A yw fy musnes yn gymwys?

Mae'r rhaglen wedi'i hanelu'n benodol at fusnesau twf uchel sydd am symud ymlaen i'w cam twf nesaf ac sydd â'r potensial a'r penderfyniad i'w gyrraedd.


Er mwyn i'ch busnes gael ei dderbyn ar y rhaglen, mae'n rhaid bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Rhaid i'ch busnes fod wedi'i leoli yng Nghymru a dylai fod ganddo lai na 250 o gyflogeion

 

Rhaid i chi hefyd allu dangos bod gennych y potensial i wneud y canlynol:

  • Anelwch at dwf blynyddol o 20% (cyflogaeth neu drosiant am o leiaf 2 flynedd). Anelwch at dair blynedd o fasnachu i fod dros £3m (> £1m y flwyddyn)

  • Crëwch 10 swydd amser llawn newydd erbyn diwedd y drydedd flwyddyn o gymorth

  • Dechrau neu feithrin eich gallu i ddatgloi cyfleoedd mewn marchnadoedd rhyngwladol sy'n barod i dyfu

  • Gellir cefnogi busnesau newydd sy'n gyn-refeniw, ond mae'n rhaid iddyn nhw ddechrau masnachu o fewn 12 mis a cheisio sicrhau twf ar y lefelau a amlinellir uchod.

    Bydd recriwtio i’r Rhaglen, i ddechrau, ar sail ystyried mynegiant o ddiddordeb a fydd yn ymdrin â meini prawf cymhwysedd. Unwaith y bydd hyn wedi ei gadarnhau, y cam nesaf fydd diagnosis manwl sy'n cwmpasu syniad busnes, potensial twf ac sy’n amlinellu'r cymorth y mae ei angen i ddatblygu'r busnes.

Dynamic Graphic

Ar Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, rydyn ni wedi dewis grŵp o gynghorwyr busnes yn ofalus, y mae gan bob un ohonyn nhw brofiad ymarferol o ddarparu twf uchel. Mae ganddyn nhw hefyd wybodaeth am barth neu sector ynghyd â maes arbenigedd proffesiynol. Gellir defnyddio'r hyfforddwyr twf uchel i gael cyngor cyffredinol neu i ddarparu pecynnau gwaith penodol, megis Gwaith Teg, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Lleihau Carbon.