Mae Halton Cymru (Flamgard Calidair), cwmni gweithgynhyrchu Cymreig y mae eu cynnyrch wedi cael ei ddefnyddio mewn prosiectau blaenllaw ym mhedwar ban y byd, yn gweld ei strategaeth allforio'n talu ar ei ganfed gyda gwerthiannau’n torri pob record. 

Mae Halton Cymru bellach yn disgwyl torri ei record trosiant yn 2024, ac mae golygon y cwmni ar ddyblu hyn erbyn 2030 trwy ehangu'r sylfaen o gwsmeriaid byd-eang eto fyth.

Mae Halton Cymru o Bont-y-pŵl, sy'n cyflogi 72 o bobl, yn gwmni rhyngwladol blaengar sy’n dylunio ac yn cynhyrchu systemau amddiffyn rhag tân a ffrwydradau a systemau awyru ar gyfer y diwydiannau niwclear, twnelu ac ynni. Mae cynnyrch y cwmni'n cael ei ddefnyddio i gyfyngu mwg, tân, nwyon gwenwynig a thonnau ffrwydro dan amodau damwain trwy’r system awyru.

Sefydlwyd y cwmni'n wreiddiol dan yr enw Flamgard Calidair ym 1981 ac er i’r cwmni fwynhau digon o lwyddiant domestig, ni ddechreuodd fasnachu dramor tan ganol yr 80au. Dechreuodd ei siwrnai allforio ar ôl iddo ddenu sylw nifer o gwmnïau amlwladol yr oedd wedi bod yn gweithio gyda nhw ar brosiectau yn y DU ym Môr y Gogledd, a berodd iddynt ddewis defnyddio Flamgard ar gyfer prosiectau rhyngwladol diweddarach. Mae cangen allforio Flamgard wedi parhau i dyfu byth ers hynny.  

Y llynedd, daeth y cwmni’n eiddo i’r busnes technoleg aer dan do, Halton Group, gan ddod yn Halton Cymru. Mae hyn wedi agor byd o farchnadoedd a chyfleoedd allforio newydd i’r cwmni wrth i Flamgard elwa ar rwydwaith barod Halton o bartneriaid  gwerthu ym mhedwar ban y byd.

Erbyn heddiw, gwerthiannau rhyngwladol sydd i gyfrif am tua 90 y cant o fasnach Halton Cymru, ac mae’r cwmni'n allforio cynnyrch i fwy na 10 o wledydd ar draws yr UE, Awstralia, UDA, De America a De-ddwyrain Asia. Mae gan y cwmni gontractau gydag enwau mawr y diwydiant gan gynnwys Chevron, ExxonMobil, Shell, BP, Siemens a Rolls Royce.

Mae Halton Cymru wedi gweithio ar nifer o gynlluniau rhyngwladol uchel eu proffil. Yn nodedig, chwaraeodd rôl allweddol yn y gwaith hirdymor i wneud safle trychineb niwclear Chernobyl yn ddiogel, gan ddarparu damperau tân a systemau neilltuo ar gyfer y gromen Cyfyngu Diogel Newydd ar y safle. Cyflenwodd y cwmni gynnyrch ar gyfer system fetro uchelgeisiol Riyadh yn Saudi Arabia hefyd, sef prosiect seilwaith mwyaf y byd ar y pryd. 

Nôl adref, mae Halton Cymru’n gweithio ar brosiect niwclear Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf lle mae'n gyfrifol am ddylunio a phrofi'r genhedlaeth nesaf o ddamperau awyru diogelwch critigol.  Chwaraeodd ran hefyd ym mhrosiect uwch garthffosydd £4.1bn Thames Tideway yng Nghanol Llundain - a phrif ffocws y cwmni oedd gweithio ar brosiectau sy’n cynnig atebion i gynorthwyo datgarboneiddio a chynaliadwyedd hefyd.

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Halton Cymru wedi gweld ei drosiant yn dyblu i dros £8m o ganlyniad i’w strategaeth allforio, ac erbyn hyn mae’n gobeithio ei ddyblu eto erbyn 2030 trwy hybu prosiectau allforio yng Ngogledd America a’r Dwyrain Canol. Mae UDA yn farchnad twf allweddol ar gyfer y cwmni, a disgwylir iddo agor canolfan bwrpasol i’r UDA yn Ne Carolina yn ddiweddarach eleni diolch i’r galw mawr sydd yna am ei gynnyrch yn y rhanbarth. Yn ogystal â helpu i dyfu’r busnes dros y ddau ddegawd diwethaf, mae Halton Cymru’n gweld allforion yn hanfodol i’w wytnwch mewn cyfnodau anodd, wrth ganiatáu iddo amrywio’i farchnadoedd.

Mae Halton Cymru’n priodoli llawer o'i lwyddiant dramor i gymorth Llywodraeth Cymru. Mae'r cwmni wedi mynychu nifer o deithiau masnach ac arddangosfeydd a drefnwyd gan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ymweliadau ag Abu Dhabi, Texas, Tokyo a Pharis, sydd wedi caniatáu iddo feithrin cysylltiadau â chwmnïau yn y rhanbarthau hynny a diogelu nifer o gontractau, gan gynnwys gwaith gyda Siemens ac EDF.  Mae'r busnes wedi cael cymorth hefyd i gyflawni gwaith ymchwil i'r farchnad er mwyn clustnodi cyfleoedd busnes dramor, a chyllid i'w gynorthwyo â gwaith ymchwil a datblygu.

Dywedodd Shuresh Maran, Cyfarwyddwr y Segment: "Trwy allforio i nifer o leoliadau, â lledaeniad daearyddol a sectoraidd da, rydyn ni wedi sicrhau nad ydym yn hollol ddibynnol ar un farchnad yn unig. Mae hyn wedi bod yn hollbwysig wrth sicrhau ein gwytnwch er gwaetha'r sialensiau sydd wedi wynebu'r sectorau olew a nwy, yn ogystal â'r sialensiau economaidd ehangach dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i'n hehangiad rhyngwladol, gan ein galluogi ni i fynd ar deithiau masnach amhrisiadwy na fyddem wedi gallu mynd arnynt fel arall am fod ein cyllidebau teithio’n gyfyng.  Maen nhw wedi ein cynorthwyo ni â gwaith ymchwil hanfodol i'r farchnad hefyd er mwyn deall pa sectorau a rhanbarthau y gallem weithio gyda nhw, ac mae cymorth ariannol wedi ein cynorthwyo ni â gwaith ymchwil a datblygu i'n galluogi i arloesi a chyflawni gofynion prosiectau.

“Byddwn i’n annog unrhyw gwmni sy'n ystyried allforio i gysylltu â nhw. Mae ganddynt gyfoeth o ymgynghorwyr arbenigol ar allforio sy'n gallu helpu eich cwmni a'ch cynhyrchion ar y llwyfan rhyngwladol.”

I gael rhagor o wybodaeth am Flamgard Calidair, ewch i: https://flamgard.co.uk/ 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen