Canllawiau
Disgrifiad o’r canllawiau
Bwriad y canllawiau hyn yw helpu cynghorau sir a bwrdeistref sirol (awdurdodau lleol) i weinyddu'r Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod (y rhyddhad) sydd wedi'i gyflwyno dros dro ar gyfer 2026-27. Dim ond i Gymru y mae’r canllawiau hyn yn berthnasol.
Mae’r canllawiau'n gosod y meini prawf y bydd Llywodraeth Cymru’n eu defnyddio i bennu'r cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer ryddhad ardrethi sy'n cael ei ddarparu i eiddo cymwys. Nid yw’r canllawiau’n disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol ar ardrethi annomestig nac unrhyw fath arall o ryddhad.
Dylid anfon ymholiadau bilio ynglŷn â'r rhyddhad i'r awdurdod lleol perthnasol. Mae manylion cyswllt yr awdurdodau lleol i’w gweld ar dudalen we Busnes Cymru.
Dylid anfon ymholiadau am y cynllun i: polisitrethilleol@llyw.cymru
Mae'r rhyddhad yn cael ei gynnig o 1 Ebrill 2026 a bydd ar gael tan 31 Mawrth 2027.
Anelir y rhyddhad hwn at fusnesau cymwys yn y sector lletygarwch bwyd a diod, er enghraifft tafarnau, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw. Nod y rhyddhad yw helpu'r sectorau hyn i reoli pwysau costau parhaus.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid grant i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod i fusnesau cymwys ar gyfer 2026-27. Bydd y rhyddhad yn cynorthwyo eiddo wedi’i feddiannu sy’n gymwys, drwy gynnig disgownt o 15% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath.
Bydd y rhyddhad ar gael i bob busnes sy'n gymwys, ond bydd uchafswm i'r swm y caiff pob busnes ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar gyfer yr holl eiddo a feddiannir gan yr un busnes. Mae angen i bob busnes ddatgan, wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol, eu bod yn cadarnhau nad yw swm y rhyddhad y maent yn gwneud cais amdano ar draws Cymru yn fwy na’r uchafswm hwn. Mae enghraifft o ffurflen ddatganiad wedi’i hamgáu yn Atodiad 1 i awdurdodau lleol ei defnyddio wrth ddatblygu eu ffurflenni eu hunain i’w cyhoeddi a’u rhoi i fusnesau.
Mae'r ddogfen hon yn darparu canllawiau ynghylch rhoi'r cynllun hwn ar waith.
Gan mai mesur dros dro yw hwn, rydym yn darparu’r rhyddhad drwy roi ad-daliad i awdurdodau lleol sy’n defnyddio’u pwerau rhyddhad ardrethi disgresiynol o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Yr awdurdodau lleol unigol eu hunain fydd yn mabwysiadu cynllun ac yn penderfynu ym mhob achos a ddylid caniatáu’r rhyddhad o dan adran 47. Bydd Llywodraeth Cymru'n rhoi ad-daliad i'r awdurdodau lleol am y rhyddhad sy'n cael ei ddarparu yn unol â'r canllawiau hyn drwy grant dan adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
Yr awdurdodau lleol eu hunain fydd yn penderfynu sut i weinyddu'r rhyddhad er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl yn cymryd rhan a bod cyn lleied â phosibl o faich gweinyddol ar dalwyr ardrethi a staff yr awdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth glir a hylaw i fusnesau ynghylch manylion y rhyddhad a'r broses weinyddu.
Rhaid gwneud ceisiadau i’r awdurdodau lleol erbyn 31 Mawrth 2027 er mwyn i dalwyr ardrethi fod yn gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod yn 2026-27.
Yr eiddo a fydd yn elwa ar y rhyddhad hwn fydd eiddo a feddiannir ar gyfer lletygarwch bwyd a diod, er enghraifft tafarnau, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru. Ceir rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwystra a'r eithriadau i'r rhyddhad isod.
Dylai’r rhyddhad gael ei roi i bob busnes cymwys fel gostyngiad yn ei fil ardrethi ar sail meddiannaeth rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2027. At ddibenion y cynllun hwn, bydd eiddo cymwys yn golygu'r canlynol (yn amodol ar feini prawf eraill yn y canllawiau hyn).
Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio i werthu bwyd a/neu ddiod i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw, er enghraifft:
- Tafarnau
- Bwytai
- Caffis
- Bariau
- Lleoliadau cerddoriaeth fyw
Lleoliad cerddoriaeth fyw yw eiddo sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer perfformio cerddoriaeth fyw at ddibenion diddanu cynulleidfa. Yr unig weithgareddau eraill y gellir defnyddio eiddo cymwys ar eu cyfer yw rhai sy'n ategol i berfformio cerddoriaeth fyw neu'n gysylltiedig â hynny (e.e. gwerthu bwyd neu ddiod i aelodau'r gynulleidfa) neu weithgareddau nad ydynt yn effeithio ar y prif ddefnydd hwn (e.e. defnydd achlysurol o'r lleoliad fel gorsaf bleidleisio neu ddigwyddiad cymunedol).
Mae llawer o leoliadau cerddoriaeth fyw yn perthyn i ddosbarthiadau o fathau eraill o eiddo sy'n gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn (e.e. tafarnau, bwytai a bariau). Nid yw eiddo yn lleoliad cerddoriaeth fyw at ddibenion y rhyddhad hwn os yw'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel clwb nos neu theatr.
Er mwyn gallu manteisio ar y rhyddhad, dylai'r hereditament gael ei ddefnyddio'n bennaf neu'n gyfan gwbl at y dibenion cymwys. Yn debyg i fathau eraill o ryddhad, yr hyn sy’n bwysig yw sut mae’r eiddo’n cael ei ddefnyddio yn hytrach na’r feddiannaeth. Felly, os yw hereditamentau yn cael eu meddiannu, ond ddim yn cael eu defnyddio’n bennaf neu'n gyfan gwbl ar gyfer y pwrpas cymwys, ni fyddant yn gymwys i gael y rhyddhad.
Nid oes bwriad i'r rhestr uchod fod yn un gwbl drylwyr, gan y byddai'n amhosibl rhestru'r holl ddefnyddiau lletygarwch bwyd a diod amrywiol sy'n bodoli. Hefyd bydd rhai enghreifftiau'n codi o ddefnydd cymysg. Fodd bynnag, y bwriad yw rhoi arweiniad i'r awdurdodau lleol ynghylch y mathau o ddefnydd sy'n gymwys am y rhyddhad ym marn Llywodraeth Cymru at y diben hwn. Dylai awdurdodau lleol benderfynu drostynt eu hunain a yw eiddo penodol, nad yw ar y rhestr, yn gyffredinol debyg i’r uchod o ran ei natur. Os felly, dylid ei ystyried yn gymwys ar gyfer y cynllun. Yn yr un modd, os nad yw eiddo yn debyg yn gyffredinol i'r rhai sydd ar y rhestr uchod, ni ddylai fod yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Mae’r rhyddhad ardrethi yn cael ei roi yn ôl disgresiwn. Os bydd awdurdodau lleol yn penderfynu defnyddio’u disgresiwn i beidio â chaniatáu rhyddhad i fusnesau cymwys, mae'n bosibl y byddant yn dymuno ceisio cyngor cyfreithiol ar unrhyw faterion cyfreithiol a allai godi o ganlyniad i benderfyniad o’r fath, a hynny fesul achos. Mae'n bosibl y bydd rhai busnesau cymwys yn dewis peidio â gwneud cais am y rhyddhad.
Nid yw'r defnyddiau canlynol o hereditamentau ac amgylchiadau eraill yn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y rhyddhad. Mewn rhai achosion, yr awdurdodau lleol eu hunain fydd yn penderfynu a yw hereditament yn un o'r mathau a restrir ac na fyddai'n gymwys.
Hereditamentau sydd:
- Yn dod o dan y lluosydd manwerthu
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu llety byw fel busnes (e.e. gwestai, tai llety a thai byrddio, cartrefi gwyliau, a pharciau a safleoedd carafannau)
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer gwerthu nwyddau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw (e.e. siopau, ystafelloedd arddangos, warysau manwerthu ac archfarchnadoedd)
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer gwerthu neu ddarparu gwasanaethau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw (e.e. gwasanaethau ariannol neu broffesiynol, salonau a golchdai)
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer cyfleusterau chwaraeon a hamdden i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw (e.e. canolfannau chwaraeon, atyniadau ymwelwyr, theatrau a sinemâu)
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sy'n ymgynnull ynddynt (e.e. tai clwb, neuaddau a sefydliadau cyhoeddus)
Hereditamentau nad ydynt yn rhesymol hygyrch i aelodau o’r cyhoedd allu ymweld â nhw
Os nad yw hereditament fel arfer yn rhesymol hygyrch i aelodau o'r cyhoedd allu ymweld â nhw, ni fydd yn gymwys i gael rhyddhad o dan y cynllun, hyd yn oed os oes defnydd atodol o'r hereditament y gellid ystyried ei fod yn dod o dan y disgrifiadau yn Pa fathau o eiddo fydd yn gallu manteisio ar y rhyddhad?
