A yw fy musnes yn gymwys?

Wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer busnesau twf uchel, bydd ein Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) yn eich helpu i ddatgloi marchnadoedd newydd, adeiladu timau perfformiad uchel, a dod yn stori lwyddiant amlwg yng Nghymru ac ar lwyfan y byd.

Er mwyn cael mynediad at gymorth, rhaid i'ch busnes:

  • Fod wedi'i leoli neu weithredu yng Nghymru
  • Cyflogi llai na 250 o gyflogeion

Bydd angen i chi hefyd ddangos potensial mawr i dyfu, gan gynnwys yr uchelgais i:

  • Dyfu 20% flwyddyn ar ôl blwyddyn
  • Creu o leiaf 10 swydd newydd, llawnamser yn y 3 blynedd nesaf
  • Bod yn edrych i fasnachu mewn marchnadoedd rhyngwladol
  • Bod yn anelu at 3 blynedd o fasnachu i fod yn fwy na £3m

Os nad yw'ch busnes yn barod ar gyfer y lefel hon o dwf, mae Busnes Cymru yn cynnig ystod eang o gyngor i fusnesau newydd a chyngor tyfu busnes a all helpu i gefnogi eich anghenion presennol.

Sut i ddechrau arni

Dechrau Arni. Cyflwynwch ymholiad i roi gwybod i ni pa gefnogaeth sydd ei hangen ar eich busnes, fel y gallwn eich paru â'r cymorth cywir

Cofrestru. Rhowch fanylion amdanoch chi a'ch busnes i helpu i deilwra'r cymorth a'r adnoddau a gynigir.

Bwrw ati. Dechreuwch eich taith Busnes Cymru a chael mynediad i'n gweminarau, ein hoffer a'n cyngor arbenigol



Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.