Brand iechyd i fenywod yw Health & Her o Gaerdydd. Cafodd ei sefydlu gan Kate Bache a Gervase Fay yn 2019. Mae’r cwmni’n gwerthu amrywiaeth o atychwanegion i gynorthwyo menywod wrth iddynt fynd trwy newidiadau hormonaidd.
Mae’r cynnyrch, sy’n cynorthwyo llesiant yn ystod y cylch mislifol, perimenopos, a menopos, wedi ei ategu gan waith ymchwil, ac mae’n cael ei lywio gan ddata i gynorthwyo menywod wrth iddyn nhw ffeindio’u ffordd trwy gyfnod anodd yn eu bywydau.
Canolbwyntio ar yr Unol Daleithiau
Mae’r cwmni, sydd eisoes yn allforio i’r Almaen ac Iwerddon, yn destun rhaglen datblygu allforio dwys gyda chymorth Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae hyn wedi cynnwys mentro i farchnadoedd UDA a Tsieina, ac mae yna gynlluniau i fasnachu yn yr Emiradau Arabaidd Unedig yn fuan iawn.
UDA yw marchnad allforio fwyaf y cwmni erbyn hyn ar ôl i’r cwmni lofnodi cytundeb ag un o gadwyni fferylliaeth mwyaf UDA sydd â miloedd o siopau ar draws y wlad, yn ogystal â Vitamin Shoppe, gwerthwr atychwanegion maetheg, sydd â dros 700 o siopau.
Mae’r partneriaethau adwerthu yma’n darparu profiad adwerthu wyneb yn wyneb ar gyfer cwsmeriaid Americanaidd Health & Her, a oedd ond yn gallu prynu cynhyrchion trwy wefan Health & Her a thrwy Amazon US yn y gorffennol.
Trawsnewidiodd y gallu yma i gyrchu marchnad atychwanegion $40bn UDA brand Health & Her ar unwaith, gan gynyddu ei refeniw o UDA o 5% i 8% o’i holl drosiant o fewn cwta ychydig fisoedd.
Cafodd y cam i adwerthu yn y DU ei hwyluso gan Lywodraeth Cymru trwy ei rhaglen Datblygu Masnach Ryngwladol (ITD), sy’n darparu cyngor ymarferol, arweiniad, gwybodaeth a data ar gyfer busnesau yng Nghymru er mwyn galluogi iddynt wneud penderfyniadau strategol gwybodus ar eu siwrnai allforio.
Llwyddiant yn Tsieina
Yn Tsieina, mae Health & Her wedi ffurfio partneriaeth ag asiantaeth leol i gyrchu’r miliynau o siopwyr ar draws Tmall, TikTok, Douyin a sianeli ar lein eraill. TMall yw platfform masnachu ar lein a symudol trydydd parti mwyaf y byd ar gyfer brandiau ac adwerthwyr, ac mae’n gwasanaethu fel platfform i ddefnyddwyr yn Tsieina a thramor brynu cynnyrch brandiau tramor nad ydynt ar gael trwy adwerthwyr traddodiadol.
Cafodd y berthynas â’r asiantaeth o fewn marchnadoedd Tsieina, sydd wedi helpu Health & Her i sefydlu partneriaethau masnachol yn y wlad, ei hwyluso gan ddau gynrychiolydd masnachu o Lywodraeth Cymru a Chyngor Busnes Tsieina-Prydain, a fynychodd gyfarfodydd â sylfaenwyr Health & Her yn Guangzhou, ac a gynorthwyodd wrth negodi’r contractau.
Archwilio Marchnad y Dwyrain Canol a'r Almaen
Yn y Dwyrain Canol, arddangosodd Health & Her eu cynnyrch ym Mhafiliwn Cymru yn Arab Health ym mis Ionawr 2024, yn rhan o daith fasnach Llywodraeth Cymru. Denodd yr achlysur, sef un o gynadleddau a sioeau masnach gofal iechyd mwyaf y byd, ddiddordeb tri adwerthwr pwysig a thri dosbarthwr yn y rhanbarth. Ers hynny, mae’r cwmni wedi bod yn gweithio’r tu ôl i’r llenni i ennill yr achrediadau priodol i gyrraedd marchnadoedd y Dwyrain Canol, a byddant yn lansio yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ym mis Hydref.
Yn dilyn llwyddiant y daith i Arab Health, mae’r cwmni’n edrych ymlaen at gael ymuno â’r ddirprwyaeth fawr o Gymru fydd yn mynychu MEDICA yn Dusseldorf ym mis Tachwedd. Yn yr un modd ag Arab Health, MEDICA yw un o ddigwyddiadau masnachu MedTech mwyaf y byd, ac mae’n un o uchafbwyntiau rhaglen teithiau masnach Llywodraeth Cymru. Mae Health & Her yn awyddus i ddefnyddio’r digwyddiad fel platfform i ehangu eu cwmpas o fewn y farchnad Almaenaidd, lle maent ar gael trwy Amazon yn unig ar hyn o bryd.
Rhaglen gymorth Llywodraeth Cymru
Mae Health & Her yn defnyddio Rhaglen Cyfleoedd Masnachu Rhyngwladol (ITO) Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o gynorthwyo busnesau i glustnodi’r partneriaid dosbarthu ac adwerthu cywir mewn marchnadoedd allforio newydd.
Mae’r rhaglen ITO yn defnyddio rhwydwaith byd-eang Llywodraeth Cymru i gysylltu busnesau â’u partner neu gwsmeriaid delfrydol mewn dros 50 o wahanol wledydd. Mae ITO ar gael i allforwyr newydd a phrofiadol, waeth beth fo’u maint.
Edrych ar farchnadoedd pellach
Yn ogystal â’r daith MEDICA, bydd Health & Her yn cyflawni tri ymweliad pellach â marchnadoedd yn 2024, i UDA, Oman a Denmarc, oll â chefnogaeth a chymorth Llywodraeth Cymru, y tro yma trwy’r rhaglen Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor.
Ehangu cwmpas byd-eang cynnyrch Health & Her yw’r cam cyntaf wrth gyflwyno’r cwmni i fenywod ar draws y byd, ac y mae ei ap llesiant y perimenopos a’r menopos eisoes yn cael ei ddefnyddio gan fenywod mewn 176 o wledydd ar draws y byd.
“Mae allforio wedi bod ar ein map ar gyfer twf o’r dechrau’n deg. Cyrchu marchnadoedd byd-eang helaeth oedd ein nod o’r cychwyn cyntaf. Wedi’r cyfan, er gwaethaf y gwahaniaethau sydd rhyngom ni, waeth pwy ydych chi nac ymhle rydych chi’n byw, bydd menywod ym mhob man yn profi newidiadau a sialensiau o ran iechyd hormonaidd o hyd.
“Cawsom ein cyflwyno i’r tîm allforio yn Llywodraeth Cymru gan endidau eraill Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio gyda ni, gan gynnwys y Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) a Banc Datblygu Cymru, sydd wedi darparu sawl cylch o gyllid ar ein siwrnai busnes.
“Mae’r cymorth rydyn ni wedi ei gael gan y tîm allforio yn Llywodraeth Cymru wedi bod heb ei ail. Ac mae hi wedi bod yn broses gydweithredol iawn rhyngom. Rydyn ni wedi buddsoddi llawer yn y berthynas, a gyda’u harweiniad a’u harbenigedd, mae hi wir wedi talu ffordd. Byddwn yn eu hargymell i unrhyw gwmni Cymreig sy’n ystyried cymryd y naid i allforio.”