Taith fusnes arferol
Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf wedi ymrwymo i greu cyfleoedd dysgu arloesol i gleientiaid. Bwriad y teithiau dysgu yw dod â grwpiau bach penodol o entrepreneuriaid ynghyd a’u cyflwyno i entrepreneuriaid a busnesau twf uchel eraill y tu allan i’w rhwydweithiau arferol, dysgu oddi wrth deithiau dysgu twf uchel pobl eraill a dod o hyd i gyfleoedd i gydweithio a gwneud busnes. Mae’r teithiau dysgu yn rhaglenni a ddigwyddiadau a chyfarfodydd sydd wedi’u strwythuro i ysbrydoli ac i ddatblygu.