Mae Grŵp Raven Delta, sydd wedi ei leoli yn Abertawe, yn chwyldroi’r modd rydyn ni’n meddwl am adeiladau. Yn hytrach na’u gweld nhw’n strwythurau statig, mae’r Grŵp yn eu trin nhw’n amgylcheddau deinamig sy’n cael effaith uniongyrchol ar ein hiechyd, ein llesiant, a’n cynhyrchiant. Sefydlwyd Raven Delta gan Brif Swyddog Gweithredol y Grŵp Dave Kieft, a daw â nifer o gwmnïau arbenigol dan un genhadaeth unedig: gwella ansawdd amgylcheddol dan do (IEQ), sicrhau cydymffurfiaeth, a...
Troi gwastraff yn gyfle: Sut y rhoddodd y Rhaglen Cyflymu Twf yr offer i SMR UK dyfu’n ddoethach, yn gynt, ac yn wyrddach
Mae gan y cwmni o’r Hendy SMR UK genhadaeth i newid sut mae cwmnïau adeiladu a chyfleustodau yn meddwl am wastraff. O'i safle cynhyrchu yng Nghil-y-coed, mae SMR UK yn cynhyrchu ac yn cyflenwi cynhyrchion rhwymwr patent sy'n trawsnewid deunyddiau sbwriel a gwastraff cloddiedig yn ddeunyddiau adeiladu cryf, y gellir eu hailddefnyddio. Mae eu cynhyrchion yn cynnig dewisiadau amgen cynaliadwy i ddulliau traddodiadol sy'n dibynnu ar agregau a safleoedd tirlenwi, gan dorri costau, lleihau allyriadau...
Gyrru newid: Sut y daeth FSEW yn un o arweinwyr y DU ym maes datgarboneiddio cludo llwythi gyda chymorth y Rhaglen Cyflymu Twf
Sefydlodd Geoff Tomlinson FSEW (Freight Systems Express Wales) yn 2002 ar ôl cael ei wneud yn ddi-waith gan gwmni cludo Ewropeaidd. Ar ôl sylwi ar fwlch yn y farchnad am wasanaeth anfon llwythi mwy ymatebol a oedd yn canolbwyntio’n fwy ar gwsmeriaid, lansiodd Geoff FSEW gyda dyrnaid o gysylltiadau a gweledigaeth feiddgar. O neidio ymlaen ddau ddegawd, bellach mae FSEW yn gweithredu o’i brif swyddfa yng Nghwynllŵg, Caerdydd. Mae dros 100 o bobl yn gweithio...
Galwad olaf am geisiadau i ymuno â Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes gan Busnes Cymru
Mae ceisiadau ar agor ar gyfer Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes nesaf Busnes Cymru, sef rhaglen deg wythnos gwbl ar-lein a fydd yn rhedeg rhwng dydd Mawrth 30 Medi 2025 a dydd Gwener 12 Rhagfyr 2025. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 15 Medi 2025. Mae’r rhaglen gyflymu wedi ei dylunio’n arbennig ar gyfer entrepreneuriaid yng Nghymru sydd â syniadau busnes twf uchel, gan gynorthwyo eu datblygiad o sicrhau cwsmer cyntaf i baratoi...
Gweithleoedd cynhwysol: Sut maen nhw’n eich helpu chi i recriwtio, cadw a thyfu
Nid dim ond y peth iawn i’w wneud yw creu gweithle amrywiol, hygyrch; mae hefyd yn strategaeth dyfu sydd wedi ennill ei phlwyf. Mae busnesau cynhwysol yn recriwtio o gronfa ddoniau ehangach, yn dal gafael ar staff arbennig, ac yn adeiladu enw da cryfach gyda chwsmeriaid, buddsoddwyr a phartneriaid. Pam mae twf cynhwysol yn gwneud synnwyr busnes Wrth i’ch busnes chi dyfu, bydd angen i chi gael pobl wych i’ch helpu. Os yw eich gwaith...
Cwrdd â’ch Rheolwr Perthnasoedd: Howard Jones, o fod yn entrepreneur i fod yn ymgynghorydd twf
Mae Howard yn hyfforddwr, ymgynghorydd, ac arweinydd busnes profiadol sydd ag arbenigedd ym maes datblygiad sefydliadol a strategaeth twf uchel. Mae’n Gymrawd Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, a dechreuodd ei yrfa yn NatWest cyn symud i rolau uwch yn International Thomson Organization. Yno, lansiodd fenter gyhoeddi a maes o law cyd-sefydlodd fusnes mewn partneriaeth â Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain. Yn un o Reolwyr Perthnasoedd y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT), mae’n cynorthwyo cwmnïau uchelgeisiol...
Llunio cynnig sy’n cael effaith: 12 cyngor ar gyfer llunio cynigion i ennill gwobrau
Am godi eich proffil, denu buddsoddiad neu hybu morâl y tîm? Gall ennill gwobrau eich helpu chi i wneud hynny a rhagor. Ond os ydych chi am gyrraedd y rhestr fer, rhaid i chi lunio stori afaelgar sy’n sefyll allan, sy’n taro tant â’r beirniaid, ac sy’n dangos yn union pam mae eich busnes chi’n haeddu cael sylw. Rwy wedi beirniadu nifer o wobrau ac wedi llunio nifer o gynigion buddugol ar gyfer fy musnes...
7 o ffyrdd i barhau’n weladwy mewn chwiliad AI
Mae ymddygiad chwiliadau’n symud. Dyma sut y gall busnesau â’u bryd ar dwf barhau’n gystadleuol mewn byd digidol wedi eu pweru gan offer AI a chwiliadau sgyrsiol. Bellach nid yw chwilotwyr yn dangos dolenni yn unig mewn ymateb i ymholiadau gan ddefnyddwyr. Mae AI Overviews Google, Copilot Bing, a ChatGPT gyda phori amser go iawn wedi eu dylunio i roi atebion sgyrsiol ar unwaith i ddefnyddwyr. O’r herwydd, yn aml caiff defnyddwyr beth y mae...
Newid y Stori: Y busnes newydd yng Nghymru sy’n rhoi calon ddiwylliannol, greadigol i ofal dementia
Ar ôl gweithio ers 17 flynedd i’r GIG a gwasanaethau cymunedol, gwelodd Donna Chappell fwlch ym maes gofal dementia, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Teimlai’n rhwystredig fod pobl, yn aml, yn cael eu trin yn wrthrychau gofal goddefol, yn hytrach nag unigolion sydd â hunaniaethau, sgiliau a straeon cyfoethog. Dyna a arweiniodd Donna i greu Ty Dol, sef clwb gweithgareddau wedi’i ysbrydoli gan Montessori ar gyfer pobl sydd â dementia a chyflyrau iechyd hirdymor...
Cydnabod chwe sylfaenydd arloesol yng Ngwobrau Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes
Roedd hi’n garreg filltir nodedig i entrepreneuriaeth Cymru pan gafodd chwe entrepreneur o bob cwr o Gymru eu cydnabod am eu creadigrwydd, eu heffaith a'u cynnydd ar ôl cwblhau Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes – sef rhaglen ddwys a luniwyd i helpu busnesau newydd sydd â photensial cryf i dyfu’n gyflym. Mae’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, sy’n cael ei darparu dan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, yn rhoi i sylfaenwyr sy’n dechrau arni yr offer...