Mae Grŵp Raven Delta, sydd wedi ei leoli yn Abertawe, yn chwyldroi’r modd rydyn ni’n meddwl am adeiladau. Yn hytrach na’u gweld nhw’n strwythurau statig, mae’r Grŵp yn eu trin nhw’n amgylcheddau deinamig sy’n cael effaith uniongyrchol ar ein hiechyd, ein llesiant, a’n cynhyrchiant. Sefydlwyd Raven Delta gan Brif Swyddog Gweithredol y Grŵp Dave Kieft, a daw â nifer o gwmnïau arbenigol dan un genhadaeth unedig: gwella ansawdd amgylcheddol dan do (IEQ), sicrhau cydymffurfiaeth, a gyrru cynaliadwyedd hirdymor.
Mae Grŵp Raven Delta yn gwasanaethu sectorau megis addysg, gofal iechyd, amddiffyn, ac eiddo masnachol, ac mae wedi tyfu i gyflogi dros 200 o staff, a’r mwyafrif wedi eu lleoli yng Nghymru. Mae’n creu refeniw blynyddol o ryw £20 miliwn. Gyda chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf rhyngwladol ac enw cryf ar gyfer arloesi, mae’r Grŵp yn prysur ddod yn arweinydd meddwl wrth greu amgylcheddau adeiledig iachach.
Yma, mae Dave yn rhannu sut yr helpodd cymorth gan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru i droi grŵp llwyddiannus o fusnesau’n sefydliad pwrpasol, unedig sy’n gallu arwain yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Sut mae RCT wedi helpu Grŵp Raven Delta i dyfu?
Mae RCT wedi bod yn bartner hollbwysig wrth ein helpu ni i dyfu’n bwrpasol. Buon nhw’n gefn i ni yn ystod trawsnewid pwysig, wrth i ni symud o gasgliad o fusnesau unigol yn un grŵp â gweledigaeth unedig. Roedd eu mentora o gymorth i ni fireinio ein strategaeth, gwella cydlyniant arweinyddiaeth, a chyflwyno brand unedig i’r farchnad.
Ac roedd modd i ni archwilio marchnadoedd newydd yn fwy hyderus gyda chymorth arweiniad RCT ynghylch arloesi, cynnig datblygiad, a chynllunio busnes. Nid gormod dweud eu bod nhw wedi ein helpu ni i fod yn barod ar gyfer y dyfodol.
Daeth y cymorth mwyaf gwerthfawr ar ffurf mentora strategol. Helpodd RCT ni i fapio sut i alinio ein busnesau, mynegi ein cynnig o ran gwerth, a nodi’r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen ar gyfer twf cynaliadwy.
Helpodd eu harweiniad ar arloesi a datblygu arweinyddiaeth hefyd ni i gyflymu ein cynlluniau. Rydyn ni wedi symud yn gynt gyda rhagor o hyder nag y byddem ni wedi gallu’i wneud ar ein pennau ein hunain.
Beth sy’n gwneud Grŵp Raven Delta yn wahanol yn eich sector chi?
Ein dull cyfannol. Er bod y rhan fwyaf o ddarparwyr yn canolbwyntio ar agweddau unigol megis cynnal a chadw neu ansawdd aer, rydyn ni’n cynnig model cynhwysfawr sy’n integreiddio iechyd, diogelwch, perfformiad, a chynaliadwyedd. Dyna y mae ei angen ar gleientiaid heddiw: meddwl integredig a deilliannau mesuradwy.
Pa heriau a ddaeth i’ch rhan chi wrth i chi geisio tyfu?
Ein her fwyaf ni oedd integreiddio. Roedd gan pob busnes ei system, ei ddiwylliant, a’i ddull gweithredol ei hun. Un o’n gorchwylion pwysig oedd creu cysondeb ledled y grŵp ar draws y prosesau, brandio, a seilwaith.
Roedd rhaid hefyd i ni ailfeddwl sut yr aethom ni ati i ddarparu ein gwasanaethau. Er mwyn symud o fodel adweithiol, seiliedig ar dasgau i ddull partneriaeth hirdymor, ragweithiol â chleientiaid, roedd angen newidiadau strwythurol a diwylliannol. O ganlyniad i gyngor RCT cawsom fap clir a hyder yn ystod y newid hwnnw.
Ydych chi wedi cyflwyno gwasanaethau newydd neu wedi tyfu’r tîm ers gweithio gyda RCT?
Do, cryn dipyn. Un o’n symudiadau mwyaf arwyddocaol oedd prynu MedicAir, sy’n ein galluogi ni i ddarparu atebion puro aer uniongyrchol ar y cyd â’n gwasanaethau dadansoddi a monitro. O’r herwydd, bellach mae modd i ni gynnig ateb cynhwysfawr o’r dechrau i’r diwedd ym maes ansawdd aer dan do i gleientiaid, sef rhywbeth na all llawer iawn o ddarparwyr ei gynnig.
Rydyn ni hefyd wedi creu dros 50 o swyddi newydd ers ymuno â RCT, gan gyflogi pobl ar draws rolau peirianneg, cydymffurfiaeth, digidol, ac arweinyddiaeth.
Pa gerrig milltir ydych chi’n fwyaf balch ohonyn nhw?
Mae ein cyfraniad i greu BS40102-1, sef safon genedlaethol gyntaf y DU am ansawdd amgylcheddol dan do, yn sefyll allan. Mae’n adlewyrchu ein harweinyddiaeth yn y maes hwn a’n ymrwymiad i genedlaethau’r dyfodol.
Mae’r gwaith hwn hefyd wedi agor drysau’n rhyngwladol, yn enwedig yn Ewrop, y Dwyrain Canol, a Gogledd America. Bellach rydyn ni’n ymwneud â rheoleiddwyr a chyrff diwydiant i rannu arfer gorau a chyrraedd yn ehangach.
Pa rôl mae arloesi yn ei chwarae yn eich strategaeth busnes?
Mae arloesi wrth galon ein llwyddiant. O offer ansawdd aer a alluogwyd gan AI i blatfformau cydymffurfio clyfar, rydyn ni wrthi’n datblygu ein cynnig yn barhaus. Helpodd RCT droi syniadau’n wasanaethau y gellir eu cyflwyno, gan ddarparu eglurder ar sut i strwythuro arloesi a dod ag e i’r farchnad ar frys.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid eraill sy’n ystyried RCT?
Byddwch yn agored ac yn onest. Mae RCT yno i gynorthwyo gyda’ch taith benodol chi, nid i gynnig cyngor ‘un maint i bawb’. Po fwyaf y byddwch chi’n dryloyw am eich anghenion chi, mwyaf i gyd o fudd a gewch chi. Defnyddiwch gymorth safon ryngwladol RCT i lunio’ch camau nesaf chi ac osgoi camgymeriadau costus.
Beth yw’ch nodau ar gyfer y pum mlynedd nesaf?
Rydyn ni am fod yr arweinydd cydnabyddedig yn y DU am adeiladau iach ac yn bartner rhyngwladol dibynadwy ym maes ansawdd amgylcheddol dan do. Byddwn ni’n cyrraedd y nod drwy fuddsoddi mewn pobl, parhau i arloesi, a gweithio gyda chleientiaid a rheoleiddwyr blaengar.
Dysgwch ragor am y Rhaglen Cyflymu Twf yma.
Dysgwch ragor am Grŵp Raven Delta yma.