedi cael ambell i her.  Mae’r gwaith papur, er enghraifft, wedi bod yn arbennig o anodd i ni mewn marchnadoedd newydd gan fod ein cynnyrch mor unigryw fel nad yw'n ymddangos ar y ffurflenni tollau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud mor hawdd â phosibl i ni gael ein cynnyrch i'n dosbarthwyr tramor, gan arbed amser ac egni i ni.

"Y brif gefnogaeth i ni yw'r gwaith sy'n mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni gan gynghorwyr masnach ryngwladol Llywodraeth Cymru. Rydych chi'n gallu delio ag arbenigwyr go iawn sy'n deall eich cwmni a'r darpar gwsmeriaid. Mae'r hyfforddiant allforio ar-lein hefyd wedi bod yn amhrisiadwy i ni, gan ein dysgu sut i anfon ein cynnyrch yn gywir, y gwaith papur angenrheidiol, y TAW ac ati; mae cymaint o help ar gael ar y safle we."

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen