Hanes llwyddiant

Gwreiddiau mewn cymuned, adeiladaeth i dyfu: Sut yr helpodd y Rhaglen Cyflymu Twf Gamlins Law ddyblu o ran maint

Gamlins Law team

Gamlins Law yw'r cwmni cyfreithiol annibynnol mwyaf yng Ngogledd Cymru, a'i wreiddiau'n dyddio'n ôl i 1889 yn y Rhyl, lle mae ei brif swyddfa o hyd. Heddiw, mae'r cwmni'n gweithredu o swyddfeydd ar draws y Rhyl, Abergele, Dinbych, Rhuthun, Treffynnon, Yr Wyddgrug a Wrecsam, gan ddod â dros ganrif o arbenigedd cyfreithiol i'r cleientiaid a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, mae'r cwmni wedi dyblu o ran maint dros y degawd diwethaf, gan dyfu’i drosiant o oddeutu £3 miliwn yn 2016 i dros £6 miliwn heddiw, wrth gadw ffocws cryf ar ddiwylliant a chadw staff. Mae'r Partner Rheoli Ron Davison yn rhannu sut mae cymorth RCT wedi helpu i lunio’r twf hwnnw.

Beth mae Gamlins Law yn ei wneud, a beth sydd wedi newid am y busnes yn ystod y blynyddoedd diwethaf?

Rydyn ni’n darparu cymorth cyfreithiol ar draws yr ystod lawn o anghenion personol a busnes, gan weithredu ar gyfer unigolion, teuluoedd a chwmnïau. Y newid mwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw maint. Rydyn ni wedi ehangu ein rhwydwaith swyddfeydd, ehangu ein cynnig gwasanaethau, ac wedi buddsoddi'n helaeth yn y bobl a'r seilwaith sydd eu hangen i gynorthwyo'r twf hwnnw, a’r cyfan heb golli golwg ar pam sefydlwyd y cwmni yn y lle cyntaf: i wasanaethu ein cymunedau lleol. Y ffocws hwnnw sy'n dal i yrru pob penderfyniad a wnawn ni.

Beth oedd yr heriau mwyaf wrth dyfu'r cwmni?

Recriwtio fu ein her fwyaf. Mae'r farchnad gwasanaethau cyfreithiol yn hynod gystadleuol wrth chwilio am dalent, a byddai wedi bod yn hawdd tyfu'n gyflym a phoeni am ddiwylliant maes o law. Aethon ni ati yn y ffordd arall. Rydyn ni yn buddsoddi llawer o amser mewn diwylliant a chadw staff oherwydd bod dod o hyd i'r bobl iawn a'u cadw yn galluogi cwmni fel ni i dyfu'n gynaliadwy, yn hytrach na dim ond ychwanegu at nifer y gweithwyr.

Sut mae RCT wedi cefnogi twf Gamlins Law, a pha effaith bendant y mae'r cymorth hwnnw wedi'i chael?

Mae cymorth arbenigol mewn meysydd megis cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a rheoli pobl wedi helpu'r busnes i gryfhau ei alluoedd mewnol a chefnogi ei uchelgeisiau twf. Roedd mynediad at arbenigedd a oedd yn adlewyrchu amgylchiadau ac amcanion penodol y busnes yn ei alluogi i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd penodol wrth iddyn nhw godi.

Beth sy'n gosod Gamlins Law ar wahân i gwmnïau eraill yn y rhanbarth, a sut mae hynny wedi llunio eich twf?

Mae gennym ni weledigaeth glir o'r hyn rydyn ni yma i'w wneud. Rydyn ni'n gwmni cymunedol, ac rydyn ni am gael pobl angerddol sydd am wneud gwahaniaeth i ymuno â ni ar ein taith. Mae'r eglurder pwrpas hwnnw wedi llunio pwy rydyn ni’n eu cyflogi a sut rydyn ni wedi tyfu. Mae'n golygu ein bod ni wedi ehangu'n fwriadol, gan ddod â phobl sy'n rhannu ein gwerthoedd yn hytrach na thyfu er mwyn tyfu.

Pa gerrig milltir ydych chi'n fwyaf balch ohonyn nhw ers gweithio gydag RCT?

Mae dyblu ein trosiant o oddeutu £3 miliwn i dros £6 miliwn yn achos balchder enfawr i ni, ond hefyd sut rydyn ni wedi cadw ein pobl wrth wneud hynny. Ychydig iawn o'n penodiadau sydd wedi gadael ar ôl iddyn nhw ymuno, sy'n dangos i ni ein bod ni'n casglu'r bobl iawn ar gyfer y diwylliant rydyn ni wedi'i greu. Nid gwaith hawdd yw tyfu’n gyflym wrth gynnal y diwylliant hwnnw’n gyfan, a dydyn ni ddim yn ei gymryd yn ganiataol.

Ydy Gamlins Law wedi newid sut mae’n gweithredu neu’n darparu gwasanaethau o ganlyniad i’r broses dyfu?

Ydy. Rydyn ni wedi buddsoddi mewn TG, gan gynnwys mentrau AI, i gynyddu effeithlonrwydd gweinyddol a rhyddhau ein pobl i ganolbwyntio ar waith cleientiaid yn hytrach na gwaith papur. Wedi dweud hynny, rydyn ni wedi glynu’n gadarn wrth ein trywydd ni. Rydyn ni am arwain yn y meysydd rydyn ni'n ymarfer ynddyn nhw, ac rydyn ni’n asesu risg ym mhob mater i sicrhau bod ein cleientiaid ni’n derbyn y gwasanaeth gorau posibl.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fusnes arall sy'n ystyried cymorth RCT, a beth sydd nesaf i Gamlins Law?

Mae’n ddewis hollol amlwg. Wrth edrych ymlaen, ein nod ni yw tyfu o dros £6 miliwn i £15 miliwn o drosiant o fewn pum mlynedd, gan adeiladu ar y twf y mae RCT eisoes wedi'n helpu ni i’w gyflawni.

Dysgwch ragor am sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf gynorthwyo eich busnes chi.

Dysgwch ragor am Gamlins Law.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.