Newyddion

Rhaglen Small and Mighty Enterprise 2026

Small business owner smiling

Mae’n bleser gan Small Business Britain gyflwyno'r rhaglen Small and Mighty Enterprise i helpu i dyfu busnesau bach gydag arweiniad a mentora arbenigol.

Mae'r rhaglen chwe wythnos hon sy’n anelu at roi hwb mawr i unig fasnachwyr a microfusnesau, yn dod i ben gyda chynllun twf i gefnogi'r flwyddyn nesaf o gyfleoedd busnes. Bydd yn cael ei chyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein, gan ganiatáu mynediad o unrhyw le yn y DU gyda chyfleoedd dysgu hyblyg i bawb.

Beth mae'r cwrs yn ei gynnwys:

  • Sesiynau wythnosol byw wedi'u recordio ac ar gael ar wefan breifat Small Business Britain sydd ar gael i gyfranogwyr y cwrs yn unig.
  • Taflenni gwaith wythnosol i wreiddio canlyniadau dysgu sydd ar gael ar y wefan breifat, yn cael eu datblygu gan hyfforddwyr arbenigol bob wythnos.
  • Datblygu Cynllun Gweithredu: cynllun deuddeg mis i dyfu a ffynnu gyda chefnogaeth mentoriaid arbenigol.
  • Un awr o fentora 1 i 1 a mentora grŵp dros y chwe wythnos gan fentoriaid arbenigol ledled y DU.
  • Bod yn rhan o gymuned unigryw, gefnogol i ofyn ac ateb cwestiynau, cael mynediad at arbenigwyr ac athrawon, rhannu profiadau a rhwydweithio gyda busnesau bach eraill.

Dyddiadau'r cwrs isod:

  • Modiwl 1: 2 Chwefror 10am
  • Modiwl 2: 9 Chwefror 10am
  • Modiwl 3: 16 Chwefror 10am
  • Modiwl 4: 23 Chwefror 10am
  • Modiwl 5: 2 Mawrth 10am
  • Modiwl 6: 9 Mawrth 10am 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth ac i gofrestru: Small & Mighty Enterprise Programme Registration.

Mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i'ch helpu i ehangu, tyfu a chryfhau eich busnes. P'un ai yw'ch busnes yn tyfu'n gyson neu'n ehangu'n gyflym, byddwn yn gweithio gyda chi i nodi cyfleoedd, goresgyn heriau, a datgloi eich potensial llawn - bob cam o'r Ffordd: Busnes Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.