Hanes llwyddiant

O fwyd stryd i silffoedd siopau: Sut mae’r Rhaglen Cyflymu Twf yn helpu Picklebits i dyfu’n gynaliadwy

Picklebits Founder - Will York

"Mae'r Rhaglen Twf Cyflym wedi fy helpu i droi awch am biclo yn fusnes sy'n gynaliadwy ac y mae modd ei dyfu. Gyda’u cymorth nhw, rydyn ni’n gwneud bwyd arbennig wrth greu brand gwyrddach.”

Deilliodd Picklebits o un rhwystredigaeth: diffyg picls organig, cyffrous ar silffoedd archfarchnadoedd. Ar ôl gwneud ei bicls ei hun i’w gweini ar ei stondin fwyd ar y stryd yng Nghaerdydd am ddwy flynedd, sylweddolodd Will York fod ganddo rywbeth arbennig. Sbardunodd ei awch am flasau naturiol, beiddgar genhadaeth newydd: trawsnewid y picl cyffredin yn brif elfen gourmet, organig a chynaliadwy ar gyfer brechdanau, byrbrydau a thu hwnt.

Erbyn heddiw, mae Picklebits ar ddechrau ei daith i dyfu, a’i jariau eisoes yn ennill eu plwyf mewn siopau annibynnol a delis ledled Cymru. Gyda thri chynnyrch sy'n barod i’w manwerthu, siop ar-lein sy'n tyfu, a lle wedi’i gadarnhau ym Marchnad Nadolig Caerdydd, mae'r brand bellach ar fin tyfu ymhellach gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru.

Cawsom ni air â Will York am daith y cwmni hyd yn hyn, yr heriau o dorri i mewn i fyd gweithgynhyrchu bwyd, a sut mae cymorth RCT yn eu helpu nhw i biclo gyda phwrpas.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth i chi ddechrau Picklebits?

Daeth yr ysbrydoliaeth yn syth o gariad o fwyd da. Ar ôl arbrofi gyda ryseitiau o’m busnes bwyd stryd, sylweddoles i fod bwlch yn y farchnad. Gwawriodd y syniad pan ddaethom ni i’r casgliad ein bod ni am weld y picls ardderchog hyn ar gael i bawb.

Beth yw eich cenhadaeth chi?

Ein cenhadaeth ni yw trawsnewid y picl traddodiadol trwy ei wneud yn organig, yn gyfleus ac yn fwrlwm o flas beiddgar. Mae’r rhan fwyaf o bicls a gewch chi yn yr archfarchnadoedd wedi eu mewnforio, yn llawn cyffeithyddion artiffisial, ac yn anaml y maen nhw’n organig. Yn wahanol i’r rhain, mae pob un o’n picls ni wedi eu creu yng Nghymru o lysiau organig o ansawdd uchel, wedi eu piclo’n naturiol heb unrhyw ychwanegion artiffisial. Mae cynaliadwyedd wrth wraidd popeth a wnawn ni: mae ein jariau’n hollol ailgylchadwy neu’n ailddefnyddiadwy, ac mae ein holl becynnau’n fioddiraddadwy, yn gompostadwy, neu’n ailgylchadwy.

Pa heriau rydych chi wedi eu cael wrth ddechrau a thyfu?

Roedd symud o fwyd stryd i gynhyrchu bwyd yn naid fawr. Roedd rhaid i ni lywio rheoliadau cymhleth, tyfu cynhyrchiant, a dod o hyd i becynnau a oedd yn effeithiol ac yn ystyriol o’r amgylchedd. Roedd y diffyg gwybodaeth am y diwydiant a phrofiad marchnata hefyd yn rhwystr, ond dyma ni’n mynd i'r afael ag ef trwy gynnal ymchwil drylwyr, creu perthnasoedd cryf â chyflenwyr cryf, a cheisio cyngor arbenigol gan RCT.

Sut y bu RCT o gymorth i chi?

Bu’r mentora un-i-un gydag ein hymgynghorydd, Mandy Weston, yn werth y byd. Mae pob cyfarfod yn datgloi cyfleoedd newydd a chyngor na fydden ni byth wedi dod o hyd iddo ar ein pennau ein hunain. Mae RCT hefyd wedi ein helpu ni i greu ein Cynllun Lleihau Carbon, gan sicrhau bod cynaliadwyedd wrth galon ein strategaeth twf.

Mae cwsmeriaid yn poeni’n gynyddol am ôl-troed eu bwyd. Mae cymorth RCT wedi ein helpu ni i lunio’r ymrwymiad hwn yn gliriach a’n gosod ein hunain yn fusnes gwyrdd, a arweinir gan werthoedd.

Pa gerrig milltir rydych chi’n fwyaf balch ohonyn nhw hyd yn hyn?

Roedd cael ein cynhyrchion ar silffoedd siopau yn gamp enfawr. Bob tro y bydd stociwr arall yn cytuno i gario ein cynhyrchion, mae’n rhoi gwefr go iawn. Mae llwyddo i baratoi tri chynnyrch parod i’w manwerthu heb unrhyw brofiad diwydiannol blaenorol yn rhywbeth rydyn ni’n arbennig o falch ohono.

Pa rôl y mae arloesi yn ei chwarae yn eich busnes chi?

Mae arloesi’n golygu popeth i ni. Mae'r cynnyrch ei hun yn arloesi: picl, organig, gourmet wedi'i dorri ymlaen llaw mewn categori sy’n orlawn o ddewisiadau amgen diflas, wedi'u mewnforio. Rydyn ni hefyd yn arbrofi gyda blasau a ryseitiau newydd i gadw ein hystod yn ffres ac yn gyffrous i gwsmeriaid.

Sut ydych chi’n tyfu eich presenoldeb?

Dechreuon ni gyda'n siop ar-lein a'n stondinau marchnad, a oedd yn caniatáu inni dderbyn adborth uniongyrchol gan gwsmeriaid. Bellach, mae ein hystod o stocwyr yn tyfu’n raddol. Gyda chymorth RCT, y cam nesaf i ni fydd sicrhau achrediadau, gan ein gosod ni mewn lle i gyflenwi manwerthwyr mwy o faint.

Pa wersi ydych chi wedi eu dysgu ar hyd y ffordd?

Y wers fwyaf oedd ymddiried yn ein greddfau. Os nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn, oedwch ac ailwerthuso. Rydyn ni hefyd wedi dysgu peidio ag ymdroi uwchben camsyniadau ond symud ymlaen yn gyflym ac yn fwriadol. Darn arall o gyngor allweddol y bydden ni’n ei drosglwyddo i roi prawf ar eich cynhyrchion gyda chwsmeriaid go iawn. Mae teuluoedd a ffrindiau’n gefnogol, ond dydyn nhw ddim yn rhoi’r ateb mwyaf gonest i ni bob tro.

Beth sydd nesaf i Picklebits?

Ein nod uniongyrchol yw cynnal momentwm, ehangu ein stocwyr, ac yn y pen draw, tyfu ein tîm. Mae gennym ni ddau benodiad newydd ar y gweill ar gyfer 2026. Gyda chymorth parhaus RCT, rydyn ni’n hyderus y gallwn ni dyfu mewn modd cynaliadwy a chyrraedd marchnadoedd newydd heb golli ein hunaniaeth greiddiol.

Darganfyddwch ragor am sut y gall Y Rhaglen Cyflymu Twf gefnogi eich busnes. 

Dysgwch ragor am Picklebits.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.