Mae Snowdon Timber, a ddechreuodd yn iard goed fach ym Mochdre, Gogledd Cymru, wedi trawsnewid yn un o brif gyflenwyr coed digidol y DU. Sefydlwyd y cwmni yn 2019 gan yr entrepreneur Jody Goode, ar ôl iddo weld cyfle i foderneiddio sut y caiff coed ei werthu ledled y DU. Heddiw, mae’r cwmni’n gwasanaethu’r farchnad DIY genedlaethol trwy’r mwy na 10 prif blatfform e-fasnach sydd ganddyn nhw, gan gynnwys B&Q Marketplace, Amazon a Tesco, gan sicrhau twf digid dwbl o flwyddyn i flwyddyn ac ennill yn ddiweddar Wobr Hyrwyddwr Offeryn Twf B&Q. Mae’r tîm wedi tyfu o 9 i 21 o weithwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae rhagor o gynlluniau ehangu ar y gweill. Cawsom ni air â Jody Goode i ddysgu sut yr helpodd Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru Snowdon Timber i adeiladu’r seilwaith i dyfu’n gynaliadwy.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth i chi sefydlu Snowdon Timber?
Ar ôl treulio degawd yn masnachu coed yn rhyngwladol, gweles i gyfle i foderneiddio sut y caiff coed ei werthu yn y DU. Erbyn hyn does dim angen i gwsmeriaid ymweld ag iard i brynu coed. Mae ein model ar-lein ni’n caniatáu i berchnogion tŷ, crefftwyr, ac adeiladwyr bach fynd ati’n hawdd i wylio, cymharu, ac archebu cynhyrchion o unrhyw le yn y wlad. Dechreues i gydag iard fach ym Mochdre yn 2019, ac rydyn ni wedi tyfu ers hynny yn gyflenwr e-fasnach cenedlaethol o bwys. Ein nod ni yw bod cyflenwr digidol coed mwyaf effeithlon y DU.
Beth oedd eich heriau pwysicaf chi wrth dyfu?
Tyfu’n gyflym wrth gynnal effeithlonrwydd oedd un o’n rhwystrau mwyaf. Er mwyn rheoli meintiau uwch o ran archebion, ehangu ar draws nifer o farchadleoedd, a chynnal gwasanaeth cyson, roedd angen gwell systemau a strwythur. Gwelom ni ein trosiant yn dyblu bob blwyddyn am dair blynedd yn olynol, gan greu her logistaidd nad oedd ein hen brosesau’n gallu ymdopi â nhw. Roedd angen i ni broffesiynoli ein gweithrediadau i gefnogi twf cynaliadwy.
Sut yr helpodd RCT chi i oresgyn yr heriau hyn?
Bu cymorth RCT yn drawsnewidiol. Fe helpon nhw ni i weithredu gwell rheoliadau ariannol, fframweithiau Adnoddau Dynol, a phrosesau llif gwaith sydd wedi sefydlogi ein gweithrediadau a gwella ein perfformiad cyffredinol. Cryfhaodd eu cymorth nhw ein rheolaeth ariannol, strategaethau recriwtio, a pholisïau mewnol, gan roi i ni’r strwythur sydd ei angen i dyfu’n hyderus. Fe anogon nhw ni hefyd i ganolbwyntio ar gynaliadwyedd hirdymor, trwy fentrau megis hyfforddiant parhaus trwy weminarau, sydd wedi golygu bod ein tîm ni’n dal i ddatblygu ochr yn ochr â’r busnes.
Pa gymorth penodol gan RCT a wnaeth y gwahaniaeth mwyaf?
Cafodd y cyfuniad o arweiniad ar gynllunio ariannol, cyngor ar arallgyfeirio, a chymorth AD effaith uniongyrchol ar ein heffeithlonrwydd, ein gwydnwch, a’n strategaeth hirdymor. Helpodd RCT ni i gryfhau ein dulliau o reoli pobl a’n prosesau mewnol, gan sicrhau gwell eglurder a chysondeb ar draws y busnes. Bu’r cymorth hwn yn anhepgor gan ein bod ni wedi mwy na dyblu maint ein tîm mewn 12 mis, gan greu tua 10 o swyddi newydd ers i ni ddechrau gyda RCT.
Pa gerrig filltir ydych chi’n fwyaf balch ohonyn nhw?
Mae ehangu o B&Q i dros 10 o farchnadleoedd ledled y DU yn sefyll allan. Roedd cael ein rhestru ar B&Q Marketplace yn ffordd o agor drysau at Amazon, eBay, Tesco ac eraill. Yn ddiweddar enillon ni Wobr Hyrwyddwr Offeryn Twf B&Q i gydnabod ein harloesi a’n perfformiad, a oedd yn achlysur balch i’r tîm cyfan. Rydyn ni hefyd wedi arallgyfeirio y tu hwnt i’n busnes craidd, sef coed wedi ei lifio’n arw a decio, i addurniadau gardd, gan gynnwys blychau adar a phlanwyr a chynnyrch cartref megis cewyll storio pren. Mae’r ehangu hwn wedi cynyddu meintiau gwerthiant ac wedi lleihau ein dibyniaeth ar y farchnad DIY yn unig, gan greu rhagor o sefydlogrwydd.
Ydych chi wedi cyflwyno ffyrdd newydd o weithio?
Ydyn, trwy ein gwaith gyda RCT, rydyn ni wedi cyflwyno prosesau a systemau mewnol newydd sydd wedi gwella effeithlonrwydd a rheolaeth ar draws y busnes. Rydyn ni wedi gweithredu systemau callach sy’n gwneud gweithrediadau o ddydd i ddydd yn fwy effeithlon ac yn haws i’w tyfu. Bu arloesi’n hollbwysig i’n twf ni, a helpodd cymorth RCT ni i fireinio llifoedd gwaith ac osgoi’r pwysau gweithrediadol yn sgil ehangu cyflym. Rydyn ni hefyd wrthi’n datblygu cynllun lleihau carbon gyda chymorth RCT, gan adolygu deunyddiau, pecynnau a defnydd ynni i bennu targedau amgylcheddol clir.
Mae ein ffocws yn parhau i fod ar gydbwyso cysondeb o ran ansawdd a gwasanaeth â pharodrwydd i arloesi, gan sicrhau bod modd i ni barhau i wasanaethu cwsmeriaid yn genedlaethol wrth adeiladu sylfaen gryfach fyth i’r dyfodol.
Pa gymorth y byddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid eraill?
- Buddsoddwch mewn prosesau cryf, polisïau clir, a llifoedd gwaith effeithlon o’r cychwyn i gefnogi twf cynaliadwy.
- Peidiwch ag aros yn llonydd, daw twf wrth chwilio’n barhaus am y cyfle nesaf.
- Mae pob her yn gyfle i ddysgu ac addasu. Parhewch yn wydn, canolbwyntiwch ar nod hirdymor, a byddwch yn barod i addasu eich dull.
- Yn achos cleientiaid RCT yn benodol: byddwch yn agored a rhagweithiol. Rhannwch eich heriau, holwch gwestiynau, a gwnewch yn fawr o’r arbenigedd y mae RCT yn ei gynnig.
Dysgwch ragor am sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf gefnogi eich busnes chi.
Dysgwch ragor am Snowdon Timber.