Hanes llwyddiant

Cwmni nwyddau rhodd o Abertawe yn llygadu £6m o werthiant Ewropeaidd gydag ymgyrch ehangu bwysig

Something Different Wholesale team photo

Something Different Wholesale yn lansio gwefannau mewn pedair iaith a gweithgarwch masnachu yn yr Iseldiroedd wrth i 35% o dwf Ewropeaidd yrru camau ehangu uchelgeisiol ar y cyfandir

Mae cwmni nwyddau rhodd o Abertawe y mae ei werthiant Ewropeaidd wedi tyfu 35% yn lansio rhaglen ehangu uchelgeisiol a allai weld ei werthiant yn yr UE yn cyrraedd £6 miliwn ymhen dwy flynedd.

Mae Something Different Wholesale, a wnaeth drosiant o fwy na £3 miliwn yn Ewrop llynedd, yn cyflwyno pedair gwefan newydd mewn ieithoedd penodol. Bydd hefyd yn arddangos yn sioe fasnach nwyddau rhodd fwyaf Ewrop ac yn sefydlu gweithgarwch masnachu llawn yn yr Iseldiroedd i wasanaethu cwsmeriaid ar y cyfandir Mae’r cwmni’n disgwyl dyblu ei werthiant Ewropeaidd dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae'r busnes gwerth £11 miliwn, sy'n cyflogi 75 o bobl yn Llansamlet, wedi cael cymorth gan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru a rhaglen Allforio Llywodraeth Cymru, sydd wedi darparu arbenigedd cynhwysfawr ar draws sawl maes sy'n hanfodol i gamau ehangu'r cwmni yn Ewrop.

Mae’r strategaeth ehangu yn yr UE yn canolbwyntio ar dair prif fenter. Ym mis Chwefror, arddangosodd Something Different Wholesale yn Ambiente yn Frankfurt, sef prif sioe fasnach nwyddau rhodd Ewrop gyda chymorth rhaglenni cymorth allforio Llywodraeth Cymru. Mae'r busnes hefyd wedi mudo i barth .com a lansio gwefannau Ffrangeg, Iseldireg, Almaeneg a Sbaeneg, ag URL lleol i bob un, i hybu amlygrwydd mewn chwiliadau ledled Ewrop.

Mae RCT Busnes Cymru wedi helpu'r busnes i ddatblygu dull twf strwythuredig, penodol i'r farchnad, dan arweiniad chwiliadau ar draws tiriogaethau Ewropeaidd dethol ac wedi cynorthwyo’r cwmni i wneud yn fawr o weithrediadau warws ar draws ei gyfleuster 160,000 troedfedd sgwâr. Helpodd hyfforddiant allforio arbenigol y cwmni i ddatblygu map trywydd cynhwysfawr ar gyfer cydymffurfiaeth Ewropeaidd, a bellach mae wedi creu pecynnu ym mhob un o 22 iaith yr UE.

Mae'r cwmni hefyd ar ddiwedd y broses o sicrhau statws warws bond gan CThEF, a fydd yn lleihau’n sylweddol gostau tollau ar nwyddau sy'n cael eu hallforio. Disgwylir i hyn sicrhau arbedion o hyd at £5M dros y pum mlynedd gyntaf. Bydd y statws yn cefnogi allforion Ewropeaidd drwy wneud yn fawr o gostau tollau a gwella effeithiolrwydd ar gyfer cwsmeriaid yr UE.

Meddai Anthony David, Rheolwr Gyfarwyddwr Something Different Wholesale:

“Ewrop yw ein cyfle mwyaf ni o ran twf, ac rydyn ni’n gweld galw anhygoel am ein cynhyrchion. Mae sicrhau 35% o dwf Ewropeaidd a throsiant o fwy na £3 miliwn yn y farchnad honno llynedd wedi profi bod blas mawr am beth rydyn ni’n ei gynnig.

“Mae’r cymorth rydyn ni wedi’i gael gan RCT wedi bod yn drawsnewidiol. Mae ein Rheolwr Perthnasoedd, Carmel Gahan, yn dod ag arbenigedd dwfn mewn gweithgynhyrchu ac e-fasnach, ac roedd hi'n deall i’r dim beth oedd ei angen arnom i dyfu ein gweithrediadau Ewropeaidd. Cysylltodd ni â'r arbenigwyr cywir ar yr adeg gywir - o ddatblygu ein strategaeth ddigidol dan arweiniad chwiliadau ar gyfer marchnadoedd Ewropeaidd i wneud yn fawr o’n gweithrediadau warws. Mae'r cyfuniad hwnnw o arweiniad strategol Carmel a mynediad at gymorth arbenigol wedi bod yn anhepgor i’n rhoi ni mewn lle i gystadlu'n hyderus ar y llwyfan byd-eang."

Ers ei ffurfio ym 1999, mae Something Different Wholesale wedi trawsnewid o weithrediad talu a chario bach i fod yn wneuthurwr a arweinir gan waith dylunio, a dros 80% o'r cynhyrchion bellach wedi'u dylunio gan ei dîm mewnol yn Abertawe. Mae HMV yn stocio cynhyrchion Something Different Wholesale ar draws 113 o siopau yn y DU a chwe lleoliad Ewropeaidd, ac mae Next wedi creu partneriaeth â'r cwmni ar gyfer nwyddau a archebir heb eu stocio ac amrediadau Nadolig yn y siop.

Meddai Lucy Jones, Rheolwr Gweithrediadau’r Rhaglen Cyflymu Twf:

"Mae Something Different Wholesale yn enghraifft o’r uchelgais rydyn ni’n ei weld ym musnesau twf uchel Cymru. Mae Anthony a'i dîm wedi mynd ati’n systematig i symud pob rhwystr rhag llwyddiant Ewropeaidd ac rydyn ni wedi bod yn falch o'u cefnogi ar eu taith i dyfu trwy ehangu’n barhaus."


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.