Helpodd y Rhaglen Cyflymu Twf i droi ein huchelgais bras yn gynllun lleihau carbon â ffocws yr oedd modd ei weithredu. Erbyn hyn rydyn ni’n fusnes gwyrddach, cryfach.
O’i leoliad yn Abertawe, mae Something Different Wholesale wedi dod yn rym pwysig yn sector eitemau rhoddion y DU. Fe’i sefydlwyd gyda ffocws ar ansawdd, hyblygrwydd, a gwasanaeth, erbyn hyn mae gan y cwmni drosiant o £11 miliwn, tîm o 75 o staff, a sylfaen gwsmeriaid o dros 25,000 o gleientiaid busnes-i-fusnes ledled y byd. Mae amrediad mawr eu cynhyrchion, sy’n cynnwys eitemau rhoddion, persawr cartref, eitemau gardd, a chynhyrchion llesiant ysbrydol, wedi eu gwneud nhw’n gyflenwr poblogaidd i siopau annibynnol a manwerthwyr mawr fel ei gilydd.
Ynghyd â’u llwyddiant masnachol, mae Something Different Wholesale hefyd yn dangos y gall cynaliadwyedd a thwf fynd law yn llaw. Gyda chymorth gan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, mae’r cwmni wedi ymgorffori camau i leihau carbon ym mhob agwedd ar ei weithrediadau, o gyrchu ynni a phecynnu i logisteg ac ymgysylltu â chyflenwyr. Mae’r Cyfarwyddwr Ariannol Craig Brown yn rhannu’r daith hyd yn hyn a sut yr helpodd cymorth RCT nhw i drosi uchelgais yn effaith.
Beth oedd y cymhelliant wrth wraidd eich ymrwymiad chi i gynaliadwyedd?
Mae gan fusnesau gyfrifoldeb i arwain y ffordd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Trwy leihau ein hallyriadau carbon rydyn ni’n meithrin gwydnwch hirdymor, effeithlonrwydd gweithredol, ac yn gwneud y peth iawn ar gyfer ein cymunedau, ein cwsmeriaid, a’r staff. Mae cynaliadwyedd yn cyd-fynd yn agos â’n gwerthoedd ac mae’n dod cyn bwysiced â phris ac ansawdd cynnyrch mewn penderfyniadau pobl i brynu pethau.
Sut yr helpodd RCT chi ar eich taith at gynaliadwyedd?
Data oedd ein her fwyaf ni. Gan fod ein cadwyn gyflenwi ryngwladol ni mor eang a’n logisteg mor gymhleth, roedd olrhain allyriadau’n mynd ag amser ac yn aml yn anghyflawn. Roedd hi’n arbennig o heriol mesur data cludo nwyddau oherwydd adroddiadau anghyson gan gyflenwyr tramor.
Helpodd cymorth gan arbenigwyr cynaliadwyedd RCT ni i rannu’r cymhlethdod hwn yn ddarnau llai. Rhoddon nhw fframwaith ymarferol i ni gyfrifo allyriadau a’n tywys ni drwy’r broses o adeiladu cynllun lleihau realistig fesul cyfnod. Helpodd eu hoffer nhw ni i safoni ein dull, a sicrhaodd adolygiadau rheolaidd ein bod ni’n cadw ffocws ac yn parhau’n atebol.
Pa newidiadau gweithredol rydych chi wedi eu gwneud o ganlyniad?
Helpodd cymorth RCT ni i gymryd camau ymarferol, beiddgar. Rydyn ni wedi dileu cludiant awyr i mewn, wedi gosod 2,000 o baneli solar, ac wedi newid i drydan adnewyddadwy ardystiedig, gan arwain at leihad dros 70% mewn allyriadau Cwmpas 1 a 2 ers 2022. Rydyn ni hefyd wedi symleiddio ein cludiant ac wedi gweithio mewn partneriaeth â darparwyr logisteg gan ddefnyddio trafnidiaeth is ei hallyriadau.