Hereditamentau nad ydynt wedi’u meddiannu
Nid yw hereditamentau nad ydynt wedi'u meddiannu yn gymwys i gael y rhyddhad hwn. Fodd bynnag, gallai eiddo o'r fath fod yn gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Eiddo Gwag 100% am y tri mis cyntaf (ac mewn rhai achosion, chwe mis) y maent yn wag. Os bydd hereditament yn cael ei feddiannu a'i ddefnyddio at ddiben cymwys, gallai fod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad am weddill y flwyddyn o'r dyddiad meddiannu.
Hereditamentau sy’n eiddo i awdurdod lleol neu sy’n cael eu rhentu neu eu rheoli ganddo
Nid yw hereditamentau sy’n eiddo i awdurdod lleol neu sy’n cael eu rhentu neu eu rheoli ganddo, er enghraifft bwytai mewn canolfannau ymwelwyr neu siopau coffi sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor, yn gymwys i gael y rhyddhad.
Cyfanswm y rhyddhad a ariennir gan y llywodraeth sydd ar gael i bob eiddo o dan y cynllun hwn ar gyfer 2026-27 yw 15% o'r bil perthnasol. Bydd uchafswm yn cael ei osod, sef £110,000 fesul busnes ar draws holl eiddo’r busnes hwnnw yng Nghymru.
Dylai’r rhyddhad gael ei gymhwyso i’r bil net sy’n weddill ar ôl gweithredu unrhyw ryddhad gorfodol (gan gynnwys elfennau disgresiynol a ariennir yn llawn neu’n rhannol gan yr awdurdod lleol) ac unrhyw ryddhad disgresiynol arall a ariennir gan grantiau adran 31 (ac eithrio’r rhai pan fydd awdurdodau lleol wedi defnyddio eu pwerau rhyddhad disgresiynol ehangach a gyflwynwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, nad ydynt yn cael eu hariannu gan grantiau adran 31). Mae’r mathau o ryddhad y dylid eu cymhwyso cyn y Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod yn cynnwys categorïau o ryddhad disgresiynol a oedd ar gael cyn Deddf Lleoliaeth 2011 (e.e. rhyddhad ardrethi ar gyfer elusennau, clybiau chwaraeon amatur cymunedol, sefydliadau nid-er-elw, caledi, eiddo gwag). Caiff awdurdodau lleol ddefnyddio eu pwerau disgresiynol ehangach i gynnig gostyngiadau pellach y tu allan i’r cynllun hwn neu ryddhad ychwanegol i hereditamentau o fewn y cynllun. Pan fydd awdurdod lleol yn cymhwyso rhyddhad a ariennir yn lleol o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1998, dylid ei gymhwyso ar ôl y Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod.
Bydd cymhwystra ar gyfer y cynllun rhyddhad ardrethi a’r rhyddhad ei hun yn cael ei asesu a’i gyfrifo ar sail ddyddiol. Dylid defnyddio’r fformiwla ganlynol wrth benderfynu ar swm y rhyddhad ardrethi i’w ganiatáu ar gyfer hereditament penodol yn ystod blwyddyn ariannol:
Swm y rhyddhad i’w ganiatáu =0.15, lle
V yw’r tâl dyddiol am yr hereditament ar gyfer y diwrnod trethadwy ar ôl gweithredu unrhyw ryddhad gorfodol ac unrhyw ryddhad disgresiynol arall (ac eithrio’r rhai pan fydd awdurdodau lleol wedi defnyddio eu pwerau rhyddhad disgresiynol a gyflwynwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, nad ariennir gan grantiau adran 31).
Dylid cyfrifo hyn gan anwybyddu unrhyw addasiadau blwyddyn flaenorol i’r atebolrwydd sy'n syrthio ar y diwrnod.
Bydd busnesau sy'n meddiannu mwy nag un eiddo yn gallu cael Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod ar gyfer pob eiddo cymwys, o fewn yr uchafswm o £110,000 ar draws Cymru i bob busnes. Mae hyn yn cynnwys unrhyw eiddo cymwys sydd wedi'i eithrio rhag Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach oherwydd y rheol amlfeddiannaeth.
Gall busnes ag un eiddo sydd ag atebolrwydd o fwy na £733,333 yn weddill (ar ôl unrhyw ryddhad) ddefnyddio dyraniad cyfan y rhyddhad. Ni fydd unrhyw eiddo arall sydd gan y busnes hwnnw yn gymwys i gael rhyddhad.
Os bydd newid meddiannydd yn ystod y flwyddyn ariannol, ar ôl i ryddhad gael ei ddarparu i'r hereditament, bydd gan y meddiannydd newydd hawl i gael y rhyddhad os yw'n gymwys, a hynny ar sail pro-rata. Bydd hyn yn cael ei gyfrifo ar sail gweddill y dyddiau meddiannu gan ddefnyddio’r fformiwla yn yr adran Faint o ryddhad fydd ar gael?
