Hanes llwyddiant

O wasanaeth i strategaeth: sut helpodd y Rhaglen Cyflymu Twf Jo Condon Autism Assessments i droi arbenigedd yn fusnes sy'n tyfu

Jo Condon sitting at a desk

Mae Jo Condon Autism Assessments, sydd wedi'u lleoli yn Nhredegar ac a sefydlwyd gan yr Arweinydd Clinigol a'r Cyfarwyddwr Jo Condon yn 2024, yn darparu asesiadau preifat awtistiaeth ynghyd ag awtistiaeth ac ADHD cyfunol i oedolion a phlant dwy oed a hŷn, heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu na'r ysgol. Ar ôl dros 20 mlynedd ym maes awtistiaeth, gan gynnwys cyfnod yn Arweinydd Awtistiaeth Cymru ac uwch arweinyddiaeth gwasanaethau asesu'r GIG, sefydlodd Jo y busnes i ddarparu asesiadau a chymorth arbenigol ym maes awtistiaeth, wedi'u seilio ar ragoriaeth glinigol ac arfer gorau.

Gyda chymorth gan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, mae'r busnes wedi dyblu trosiant, wedi cynyddu ymholiadau ar y we bum gwaith ac wedi recriwtio chwech o staff newydd yn ystod chwe mis cyntaf ei ail flwyddyn.

Yma, mae Jo yn trafod y cymorth a ddarparwyd gan RCT a'r rôl y mae wedi'i chwarae yn nhwf y busnes.

Beth a’ch ysbrydolodd chi i ddechrau Jo Condon Autism Assessments?

Roeddwn i wedi arwain gwasanaethau asesu awtistiaeth ers blynyddoedd ac roeddwn i am gynnig rhywbeth gwell: gwasanaeth sy'n gwerthfawrogi pobl, sy’n ymateb yn gyflym, sy’n cynnal safonau clinigol ac sy’n darparu asesiadau gyda gofal, dyfnder ac uniondeb. Roeddwn i am greu gwasanaeth cynhwysol oedd yn gallu asesu'r cleientiaid mwyaf cymhleth, lle mae gan staff amser i wneud pethau'n iawn a theimlo eu bod nhw’n cael cymorth. Roeddwn i'n hyderus y gallwn i redeg fy ngwasanaeth fy hun ac fe wnaeth y staff roeddwn i'n gweithio gyda nhw ar y pryd fy annog i fentro arni ar fy mhen fy hun, felly dyma fi’n penderfynu rhoi cynnig arni.

Pa heriau oeddech chi'n eu hwynebu wrth gychwyn a thyfu'r busnes?

Gwelais i fod rhedeg gwasanaeth a rhedeg busnes yn ddau beth gwahanol iawn. Helpodd ffrind da fi i gofrestru'r busnes a chael staff ar y gyflogres a chomisiynais i gwmni i greu gwefan. Wedyn dyma fi’n aros i’r cysylltiadau lifo i mewn, ond nid felly y bu hi. Er gwaethaf marchnad sylweddol ar gyfer ein gwasanaethau, sylweddolais i na fyddai neb yn eu cyrchu oni bai eu bod nhw’n gwybod eu bod nhw’n bodoli. Dyna pryd y cysylltais â RCT am gymorth.

Sut y’ch cynorthwyodd RCT chi wrth i chi dyfu?

Ces i gyfarfod â Nicola Rylett Jones, fy Rheolwr Perthnasoedd ar RCT, a ofynnodd am weld fy nghynllun busnes yn gynnar. Doedd dim un gen i, felly gyda'i chymorth hi, dyma fi’n datblygu cynllun busnes tair blynedd, gosodais i nodau clir a dechreuais i ddeall a chynllunio ar gyfer y pethau a fyddai’n rhwystro twf. Fe aethom ni hefyd i weithdai RCT, gan gynnwys Prompt-a-thon AI a’n helpodd ni i symleiddio ein prosesau mewnol.

Y trobwynt oedd pan barodd RCT ni ag asiantaeth marchnata digidol i gynnal archwiliad SEO adeiladau chreu strategaeth. Esboniais i’r problemau roeddwn i'n eu hwynebu, ac o fewn ychydig wythnosau daethon nhw yn ôl gyda'u canfyddiadau a chanllaw fesul cam ar sut i'w datrys. Roedd yn amlwg mai strwythur ein gwefan ni oedd y broblem fwyaf, felly ymddiriedais i yn eu harbenigedd nhw a buddsoddi i’w hailgreu ar sail eu cyngor nhw.

Pa effaith mae'r cymorth hwn wedi'i chael?

Ar ôl lansio'r wefan newydd, gwelsom ni gynnydd enfawr mewn cysylltiadau a chawsom ni ein mis gorau hyd yma o ran perfformiad. Yn ystod chwe mis cyntaf ein hail flwyddyn, fe ddyblom ni ein trosiant, cynyddu’r cliciau ar y wefan o 325 y mis i 1.55k y mis a recriwtio chwe aelod newydd o staff.

Pa gerrig milltir rydych chi’n fwyaf balch ohonyn nhw?

Gallu cynnig y gwasanaeth o ansawdd uchel hwn i nifer gynyddol o bobl sy'n cael trafferth o ddydd i ddydd ac y mae angen cydymdeimlad arnyn nhw, ac yn aml yr atebion, sy'n dilyn diagnosis o awtistiaeth. Bu symud o redeg gwasanaeth prysur i redeg busnes go iawn, gyda chynllun, strategaeth a'r strwythur i'w dyfu, yn garreg filltir ynddo'i hun.

Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid eraill?

Mentrwch arni ond byddwch yn onest gyda chi'ch hun ynglŷn â ble mae eich bylchau, a cheisiwch gymorth i'w llenwi. I wneud yn fawr o RCT, byddwch yn hollol onest gyda'ch Rheolwr Perthnasoedd. Mae toreth o gymorth ar gael unwaith y byddan nhw'n deall ble yn union  rydych chi'n cael trafferth.

Beth nesaf ar gyfer Jo Condon Autism Assessments?

Rydyn ni’n yn symud i'n cyfnod nesaf o dwf gyda hyder go iawn i archwilio cyfleoedd newydd a meddwl ar raddfa fwy am y dyfodol. Rydyn ni hefyd yn gyffrous am y cyfle i gydweithio â busnesau eraill yng Nghymru, gan feithrin cysylltiadau a all helpu i sbarduno twf a llwyddiant i bawb ar draws y rhanbarth.

Dysgwch ragor am sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf gynorthwyo eich busnes chi.

Dysgwch ragor am Jo Condon Autism Assessments.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.