Yn nesaf, rydyn ni’n cynyddu ein hymdrechion o ran pecynnu cynaliadwy drwy ailddefnyddio cartonau sy’n dod i mewn, gan ddefnyddio rhagor o lenwyr wedi eu hailgylchu, a chan ail-ddylunio parseli i leihau gwastraff. Rydyn ni hefyd yn annog teithiau gwyrddach i’r gwaith trwy gynlluniau aberthu cyflog EV a rhannu cludiant â chyflenwyr i leihau allyriadau ymhellach.
Pa fath o effaith fesuradwy rydych chi wedi ei gweld?
Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da o ran lleihau’r allyriadau y mae gennym ni reolaeth uniongyrchol drostyn nhw. Ers 2022, rydyn ni wedi lleihau ein hallyriadau Cwmpas 1 78% yn sgil llai o ddefnydd ar gerbydau a’n hallyriadau Cwmpas 2 70% o ganlyniad i fabwysiadu ynni’r haul a thrydan adnewyddadwy. Erbyn hyn dyma ffynhonnell 100% o bŵer ein gweithrediadau.
Mae allyriadau Cwmpas 3 yn fwy cymhleth. Er ein bod ni wedi lleihau gwastraff ac allyriadau sy’n gysylltiedig â dŵr 44%, mae’r ffigurau cyffredinol wedi cynyddu ychydig o achos cynnydd mewn gweithgarwch busnes. Bellach cludiant, ar ei ben ei hun, yw 75% o’n hôl troed cyfan, gan sicrhau mai hon yw ein prif flaenoriaeth i’r dyfodol.
Ar nodyn calonogol, mae ein hymdrechion cynaliadwyedd yn taro tant â’n cwsmeriaid. Rydyn ni’n gweld bod galw cynyddol am dryloywder ynghylch cyrchu moesegol, pecynnau, a defnydd ynni a’n dull rhagweithiol yn ein helpu ni i ennill teyrngarwch ac i sefyll allan mewn marchnad lawn.
Yn fewnol, mae’r ymdrechion hyn wedi hybu morâl ac ymgysylltiad y tîm, gan greu ymdeimlad cyffredin o bwrpas a chydweithredu ar draws y busnes.
Beth yw eich blaenoriaethau cynaliadwyedd nesaf?
Dros y 2–3 blynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar y ffynonellau allyriadau mwyaf sydd gennym ni o hyd: cludiant, pecynnu, a theithiau. Byddwn ni’n cyfuno cludiant, yn partneru â chludwyr isel eu hallyriadau, ac yn cynyddu i’r eithaf becynnu sy’n defnyddio rhagor o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu a dyluniad parseli clyfrach.
Rydyn ni hefyd yn hyrwyddo teithiau gwyrddach i’r gwaith trwy gynlluniau EV, rhannu ceir, ac e-feiciau, wrth barhau i uwchraddio effeithlonrwydd ynni ar draws ein hadeiladau.
I gefnogi hyn, rydyn ni’n ehangu ein hamrediadau cynnyrch cynaliadwy, gwella’r gwaith o ecolabelu, a lansio tîm “Hyrwyddwyr Gwyrdd” i gynnal momentwm.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i BBaChau eraill sy’n dechrau arni?
Peidiwch ag aros nes bod gennych chi’r atebion i gyd. Dechreuwch yn fach, canolbwyntiwch ar feysydd effaith uchel, a magu momentwm. Defnyddiwch ddata i lywio eich ymdrechion a chydweithredu â chyflenwyr, partneriaid a staff fel ei gilydd. Yn anad dim, ceisiwch gymorth.
Beth fu effaith sylfaenol cymorth RCT?
Bu cymorth RCT yn hollol drawsnewidiol. Erbyn hyn mae cynaliadwyedd yn rhan annatod o’n strategaeth, o’n diwylliant, a’n gweithrediadau o ddydd i ddydd. Rydyn ni’n fwy effeithiol, yn fwy cystadleuol, ac mewn gwell sefyllfa i dyfu mewn modd cyfrifol.
Helpon nhw droi uchelgais bras yn gynllun â ffocws yr oedd modd ei weithredu â’r offer cywir, cyngor arbenigol, a chymorth parhaus. Mewn gair, helpodd RCT ni i ddod yn fusnes gwyrddach, cryfach.
Dysgwch ragor am y Rhaglen Cyflymu Twf yma.
Dysgwch ragor am Something Different Wholesale yma.