Mae Gwobrau Busnesau Newydd y DU 2026 ar agor ar gyfer ceisiadau!
Mae Gwobrau Busnesau Newydd y DU yn hyrwyddo ac yn dathlu'r busnesau newydd gorau a mwyaf disglair o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac yn cydnabod cyflawniadau'r unigolion anhygoel hynny sydd wedi cael syniad gwych, wedi gweld y cyfle a chymryd y risg i lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd.
Mae’r Gwobrau’n fwy na seremoni wobrwyo yn unig. Gyda mynediad unigryw i amrywiaeth o bartneriaid, noddwyr, manteision cymunedol a digwyddiadau, mae'r gwobrau'n cynnig cymuned o gymorth busnes i helpu busnesau newydd i ffynnu.
Mae ceisiadau'n cau am hanner nos 16 Mawrth 2026.
Bydd yr enillwyr rhanbarthol o Gymru yn ymuno â'r busnesau newydd gorau o bob rhan o'r DU yn Rowndiau Terfynol Gwobrau Cenedlaethol Busnesau Newydd. Bydd y dathliad cenedlaethol hwn o entrepreneuriaeth yn dod ag arloeswyr, arweinwyr busnes a hyrwyddwyr diwydiant ynghyd i anrhydeddu'r dalent eithriadol sy'n sbarduno ecosystem busnesau newydd y DU.
Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni canlynol:
P'un ai ydych chi'n breuddwydio am ddod yn fos arnoch chi eich hun, troi sgil yn fusnes bach ychwanegol, neu'n barod i lansio’ch syniad newydd beiddgar, mae Busnes Cymru yma i helpu gydag offer ac adnoddau, cyngor arbenigol a chymorth ymarferol i'ch helpu i wneud y canlynol: Meddwl am Ddechrau Busnes | Busnes Cymru.