Codi’r safon mewn dillad gymnasteg: Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru yn cefnogi cynlluniau ehangu Quatro Gymnastics
Sefydlwyd Quatro Gymnastics bron 15 mlynedd yn ôl yn Abertawe, ac mae wedi dod yn arweinydd byd-eang ym maes dillad gymnasteg. Fe'i sefydlwyd gan Joanna Vazquez, cyn-gymnastwraig ryngwladol dros Gymru a Phrydain Fawr, a daeth y cwmni i fod yn sgil y galw am leotardau chwaethus a pherfformiad uchel, bwlch yn y farchnad a nododd Joanna yn uniongyrchol yn ystod ei blynyddoedd o gystadlu. Mae Quatro yn darparu leotardau wedi eu dylunio’n bersonol i dros...