Mae Hexigone Inhibitors, cwmni gweithgynhyrchu uwchdechnolegol yn ne Cymru, yn mynd i'r afael â phroblem fyd-eang â chost o sawl triliwn o bunnoedd gyda'i gynhyrchion patent. Yn dilyn darganfyddiad a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe, dechreuodd y cwmni ar ei siwrnai allforio yn 2021.
Mae Hexigone Inhibitors ym Maglan yn arbenigo mewn technoleg micro-gronfeydd sy'n cael ei hychwanegu at baent a chaenau amddiffynnol er mwyn atal cyrydiad. Gall amrywiaeth eang o ddiwydiannau, gan gynnwys y diwydiannau adeiladu, olew a nwy, morwrol ac awyrofod, fanteisio ar atalwyr cyrydiad Hexigone am eu bod yn helpu i atal y difrod y mae cyrydiad yn ei achosi i gychod, llongau, awyrennau, tanciau olew, ceir, adeiladau a llawer iawn mwy.
Lansiodd y cwmni deillio ei strategaeth allforio tair blynedd yn ôl ar ôl datblygu o waith ymchwil Prifysgol Abertawe. Dr Patrick Dodds yw sylfaenydd y cwmni a ddatblygwyd mewn ymateb i alw cynyddol am ddewisiadau diogel yn hytrach nag ïon cromad chwefalent – yr ataliwr cyrydiad mwyaf cyffredin – sydd wedi ei wahardd yn Ewrop ers 2019 am ei fod yn garsinogenaidd.
Cydweithiodd Dr Dodds ag arweinwyr o’r diwydiant i ddatblygu atalwyr mwy diogel a chynaliadwy. Y canlyniad oedd cynnyrch sydd wedi profi i fod dros ddeg gwaith yn fwy effeithiol na'r dewisiadau gorau eraill sydd ar y farchnad, ac mae hi hyd yn oed wedi rhagori ar berfformiad ïon cromad chwefalent ei hun, yn ogystal â’r atalydd newydd arall, ffosffad sinc.
Am fod cyrydiad yn costio triliynau i economi'r byd bob blwyddyn, ac am fod y diwydiant atalwyr rhwd gwerth dros £5.6bn, mae'r posibiliadau o ran marchnadoedd tramor a allai fod ar gael i'r cwmni Cymreig yn aruthrol.
Gwelwyd hyn ddiwedd 2023 – dechrau 2024 wrth i Hexigone lofnodi nifer o gytundebau allforio mewn gwledydd fel India, Mecsico, UDA ac ar draws De a Chanolbarth America, ac mae nifer sylweddol o gytundebau eraill ar y gweill ar draws rhanbarthau eraill ym mhedwar ban y byd erbyn hyn.
Allforion sydd i gyfrif am 95% o drosiant Hexigone bellach, ac ers 2021 mae’r cwmni wedi dwysáu ei brosesau 3000% ac wedi cynyddu ei staff 50%.
Mae Dr Dodds a’i dîm yn teithio ar draws y byd i gyd i gyfarfod â chleientiaid newydd ac mae ganddynt nifer o gytundebau pwysig sydd o fewn dim i gael sêl bendith.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu amrywiaeth o gymorth ar gyfer Hexigone dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn cynorthwyo'r busnes ar ei siwrnai allforio, gan gynnwys cymorth ariannol, a chyfleoedd i’r cwmni fynychu teithiau masnach i wledydd ym mhedwar ban y byd i’w alluogi i feithrin cysylltiadau a pherthnasau â darpar gwsmeriaid a phartneriaid yn y marchnadoedd targed.
Y llynedd, cynorthwyodd Llywodraeth Cymru Hexigone i fynychu’r Sioe Caenau Ewropeaidd yn Nuremburg, a Paint India yn Delhi.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi hefyd yn cynorthwyo Hexigone i ddod o hyd i ddosbarthwyr yng Ngholombia trwy ymgynghorydd yn y rhanbarth sy’n cyflawni archwiliadau cefndir ac yn asesu enw da dosbarthwyr mewn marchnadoedd lleol.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae Hexigone wedi mynychu Sioe Caenau America yn Indianapolis a Paintistanbul & Turkcoat yn Istanbul. Yn nes ymlaen yn yr haf, byddan nhw’n mynychu Sioe Caenau America Ladin yn Ninas Mecsico.
“Mae cynnyrch gwych gyda ni, r’yn ni’n gwybod hynny”, meddai Dr Dodds, “felly mae angen i ni fynd â hi allan i gynifer o farchnadoedd a sectorau â phosib. Mae’r marchnadoedd allforio byd-eang yn creu posibiliadau di-ben-draw.
“Ond mae hi’n hanfodol hefyd ein bod ni’n deall beth sydd ei angen ar ein cwsmeriaid – gwrando arnyn nhw a deall beth sy’n eu gyrru, a beth sy’n digwydd ar eu marchnadoedd nhw. Yn achos allforio, nid oes yna’r un ateb syml, mae pob marchnad yn wahanol, ac mae Llywodraeth Cymru wir wedi ein cynorthwyo ni i ddeall hyn a mynd ati mewn ffordd bwrpasol i bob un.
“Mae India’n farchnad anferth i ni”, meddai Dodds, “mae’r gyfradd twf mor gyflym ac mae’r buddsoddiad yn y seilwaith heb ei ail. Mae hi’n anghredadwy faint sy’n digwydd yno.
“A dweud y gwir, mae’r rhanbarthau lle mae yna brosesau cyflymach ar gyfer gwneud penderfyniadau wedi dod yn farchnadoedd mawr i ni. Yn y DU mae hi’n gallu cymryd dros bedair blynedd i gael penderfyniad gan gleient, ond mewn gwledydd fel India a Thwrci, sy’n farchnadoedd rydyn ni’n mentro iddynt, mae hi’n cymryd llai na 12 mis o’r sgwrs gyntaf i gwblhau’r cytundeb.”