Newyddion

Cyhoeddi rhyddhad ardrethi ychwanegol i dafarndai a bwytai

cafe worker

Bydd tafarndai, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru yn elwa o gymorth ardrethi busnes ychwanegol, meddai’r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford.

Bydd tua 4,400 o fusnesau lletygarwch yn gymwys i gael rhyddhad o 15% ar eu biliau ardrethi yn 2026-27, gan eu helpu trwy gyfnod o gostau cynyddol pan fo arferion defnyddwyr yn newid.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu hyd at £8 miliwn ar gyfer y pecyn, gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth y DU, ond hefyd gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru i ehangu ystod y busnesau a gaiff eu cynorthwyo yng Nghymru.

Daw'r gefnogaeth hon ar gyfer y sector lletygarwch bwyd a diod ar ben y gefnogaeth sylweddol sy'n bodoli eisoes. Mae bron i hanner y tafarndai yng Nghymru eisoes yn elwa o Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach, ac nid yw dros chwarter yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Mae rhyddhad parhaol Llywodraeth Cymru werth £250 miliwn bob blwyddyn.

O fis Ebrill ymlaen, bydd y lluosydd a ddefnyddir i gyfrifo’r biliau ardrethi hefyd yn cael ei leihau am y tro cyntaf ers 2010, ac mae £116 miliwn mewn rhyddhad trosiannol yn cael ei ddarparu dros ddwy flynedd i helpu busnesau i addasu i'r ailbrisiad.

Gall busnesau cymwys wneud cais am y rhyddhad trwy eu hawdurdod lleol o fis Ebrill 2026.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.