Mae'r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes yn rhaglen flaenllaw sy'n cefnogi entrepreneuriaid mwyaf addawol Cymru. Dros gwrs dwys 12 wythnos, mae cyfranogwyr yn cael mentora arbenigol, gweithdai busnes wedi'u targedu, a chyfleoedd rhwydweithio i fireinio eu syniadau yn fusnesau gellir eu tyfu.
Roedd Gaz Thomas, entrepreneur profiadol sydd ag awch am gemau fideo a phrofiadau digidol, ymhlith cyfranogwyr 2024. Mae ei fusnes, Solitaire.io, yn cyfuno blynyddoedd o arbenigedd ym maes datblygu gwefannau a chreu gemau gyda chenhadaeth uchelgeisiol: gwneud gemau solitêr yn hygyrch, yn hwyl ac yn rhad ac am ddim.
Cawsom ni air â Gaz i ddysgu rhagor am ei daith a rôl drawsnewidiol y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes.
Allwch chi esbonio’r syniad wrth wraidd Solitaire.io?
Mae Solitaire.io yn wefan syml, hawdd ei defnyddio sy'n cynnig gemau solitêr y gellir eu chwarae ar ddyfeisiau symudol neu ddyfeisiau bwrdd gwaith. Rydyn ni hefyd yn gwerthu cardiau chwarae unigryw i’w casglu.
Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu gemau yn rhad ac am ddim heb unrhyw hysbysebion ymwthiol neu angen i brynu eitemau yn yr ap, sy'n creu rhwystredigaeth yn aml yn y diwydiant. Mae ein deciau cardiau ffisegol yn mynd â'r creadigrwydd hwn ymhellach, gan roi tro ffres a lliwgar i gardiau chwarae traddodiadol.
Pa heriau oeddech chi'n eu hwynebu cyn ymuno â'r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, a sut gwnaethoch chi eu goresgyn?
Roeddwn i'n entrepreneur unigol profiadol ond nid oedd gen i hyder wrth adeiladu tîm a thyfu busnes.
Helpodd y cyflymydd fi i feithrin y sgiliau a’r hyder i fynd i’r afael â phrosiectau mwy o faint. Helpodd fi hefyd i nodi arian grant fel y ffordd orau o danio ein twf. Arweiniodd hyn at geisiadau llwyddiannus am gymorth gan M-SParc a Media Cymru, sydd wedi bod yn hanfodol wrth yrru ein gwaith ymchwil a datblygu.
Beth a’ch ysbrydolodd chi i ddechrau eich busnes?
Ar ôl darllen erthygl am filiwnyddion rhyngrwyd, ces i fy ysbrydoli i ddechrau adeiladu gwefannau. Rwyf wedi mwynhau adeiladu cynhyrchion y mae pobl yn hoff o’u defnyddio erioed, boed yn gêm rhad ac am ddim, gwefan, neu gynnyrch ffisegol fel ein cardiau chwarae i’w casglu. Mae Solitaire.io yn caniatáu i mi gyfuno fy mhrofiad ym maes technoleg, gemau, ac entrepreneuriaeth.
Does dim byd yn well na llwyddo i ennyn brwdfrydedd, derbyn adborth cadarnhaol, a gweld pobl yn cysylltu â'r hyn rydych chi wedi'i adeiladu. Rwy hefyd yn hoff iawn o’r her o ddatrys problemau a throi syniadau’n realiti.
Sut y gwnaeth y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes fireinio eich syniad neu’ch strategaeth busnes?
Mae'r mentoriaid a'r gweithdai wedi fy helpu i ganolbwyntio ar dwf cynaliadwy a mireinio fy strategaeth fusnes. Ces i eglurder ar ffrydiau refeniw allweddol, cynulleidfaoedd targed, a sut i gyfleu ein cynnig gwerth yn fwy effeithiol. Tynnodd y rhaglen sylw hefyd at arian grant yn gyfle allweddol i dyfu.
Pa sgiliau, gwybodaeth, neu offer y gwnaethoch chi eu derbyn yn ystod y rhaglen?
Rhoddodd y cyflymydd ganfyddiadau gwerthfawr i mi ar gynllunio ariannol, strategaethau marchnata, a sgiliau arweinyddiaeth. Bu’r offer hyn yn hanfodol wrth i mi symud o weithio ar fy mhen fy hun i adeiladu ac arwain tîm. Fe wnaeth sesiynau rhwng cymheiriaid fy helpu i gael golwg newydd gan entrepreneuriaid mewn gwahanol ddiwydiannau, a oedd yn ysbrydoledig ac yn hynod ddefnyddiol.
Beth yw eich cynlluniau ar gyfer dyfodol Solitaire.io?
Dros y flwyddyn nesaf, rydyn ni’n lansio ein dec cardiau diweddaraf i’w gasglu, Mosh Idols: Punk Rock Playing Cards. Yn y tymor hir, ein gweledigaeth yw dod y platfform y mae selogion solitêr ledled y byd yn troi ato. Rydyn ni hefyd yn bwriadu ehangu ein llinell gynhyrchion corfforol gyda dwsinau o ddeciau cardiau chwarae newydd ar thema. Rydyn ni wrthi’n arloesi ac yn chwilio am ffyrdd newydd o wella ein gemau a’n cynnyrch.
Beth yw’r wers fwyaf i chi ei dysgu yn entrepreneur?
Mae’r dirwedd busnes yn newid yn gyflym. Mae bod yn agored i adborth, addasu pan fo angen, a pharhau i ddysgu yn hanfodol ar gyfer llwyddiant hirdymor.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried dechrau eu busnes eu hunain?
Dechreuwch yn fach, ond meddyliwch yn fawr. Dilyswch eich syniadau yn gynnar, a pheidiwch ag ofni gwneud camgymeriadau; gall y rhain fod yn rhai o'r profiadau dysgu gorau.
Sut mae bod yn rhan o'r rhaglen wedi dylanwadu ar eich hyder neu eich persbectif yn sylfaenydd?
Mae’r rhaglen wedi bod yn drawsnewidiol. Ar ôl blynyddoedd yn entrepreneur unigol, rhoddodd yr hyder i mi ehangu fy musnes a dilyn prosiectau mwy uchelgeisiol. Mae gen i’r offer a’r wybodaeth bellach i fynd â fy musnes i’r lefel nesaf.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Cyflymu Twf.