RM Group

Mae RM Group, cwmni gweithgynhyrchu yn y Drenewydd, yn dylunio ac yn adeiladu peiriannau awtomatig a rhai sy’n cael eu gweithredu â llaw i brosesu a phecynnu eitemau ar gyfer diwydiannau fel bwyd a diod, adeiladu, ynni, y cyfleustodau a diwydiant yn gyffredinol.

Sefydlwyd y cwmni fel busnes pecynnu bach dros 20 mlynedd yn ôl, a phorthiant anifeiliaid oedd ei ffocws ar y cychwyn.

Mae'r cwmni'n allforio’i gynnyrch i dros 15 o wledydd, gan gynnwys Gwlad yr Ia, Awstralia, Seland Newydd, Irac ac UDA. Allforion sydd i gyfrif am dros 20% o’i drosiant, ac mae’r ffigur yma’n tyfu bob blwyddyn, sy’n dangos gwerth allforio i’w dwf parhaus.

Llwyddiant rhyngwladol

Ddechrau 2022, agorodd y busnes ei swyddfa Americanaidd gyntaf yn Delaware mewn ymateb i gynnydd mewn ymholiadau o UDA. Mae’r swyddfa newydd wedi caniatáu i gleientiaid sy'n gweithio yno gael siarad â gwerthwyr ac ymgynghorwyr yn eu cylchfa amser eu hunain.

Mae’r cam uchelgeisiol yma wedi bod yn llwyddiant ysgubol i’r cwmni, ac o ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o’i waith rhyngwladol mewn blynyddoedd diweddar wedi bod o fewn marchnad helaeth UDA.

Ers agor ei swyddfa yn Delaware, mae RM Group wedi cronni nifer o gytundebau ar draws y UDA, gyda chontractau yn Delaware, Illinois, Arkansas ac Utah ymysg eraill, yn ogystal ag archeb sylweddol am system becynnu awtomataidd ar gyfer cwmni cynhyrchu halen diwydiannol yn Florida. 

Mae un cytundeb nodedig gwerth £750,000 yn Chicago yn cynnwys datblygu peiriannau pecynnu symudol arloesol o gynwysyddion amlwytho i greu ffatri fodwlar ar gyfer cleient sy’n gweithio yn y sector trin deunyddiau swmp.

Diolch i lwyddiant parhaus y cwmni yn UDA, denodd y cwmni sylw cwmni awtomeiddio yno sydd bellach yn archebu offer RM Group o dan ei frand ei hun ac yn eu gwerthu ar draws Utah, dan gytundeb y disgwylir iddo fod werth hyd at £10 miliwn dros y pum mlynedd nesaf.

Cefnogaeth Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu gyda llwyddiant allforio RM, trwy ddarparu cymorth ariannol i gynorthwyo'r cwmni i anfon cynrychiolwyr ar deithiau masnach, a chyflawni gwaith ymchwil manwl i ddarpar-diriogaethau newydd, gan gynnwys UDA, er mwyn pwyso a mesur yr archwaeth sydd yno ar gyfer ei gynnyrch.

A dweud y gwir, mae sawl cynrychiolydd o’r cwmni newydd ddychwelyd o ymweliad â’r farchnad yn Awstralia, wedi’i gefnogi gan Grant Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor Llywodraeth Cymru, lle aethant i APPEX – Arddangosfa Prosesu a Phecynnu Awstralasia ym Melbourne, sy’n cynrychioli pob sector o’r diwydiant, gan gynnwys peiriannau, offer ategol, deunyddiau a phecynnu, prosesu bwyd a gwasanaethau diwydiannol. Wrth ymweld ag Awstralia, manteisiodd cyfarwyddwyr RM Group i gyfarfod â nifer o bartneriaid a chysylltiadau newydd yn y farchnad hefyd, mewn cyfres o gyfarfodydd a hwyluswyd ac a ariannwyd yn rhannol gan Llywodraeth Cymru. 

Mae’r ymweliad ag Awstralia yn rhan o ehangiad RM Group i’r wlad ar ôl i’r cwmni gyflogi cyfarwyddwr gwerthu llawn-amser yno. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni ar fin llofnodi nifer o gytundebau newydd yn y wlad, trwy’r hyn a fydd yn gyflwyniad pwysig i’r farchnad yno.
 

Dywedodd James Nicholls, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Masnachol RM Group: “Yn wahanol i farchnad y DU, sy’n gystadleuol tu hwnt ac yn cael ei yrru gan gostau i raddau helaeth - sy’n gwthio elw i lawr, mae marchnadoedd allforio rhyngwladol yn fwy agored o lawer ac yn cynnig nifer aruthrol o gyfleoedd ar gyfer cwmni gweithgynhyrchu arbenigol fel ni.

“Mae hynny’n golygu ein bod ni’n fwy arloesol, effeithlon a phroffidiol o lawer o ran ein masnach ryngwladol, sy’n golygu ein bod ni am wneud mwy, yn naturiol!

“Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cyflawni llawer o’n llwyddiant allforio gyda chymorth Llywodraeth Cymru, sydd wedi darparu arweiniad a chefnogaeth lle bynnag a phryd bynnag roedd ei angen, ac ar bob cam o’r ffordd.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen