Mae Keto Pro, a sefydlwyd gan Richard Smith, yn esiampl o arloesi yn y diwydiant iechyd a lles. Wedi datblygu o drafferthion iechyd Richard gyda diabetes Math 2, mae Keto Pro wedi datblygu o un siop yng Nghastell-nedd i fusnes proffidiol ar-lein gyda throsiant o dros £1m. Fel pencampwr cryfhau corffolaeth dynion Prydain ac Ewrop, mae Richard yn dod â llawer o wybodaeth a phrofiad personol i'r busnes. Mae'r deiet keto, a nodweddir gan ei...
Elliots Hill: Chwyldroi gwasanaethau gofal gyda theimlad a gweledigaeth.
Mae Elliots Hill, dan arweiniad Sally a Simon Clarke, wedi dod yn symbol o arloesedd a thosturi yn y sector gofal yng Nghymru. Gan arbenigo mewn allgymorth cymunedol, byw â chymorth, a gofal preswyl, bu iddynt drawsnewid busnes teuluol yn esiampl o ragoriaeth yn y sector gofal. Mae eu dull o integreiddio technegau a thechnoleg rheoli fodern - gyda ffocws uniongyrchol ar ansawdd gwasanaeth a lles gweithwyr – yn ailddiffinio gofal. Gan wynebu heriau cynhenid...
O Gasnewydd i'r byd: Sut mae Enjovia yn arloesi o ran dyfodol rheoli Talebau Rhodd.
Mae Enjovia o Gasnewydd yn dyst i feddwl arloesol yn y sector e-fasnach. Gan ddechrau yn gyfranogwr yn rhaglen Entrepreneuriaeth Ymddiriedolaeth Alacrity, mae'n arwain y gad o ran symleiddio'r broses o reoli cardiau a thalebau rhodd ar gyfer busnesau ledled y byd. Cenhadaeth graidd y cwmni yw grymuso busnesau, yn enwedig yn y diwydiant lletygarwch a gwasanaeth byd-eang, trwy gynnig llwyfan rheoli cardiau a thalebau rhodd effeithlon sy'n hawdd ei ddefnyddio. Nod y platfform hwn...
Revolancer: Ailddiffinio gwaith llawrydd ar blatfform cyfnewid sgiliau chwyldroadol.
Ers ei lansio yn 2021, mae Revolancer wedi newid byd gweithwyr llawrydd trwy ddatblygu ecosystem ar gyfer cyfnewid sgiliau. Mae'r platfform yn cynnig rhyddid i weithwyr llawrydd gyda'u gyrfa ac yn gweddnewid y ffordd y mae gwaith llawrydd yn cael ei weld a'i gyfnewid. Mae hefyd yn grymuso pobl hunangyflogedig i dyfu eu busnesau heb gyfyngiadau ariannol. Syniad Karl Swanepoel yw'r platfform, ac mae taith Karl fel entrepreneur yn ddim llai na rhyfeddol. Gan ddechrau...
Rhyddhau Potensial Technolegol: Taith WeGetDesign o Fusnes Newydd i Arweinydd Technoleg.
Daeth WeGetDesign, o Gaerdydd, i'r amlwg ar ddiwedd 2017 fel busnes technoleg bach newydd gyda gweledigaeth eang. Gan arbenigo mewn Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS) a all ehangu a seilwaith swyddfa gefn, mae'r cwmni wedi tyfu i 14 aelod o staff llawn amser a sawl contractwr allanol. Gyda chyfradd twf drawiadol flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae WeGetDesign wedi datblygu'n chwaraewr o bwys yn y diwydiant technoleg. Mae'r Rheolwr Gyfarwyddwr Omar Moulani yn egluro sut y gwnaeth...
Pro Steel: Llwyddiant Peirianneg Trwy Arloesi a Chydweithio.
Yn 2012, cychwynnodd Richard Selby a Justin Marriott ar fenter i drawsnewid y diwydiant dur. Eu nod oedd sefydlu cwmni oedd yn blaenoriaethu gwasanaeth eithriadol ac atebion arloesol. Dechreuodd taith Pro Steel Engineering yn syml yn ystafell flaen Selby, gan gynyddu'n gyflym i gwmni mawr gyda throsiant o dros £10m. Mae llwybr twf y cwmni yn dangos ei hymrwymiad i arloesi, gan groesawu ac addasu yn gyson i heriau newydd yn y farchnad. Heddiw, mae...
Fforwm Arfordir Sir Benfro: Llywio Tuag at Arfordir a Môr Mwy Cynaliadwy.
Yn sgil heriau amgylcheddol ac economaidd cynyddol ar arfordir Sir Benfro, ffurfiodd grŵp o arweinwyr â gweledigaeth Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF) yn 2000. Bellach yn rym blaenllaw mewn rheoli arfordirol cynaliadwy, mae PCF yn enghraifft o bŵer cydweithredu a meddwl arloesol wrth drawsnewid heriau amgylcheddol yn gyfleoedd ar gyfer twf a chynaliadwyedd. Yma, mae Jetske Germing, Rheolwr Gyfarwyddwr PCF, yn rhannu taith drawsnewidiol y sefydliad. Mae hi hefyd yn esbonio sut mae Rhaglen Cyflymu...
O fewnforiwr i allforiwr byd-eang: Sut y daeth Milking Solutions yn hyrwyddwr yr economi gylchol
Yn swatio yn nhref hardd Trefynwy, mae hynt Milking Solutions wedi bod yn rhyfeddol, gan fynd o fod yn gwmni mewnforio sy'n gwasanaethu'r DU i fod yn wneuthurwr ac allforiwr byd-eang o fri sy'n cyflenwi darnau peiriannau godro. Heddiw, mae ystod cynhyrchion y cwmni yn cynnwys offer godro ar gyfer gwartheg, defaid, geifr a chamelod. Yma, mae Kevin Graham, y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn rhannu'r daith ddifyr a drawsnewidiodd fusnes bach yng Nghymru yn arweinydd byd-eang...
Ar flaen y gad ym maes tai cymdeithasol cynaliadwy gyda Gwybodaeth SimplyDo am Arloesi
Mae SimplyDo o Gaerdydd yn gwmni sydd ar flaen y gad ym maes arloesi. Mae'n ymrwymedig i ddatrys yr heriau mawr sy'n ein wynebu wrth inni fynd ati i drawsnewid, ac mae'n dod â phobl a phlatfformau digidol blaengar at ei gilydd i greu dulliau newydd arloesol o ddatrys problemau. Yn ddiweddar, bu'r cwmni'n defnyddio'i arbenigedd i helpu i ddatrys un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r sector tai cymdeithasol. Yma, mae Lee Sharma, Prif Swyddog...
Gwarchod traddodiad a chroesawu’r dyfodol: Sut y daeth Corgi Hosiery yn frand byd-eang cynaliadwy
Mae hanes diwydiannol Cymru wedi cael ei ailddiffinio dro ar ôl tro. Mae ailddiffiniad o’r fath i’w weld yn Corgi Hosiery yn Rhydaman, sy’n fusnes pumed genhedlaeth lle mae’r crefftwaith traddodiadol gorau ac arferion cynaliadwy modern yn dod ynghyd. Mae’r brand, a gafodd ei sefydlu yn 1892, wedi esblygu’n raslon o gyflenwi sanau i lowyr i ddod yn arweinydd byd-eang yn y farchnad dillad gwau moethus. Heddiw, mae’r cwmni’n cyflogi 65 o bobl ac yn...