Growth Chart

Beth yw Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru?

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn cynnig cymorth arbenigol pwrpasol a gwasanaeth rheoli perthnasoedd i helpu entrepreneuriaid uchelgeisiol a busnesau twf uchel cyflym yng Nghymru i ddatgloi eu potensial twf uchel. 

Trwy gyfuniad o gymorth 1-i-1 pwrpasol a chyfres o weithdai rhyngweithiol, mae ein tîm o Reolwyr Perthnasoedd ymroddedig wrth law i'ch tywys trwy eich taith.

 


Yn arweinydd busnes yng Nghymru, byddwch chi’n gwybod bod Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn addas i chi os:

  • Ydych chi’n anelu at dair blynedd o fasnachu i fod yn fwy na £3m (> £1m y flwyddyn), ond nid ydych yn siŵr sut i gyrraedd yno.
  • Rydych wedi ymrwymo’n llwyr i dyfu’ch busnes yn fwyfwy cyflym, hyd yn oed yn rhyngwladol, ond mae angen cymorth arbenigol arnoch i liniaru’r risgiau a goresgyn y rhwystrau allweddol sy'n eich wynebu.
  • Rydych yn sylweddoli y gallech dyfu'n gyflymach ac mewn ffordd fwy cynaliadwy gyda chymorth Hyfforddwr sydd wedi llwyddo i helpu busnesau eraill fel eich un chi i ehangu. Ond ble mae dod o hyd iddo ac allwch chi ei fforddio.
  • Rydych yn derbyn na fydd y tîm a ddaeth â chi yma o reidrwydd yn mynd â chi yno. Rydych am gael cymorth i uwchsgilio eich hun a datblygu eich tîm yn gyflym, ond at bwy y dylech droi.
  • Rydych yn gwybod bod yn rhaid i chi ddechrau rhwydweithio mewn cylchoedd gwahanol â phartneriaid cyllido allweddol, unigolion gwerth net uchel ac arweinwyr busnes uchelgeisiol eraill fel chi, ond ble a sut.
  • Os nad yw eich busnes yn barod ar gyfer y lefel hon o dwf, mae Busnes Cymru yn cynnig ystod eang o gyngor ac arweiniad ar egin fusnesau a thwf busnes. Ewch i wefan Busnes Cymru i ddysgu rhagor.

    Am gymorth a chyngor gyda allforio, gallwch ymweld a Thudalen Allforio Busnes Cymru

     


Sut gall Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru gefnogi fy musnes i?

Hyfforddi ac ymgynghori 1-i-1

Gan dîm o hyfforddwyr twf uchel profiadol iawn sydd wedi ennill eu plwyf. Dysgwch gan bobl o'r un anian sydd wedi bod ar daith twf tebyg yn aml yn eich sector. Bydd y pecynnau gwaith yn canolbwyntio ar y cyfyngiadau twf penodol y mae eich busnes yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

 

Gwasanaethau cynghori proffesiynol

Sy'n cynnig cyngor cyfreithiol a chyngor ar Eiddo Deallusol, gweithgynhyrchu darbodus, cyllid corfforaethol, TG, adnoddau dynol, marchnata ac ati. Cymorth ymarferol i oresgyn heriau twf tactegol.

 

Datblygu rheolwyr

Drwy raglen wedi’i theilwra o ddosbarthiadau meistr, naill ai un i nifer oddi ar y safle neu un i ychydig ar y safle, er mwyn uwchsgilio eich hun a’ch tîm yn y dulliau cynyddu busnes diweddaraf.

 

Y cyfle i fanteisio ar yr ystod lawn o gymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru

Sicrhewch eich bod yn elwa ar bopeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cymorth gan y timau sector a rhaglenni datblygu pobl.

 

Aelodaeth o gymuned

Ymunwch ag entrepreneuriaid uchelgeisiol o'r un anian gyda dysgu rhwng cymheiriaid, rhwydweithio, cyfleoedd masnachu a theithiau dysgu.

Growth Infographic promo

Taith fusnes nodweddiadol ar y rhaglen

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu arloesol i gleientiaid.

Gweler: disgrifiad manylach o daith fusnes nodweddiadol