Mae Makefast Group, cwmni gweithgynhyrchu o’r Drenewydd, yn dylunio ac yn adeiladu offer ar gyfer y diwydiannau morol a diogelwch, a systemau ar gyfer badau hwylio mawreddog a chychod moethus, gan gynnwys toeau haul sy’n agor, unedau cysgodlenni a phlatfformau ymdrochi.
Sefydlwyd y cwmni ym 1974 a’i ffocws gwreiddiol oedd cynhyrchu caledwedd diogelwch ar gyfer y diwydiant morol, gan gyflenwi rhai o gynhyrchwyr siacedi achub mwyaf y DU, gan gynnwys Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub. Yn fuan wedyn, dechreuodd ehangu ei gynnyrch i gynhyrchu eitemau gwerth uwch, a mentro i farchnadoedd tramor er mwyn ehangu’r busnes.
Heddiw, mae Makefast Group yn allforio i dros 30 o wledydd, gan gynnwys yr Eidal, Ffrainc, Brasil, Taiwan ac UDA, a gwerthiannau rhyngwladol sydd i gyfrif ddau draean o fasnach y cwmni.
Er bod y cwmni’n dal i allforio ei gynnyrch caledwedd, systemau morol y cwmni sy’n cynhyrchu prif refeniw’r cwmni wrth eu gwerthu i ddau o farchnadoedd allweddol mwyaf Makefast – sef UDA a’r Eidal, sy’n wlad flaenllaw wrth gynhyrchu cychod hwylio moethus yn Ewrop. Mae gan Makefast Group gontractau penodedig gydag wyth o ddosbarthwyr yno, gan gynnwys ei is-gwmni Eidalaidd, Makefast Italia.
Ehangu Americanaidd
Agorodd y cwmni ei ganolfan gyntaf yn America ym Maryland y llynedd mewn ymateb i’r galw cynyddol am ei gynnyrch yn UDA. Ers agor swyddfeydd yn UDA, mae Makefast wedi cryfhau ei bresenoldeb yn y rhanbarth, gan ennill nifer o gontractau newydd gwerth $5 miliwn y llynedd yn unig.
Mae Makefast yn bwriadu efelychu’r un llwyddiant trwy agor rhagor o swyddfeydd rhyngwladol, gan gynnwys canolfan yn Ewrop a fyddai’n ei gwneud yn haws i’r cwmni feithrin perthnasau â chwsmeriaid yn eu rhanbarthau eu hunain.
Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi hwyluso llwyddiant Makefast wrth allforio dros y 15 mlynedd diwethaf. Mae’r cwmni’n gysylltiedig â Rhaglen Cyfleoedd Masnachu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, sy’n darparu cymorth i fusnesau glustnodi darpar-gwsmeriaid a meithrin cysylltiadau â nhw, yn ogystal â chael cyngor am wybodaeth fasnachu ar lefel leol.
Trwy’r rhaglen, mae Makefast wedi diogelu dosbarthwyr newydd ym Mrasil, ac wedi elwa ar ymchwil i’r farchnad mewn marchnadoedd newydd posibl, fel UDA, er mwyn pwyso a mesur yr archwaeth am werthiannau yno. Yn ogystal, mae’r cwmni wedi cael cymorth ariannol i symud i’w gyfleuster newydd hollol fodern ym Mhowys, a buddsoddi mewn offer a phrosiectau newydd.
Dywedodd Chris Brown, Cyfarwyddwr Cyllid Makefast Group: “Mae allforio’n rhan hanfodol o’n busnes ac mae hi wedi chwarae rhan allweddol yn ein twf dros y blynyddoedd. Mae’r farchnad fyd-eang am fadau hwylio a chychod moethus yn anferth ac yn dal i dyfu, fel yn achos UDA, sy’n cynnig cyfleoedd di-ri i ni. Dyna pam ein bod ni am roi hwb mwy eto i ochr ryngwladol ein busnes wrth edrych tua’r dyfodol.
“Ers 2007, rydyn ni wedi cael pob math o gymorth gan Llywodraeth Cymru trwy Busnes Cymru, gan gynnwys cymorth ariannol i’n galluogi i fynychu sioeau masnach rhyngwladol, cymorth i glustnodi llwybrau newydd i’r farchnad, cyngor ar y ffordd orau o addasu cynnyrch ar gyfer gwahanol ranbarthau, a chyllid i’w fuddsoddi mewn technoleg ac offer er mwyn sicrhau bod ein cynnyrch yn dal i fod o’r safon uchaf, sy’n rhywbeth sydd wedi bod yn bwysig dros ben i ni.”