Mae ein Partneriaid Aur ar gyfer y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) yn dod o bob rhan o fyd busnes Cymru, gan rannu eu mewnwelediad a'u profiad i helpu busnesau twf uchel i lwyddo.
Rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith o bartneriaid arbenigol sy’n datblygu i’ch helpu chi i dyfu’n gynt ac yn glyfrach. Mae ein cynllun Partneriaid Aur yn dod â phrif fusnesau Cymru sy'n darparu cymorth arbenigol mewn gwasanaethau, at ei gilydd yn unig i gwmnïau ar y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT).
Mae'r partneriaid arbenigol hyn yn deall heriau twf uchel ac maen nhw wedi ymrwymo i helpu busnesau Cymru i lwyddo. Rydyn ni wrthi’n chwilio am bartneriaid newydd i ehangu'r rhwydwaith hwn a chryfhau'r cymorth sydd ar gael i chi.
Beth mae’r Partneriaid Aur yn ei gynnig
Mae ein Partneriaid Aur yn darparu cymorth gwerth uchel, mewn gwasanaethau ar draws yr arbenigedd y mae arnoch chi ei angen fwyaf: cyngor cyfreithiol, arloesi digidol, strategaeth farchnata, cyllid, cynaliadwyedd, technoleg ac atebion gweithle. Mae pob partner yn dod â gwybodaeth sector dwfn a phrofiad ymarferol gan gefnogi busnesau uchelgeisiol fel eich un chi.
Mae RCT yn hwyluso cyflwyniadau pan fo'n berthnasol, ond rydych chi bob amser yn dewis y cymorth sy'n gweddu i'ch anghenion chi.
Un o brif gwmnïau cyfraith fasnachol Cymru yw Darwin Gray sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd a Bangor. Mae ganddyn nhw allu ac arbenigedd dwyieithog sy'n rhychwantu eiddo masnachol, cyfraith gorfforaethol, cyflogaeth a datrys anghydfodau, ac maen nhw’n cefnogi busnesau twf uchel o’u cychwyn tan y pwynt ymadael. Yn ddiweddar fe enillon nhw wobr “Twf Busnes y Flwyddyn” yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru 2025.
Grŵp amlddisgyblaeth syn gwneud cytundebau yw GS Verde sy'n dod â gwasanaethau cyllid corfforaethol, cyfreithiol, treth a chyfathrebu o dan yr un to. Mae ganddyn nhw swyddfeydd yng Nghaerdydd, Bryste, ac ar draws y DU, gan arbenigo mewn uno a chaffaeliadau, gwerthu busnes, a chodi buddsoddiad, gan ddarparu cymorth o'r dechrau i'r diwedd ar gyfer trafodion corfforaethol cymhleth.
Gamlins Law yw prif gwmni cyfreithiol rhanbarthol Gogledd Cymru, gan ddarparu gwasanaethau cyfreithiol amlddisgyblaeth gan gynnwys cymorth masnachol, eiddo, rheoleiddio a chyflogaeth cwmnïau. A hwythau wedi bod yn aelodau o RCT gyda thwf digid dwbl o flwyddyn i flwyddyn, maen nhw’n angerddol am helpu busnesau Cymru i ehangu.
Mae Liberty Marketing yn asiantaeth farchnata digidol yng Nghaerdydd a’i chenhadaeth yw "rhyddhau perfformiad ar-lein i frandiau sy'n mynnu gwell". Mae eu tîm o 30 o aelodau yn darparu arbenigedd arobryn ym maes SEO, PPC, y cyfryngau cymdeithasol, creu cynnwys, a chysylltiadau cyhoeddus digidol ar gyfer busnesau bach a chanolig Cymru a brandiau rhyngwladol fel ei gilydd.
Cwmni o gyfreithwyr yng Nghymru yw Redkite sy'n arbenigo mewn cyfraith gorfforaethol a masnachol ar gyfer busnesau sy'n tyfu, gydag arbenigedd arbennig mewn uno a chaffaeliadau, trafodion buddsoddi, contractau masnachol, ac eiddo deallusol.
Tramshed Tech yw un o brif hybiau technoleg Cymru yng Nghaerdydd, gan ddarparu gofod cydweithio a chymuned fywiog sy'n cysylltu sylfaenwyr, buddsoddwyr ac arloeswyr. Mae eu hecosystem yn creu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu, rhannu gwybodaeth, a thwf.
Cwmni datblygu meddalwedd o Gaerdydd yw WeGetDesign sy’n arbenigo mewn atebion cod isel neu sydd wedi’u pweru gan AI. Maen nhw’n helpu busnesau newydd a BBaChau i ddylunio, dilysu, ac adeiladu meddalwedd sy’n barod am fuddsoddwyr ac y gellir ei thyfu.
- Elusen achrededig gan BACP yw Platfform sy’n darparu cymorth llesiant cynhwysfawr yn y gweithle. O wiriadau iechyd sefydliadol a datblygu strategaeth llesiant i hyfforddiant arweinyddiaeth dosturiol, hyfforddiant gweithle, a gwasanaethau cwnsela arobryn, maen nhw’n helpu busnesau i greu amgylcheddau gweithio iachach a mwy gwydn ar gyfer llwyddiant hirdymor
- Mae DSW Corporate Finance yn gwmni cynghori blaenllaw gyda dros 150 o weithwyr proffesiynol ledled y DU ac mae ganddo ddegawdau o brofiad yn cefnogi busnesau sy’n tyfu’n gyflym. Wedi’i raddio fel un o’r cynghorwyr cyllid corfforaethol mwyaf gweithgar yn y DU, mae eu tîm yng Nghaerdydd yn gwasanaethu cwmnïau uchelgeisiol ledled Cymru, gan gynnig cyngor ar uno ac ymgymeriadau, codi arian, pryniadau gan reolwyr, ymddiriedolaethau perchnogaeth gan weithwyr (EOTs), a chynllunio ymadael.
- Partner trawsnewid digidol yw Spindogs sy’n helpu sefydliadau uchelgeisiol i greu gwell profiadau digidol. Mae eu tîm o 65 o strategwyr, dylunwyr a pheirianwyr yn darparu atebion digidol o’r naill ben i’r llall, o strategaeth a dylunio profiad defnyddiwr ymlaen atddatblygu ac optimeiddio.
- Cwmni datblygu apiau yng Nghaerdydd yw Cardiff App Developers sydd â dros 13 blynedd o brofiad o droi syniadau busnes yn realiti. Mae eu tîm profiadol o ddylunwyr a rhaglenwyr yn arbenigo mewn creu atebion symudol a digidol penodol i fusnesau’r DU a chleientiaid rhyngwladol.
- Cwmni eiddo deallusol arbenigol yw WP Thompson. Fe’i sefydlwyd yn 1873, ac mae ganddo swyddfeydd yng Nghaerdydd, Llundain a Lerpwl. Mae’n cynnig gwasanaethau eiddo deallusol cynhwysfawr, gan gynnwys erlyn yn achos patentau a nodau masnach, strategaeth eiddo deallusol a chymorthymgyfreitha ar draws technolegau o beirianneg a gwyddorau bywyd i feddalwedd a brandiau. Gydag arbenigedd cryf gartref ac yn rhyngwladol, mae’n helpu busnesau twf uchel i amddiffyn arloesiadau, goresgyn heriau eiddo deallusol ac adeiladu portffolios gwerthfawr sy’n gyrru llwyddiant masnachol.
Cynllun Partner Aur y Rhaglen Cyflymu Twf
Diddordeb mewn dod yn Bartner Aur?