Mae brand o’r Barri yn ehangu partneriaethau masnach â gwestai premiwm ac yn llofnodi cytundeb dosbarthu ledled y DU â Castell Howell, gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
Mae The Goodwash Company o’r Barri wedi cyflawni twf o 18% mewn gwerthiant ar-lein eleni, ar sail ton o archebion gwefan a phartneriaethau masnach newydd â chleientiaid lletygarwch premiwm ledled Cymru a’r DU.
Mae’r brand gofal croen moesegol, sy’n creu cynhyrchion figan moethus a di-greulondeb, wedi sicrhau cytundeb carreg filltir â Castell Howell, un o gyfanwerthwyr gwasanaeth bwyd mwyaf Cymru. Bydd partneriaeth Castell Howell yn dosbarthu ystod olchi graidd Goodwash i fusnesau lletygarwch ledled Cymru a’r DU. Bydd hyn yn ehangu’n sylweddol gyrhaeddiad y brand y tu hwnt i’w sianeli presennol, yn uniongyrchol i’r defnyddiwr a gwestai bwtîc.
Daw’r twf wrth i The Goodwash Company ehangu’i bresenoldeb yn y sector lletygarwch premiwm, gan sicrhau cleientiaid newydd o fri gan gynnwys Crwst Cymru yng Ngheredigion. Mae’r cwmni hefyd wedi lansio cannwyll gydweithredu arbennig â Neuadd Ynyshir sydd â dwy seren Michelin, ac wedi cyhoeddi ymgyrch partneriaeth roddion newydd â Land Rover Defender.
Sefydlwyd The Goodwash Company yn 2018, mae wedi cael cymorth gan y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT), un o wasanaethau Busnesau Cymru sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Gweithiodd RCT gyda’r cwmni i ailwampio ei strategaeth e-fasnach, gan arwain at lansio gwefan newydd eleni a yrrodd dwf ar-lein sylweddol.
Carreg filltir bwysig i’r busnes hefyd oedd creu sefydliad etifeddiaeth gan Goodwash mewn partneriaeth â’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Bellach bydd y sefydliad yn dosbarthu elw’r cwmni’n awtomatig i achosion da yng Nghymru.
Meddai Sylfaenydd The Goodwash Company, Mandy Powell:
“Rydyn ni’n falch dros ben o gynnydd eleni ac ansawdd y partneriaethau rydyn ni wedi eu sicrhau a hynny wrth gynnal perthnasoedd ardderchog â’n partneriaid hirsefydlog. Mae’r cynnydd mewn gwerthiant yn adlewyrchu newid sylweddol mewn ymddygiad defnyddwyr. Mae rhagor o bobl am gynorthwyo busnesau lleol sydd â chydwybod gymdeithasol, ac mae newid i gynhyrchion moesegol tebyg i’n rhai ni’n ddewis hawdd.
“Mae ein cynhyrchion Cymraeg, yn enwedig ein balm llaw Pawen Lawen a Sebon Dwylo, yn hynod o boblogaidd. Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’n hunaniaeth brand, ac mae’n hyfryd gweld cwsmeriaid yn ymateb mor gadarnhaol i hynny.
“Mae’r cymorth rydyn ni wedi’i gael gan y Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn drawsnewidiol. Mae’r wefan newydd a’r strategaeth ddigidol wedi bod yn allweddol wrth symbylu ein twf ar-lein a byddai wedi bod yn amhosib i ni wneud hyn heb yr arweiniad arbenigol hwnnw a’r mewnbwn strategol gan y tîm RCT.”
Meddai Mandy hefyd:
“Mae lansio ein sefydliad etifeddiaeth gyda’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn 2026 yn rhywbeth rydw i’n hynod falch ohono. Mae’n caniatáu i ni ffurfioli ein hymrwymiad i roi yn ôl ac yn sicrhau, wrth i ni dyfu, bod cymunedau Cymru yn elwa’n uniongyrchol o’n llwyddiant. Gan edrych ymlaen, rydyn ni ar daith gyffrous i ddod yn fusnes B Corp ardystiedig dros y flwyddyn nesaf, a fydd yn sêl arall ar ein hymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol.”
Meddai Lucy Jones, Rheolwr Gweithrediadau’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes:
“Mae The Goodwash Company yn enghraifft o fusnes sy’n cyfuno uchelgais masnachol ag effaith gymdeithasol go iawn. Mae gweledigaeth Mandy o adeiladu brand moesegol, cynaliadwy sy’n rhoi yn ôl i gymunedau’n un ysbrydoledig, ac mae’r canlyniadau’n siarad drostyn nhw eu hunain. Mae The Goodwash Company mewn sefyllfa berffaith i fanteisio ar y duedd gynyddol tuag at brynu cymdeithasol, ac rydyn ni’n falch o gefnogi eu taith nhw trwy’r Rhaglen Cyflymu Twf.”