Dylai'r disgownt gael ei gymhwyso ar sail ddyddiol gan ddefnyddio'r fformiwla a nodir uchod. Dylai hereditament newydd a grëwyd o ganlyniad i raniad neu uniad yn ystod y flwyddyn ariannol, neu pan fydd newid defnydd wedi bod, gael ei ystyried o’r newydd ar gyfer y disgownt ar y diwrnod hwnnw.
Ni chaniateir dyfarnu Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn ôl-weithredol ar gyfer blynyddoedd ariannol blaenorol, oni bai bod yr awdurdod lleol yn penderfynu na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol i’r talwr ardrethi wneud cais yn y flwyddyn berthnasol. Er bod pwerau eang awdurdodau lleol yn golygu ei bod yn bosibl i ryddhad disgresiynol gael ei ddyfarnu yn ôl-weithredol, nid yw cyllid ar gyfer unrhyw ddyfarniadau o'r fath ond yn dod o dan delerau'r cytundeb cyllido ar gyfer y flwyddyn gyfredol os yw’r amod ar gyfer cais ôl-weithredol wedi’i fodloni. Fel arall, caniateir gwneud addasiadau ôl-weithredol dim ond pan fydd y rhyddhad eisoes wedi'i ddyfarnu o dan delerau'r rhyddhad yn y flwyddyn berthnasol a bod atebolrwydd y talwr ardrethi yn cael ei ddiwygio wedi hynny o ganlyniad i newid mewn amgylchiadau (e.e. newid yn y gwerth ardrethol).
Ni chaiff talwr ardrethi, o dan unrhyw amgylchiadau, fynd y tu hwnt i’r terfyn arian parod, sef £110,000, ar draws eu holl hereditamentau yng Nghymru. Pan fydd gan dalwr ardrethi gysylltiad cymwys â thalwr ardrethi arall, dylid ystyried y talwyr ardrethi hynny yn un talwr ardrethi at ddibenion y terfynau arian parod. Ystyrir bod gan dalwr ardrethi gysylltiad cymwys ag un arall yn yr achosion isod:
- mae’r ddau dalwr ardrethi yn gwmnïau ac mae un yn is-gwmni i’r llall, neu mae’r ddau’n is-gwmnïau i’r un cwmni; neu
- dim ond un talwr ardrethi sy’n gwmni ac mae gan y talwr ardrethi arall y fath fuddiant yn y cwmni hwnnw a fyddai’n golygu mai ef fyddai cwmni daliannol y llall, pe bai’r talwr ardrethi arall yn gwmni.
Dechreuodd cyfundrefn rheoli cymorthdaliadau newydd y DU ar 4 Ionawr 2023, pan ddaeth Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 i rym. Mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod yn debygol o fod yn gymhorthdal o dan y gyfundrefn newydd. Bydd angen i unrhyw ryddhad a ddarperir gan awdurdodau lleol o dan y cynllun hwn gydymffurfio â rhwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau domestig a rhyngwladol y DU.
I’r graddau y mae awdurdod lleol yn bwriadu darparu rhyddhad sydd o dan y trothwyon Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA), mae Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 yn caniatáu i gyfranogwr economaidd (ee cwmni daliannol a’i is-gwmnïau) gael hyd at £315,000 ar draws y DU mewn cyfnod o 3 blynedd (sef blwyddyn 2026-27 a’r ddwy flwyddyn ariannol flaenorol). Dylai awdurdodau lleol ofyn i’r talwyr ardrethi, ar sail hunanasesu, ddatgan fel rhan o’u cais am Ryddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod, nad ydynt yn mynd y tu hwnt i’r terfyn arian parod na’r terfyn MFA.
Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw cydymffurfio â’r holl ddarpariaethau rheoli cymorthdaliadau perthnasol, gan gynnwys gofynion MFA o ran gweithdrefnau a thryloywder. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau Llywodraeth y DU ar reoli cymorthdaliadau statudol y DU.
I gael cyngor pellach, cysylltwch â’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau yn Llywodraeth Cymru drwy’r manylion isod:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YrUnedRheoliCymorthdaliadau@llyw.cymru
Dylid anfon pob cais am ryddhad ardrethi i'r awdurdod lleol perthnasol. Bydd dolenni at ffurflenni cais yr awdurdodau lleol ar gael ar dudalen we Busnes Cymru ar ôl i'r cynllun rhyddhad gael ei lansio ar 1 Ebrill 2026.
Atodiad 1
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.