Mae gan Atlantic Service Company o Gaerffili, cwmni gweithgynhyrchu blaenllaw sy'n cynhyrchu cyfarpar i’w ddefnyddio mewn gweithfeydd prosesu bwyd a siopau cig, eisoes restr helaeth o archebion rhyngwladol, a chleientiaid mewn dros 50 o wledydd ar draws y byd.

Allforion sydd i gyfrif am ryw 80% o fasnach y cwmni, ac erbyn hyn mae’r cwmni’n bwriadu hybu allforion mewn tiriogaethau newydd yn rhan o gynlluniau ehangach i dyfu’r busnes.

Cynnyrch sefydledig o ansawdd uchel

O’i bencadlys ger y Coed Duon, mae gan Atlantic Service Company enw da rhyngwladol am ei lafnau gwydn o safon uchel, sy'n para'n dda sy'n cael eu defnyddio i dorri cig a physgod. Mae ei gynnyrch bellach i'w weld mewn gweithfeydd prosesu bwyd a siopau cig a physgod ym mhedwar ban y byd.

Sefydlwyd y cwmni yn UDA yn 1901, a symudodd i Gymru ym 1980 er mwyn ehangu i’r DU a darparu porth i’r farchnad Ewropeaidd. Sefydlwyd y gweithfeydd yng Nghymru fel busnes prydlesu i gychwyn, gan wasanaethu miloedd o gigyddion, cyfanwerthwyr ac archfarchnadoedd ar draws y DU â llafnau at ddefnydd pob dydd. Ym 1993, galluogodd buddsoddiadau mawr mewn offer newydd iddo hybu cynhyrchant ac ehangu ei wasanaethau y tu hwnt i rentu.

Ar ôl ennill ei blwyf fel arweinydd clir ym marchnad y DU yn gyflym iawn, roedd angen ffocws newydd arno, a throdd y cwmni ei olygon at ehangu’n rhyngwladol ar ôl gweld bod bwlch yn y farchnad am ei gynnyrch dramor.  Yn 2001, penododd y cwmni reolwr allforio, a diogelodd ei gontractau allforio cyntaf ar ôl mynychu arddangosfa IFFA - sef ffair fasnach fwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer y diwydiant cig, sy'n cael ei chynnal yn yr Almaen unwaith bob tair blynedd.

Sylfaen cwsmeriaid rhyngwladol presennol

Ers hynny, mae'r cwmni wedi cynnal ei ffocws rhyngwladol ac wedi gweld ei drosiant yn fwy na dyblu ers 2017.  

Heddiw, o'i ganolfan yng Nghymru, mae Atlantic Service Company'n gwasanaethu cwsmeriaid ar bum cyfandir, ar ôl ychwanegu Asia a De America at y ei farchnadoedd sefydlog yng Ngogledd America ac Ewrop. Allforion sydd i gyfrif am 80% o'i fasnach, ac mae ganddo ddosbarthwyr yn Ewrop, De a Chanolbarth America, y Dwyrain Canol a Tsieina. 

Cyfleoedd newydd i'r farchnad dramor ar gyfer twf busnes

Er bod nifer fawr o archebion rhyngwladol gan y cwmni eisoes, mae'r Atlantic Service Company'n bwriadu cynyddu ei allforion eto fyth yn rhan o gynlluniau ehangach i dyfu'r busnes.  Yn 2022, symudodd y cwmni i gyfleuster newydd mwy yn yr un ardal diolch i’r cynnydd yn ei allforion. Mae’r ffatri newydd dair gwaith yn fwy na’r hen un, felly bydd Atlantic Service Company’n gallu cynyddu ei gapasiti’n sylweddol ac ehangu ymhellach fyth i farchnadoedd tramor.

Mae gan Atlantic Service Company uchelgeisiau i fentro i ragor o diriogaethau newydd – gan gynnwys Japan a Qatar lle mae hi wedi bod ar deithiau masnach rhithiol Llywodraeth Cymru – yn y dyfodol agos. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r cwmni wedi bod i ymweld â marchnadoedd yn Awstralia a Seland Newydd wrth iddo anelu at gynyddu gwerthiannau yn y rhanbarthau hynny.  

Mae Atlantic Service Company'n credu taw un ffactor allweddol yn llwyddiant a thwf allforion y cwmni dros y degawd diwethaf yw'r gefnogaeth a gafodd gan Llywodraeth Cymru, sydd wedi darparu gwybodaeth ymchwil gynhwysfawr am farchnadoedd mewn tiriogaethau newydd gan ei helpu i ddeall gofynion marchnadoedd lleol, a'i gynorthwyo i fynychu nifer o deithiau masnach – rhai wyneb yn wyneb ac eraill yn rhithiol.  

Dywedodd Elena Harries, Rheolwr Gwerthiannau Rhyngwladol Atlantic Service Company: "Mae allforion wedi chwarae rhan annatod yn ein twf dros y 10 mlynedd diwethaf, a byddwn yn argymell bod unrhyw gwmni sy'n ystyried allforio’n mynd amdani.

“Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld diddordeb yn ein cynnyrch tramor yn cynyddu'n sylweddol wrth i'r galw am adwerthu bwyd gynyddu ar draws y byd. Rydyn ni'n bwriadu tyfu ein cangen allforio eto fyth dros y blynyddoedd nesaf, gan ehangu ein presenoldeb yn y gwledydd lle mae gennym gleientiaid eisoes, a mentro i farchnadoedd newydd sbon. 

“Bydden i’n argymell fod unrhyw gwmni yng Nghymru sy’n ystyried allforio’n cysylltu â Llywodraeth Cymru. Fydden ni ddim wedi gallu tyfu mor gyflym fel cwmni heb eu cymorth nhw.”
 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen