Newyddion

Canllaw i helpu pobl ddi-waith i gychwyn busnesau

small business owner - florist - looking at a digital device

Mae canllaw newydd sbon i gefnogi ac annog pobl ddi-waith i sefydlu busnes wedi'i lansio gan Benthyciadau Cychwyn Busnes, mewn cydweithrediad â'r Adran Gwaith a Phensiynau a CThEF.

Mae'r Fresh Start Guide wedi'i deilwra i helpu pobl i ddewis cyfeiriad newydd.

Gyda chanllawiau ar bopeth o feithrin hyder ac ymchwilio i syniadau i opsiynau cyllido a gwybodaeth ar sut y gallai bod yn hunangyflogedig effeithio ar fudd-daliadau lles, mae'r canllaw yn darparu cefnogaeth cynhwysfawr i bobl ddi-waith a allai ystyried entrepreneuriaeth fel opsiwn gyrfa.

Bydd y gefnogaeth yn cyd-fynd â'r gefnogaeth bresennol a roddir gan ganolfannau gwaith, gan gynnwys anogwyr gwaith sy'n cefnogi'r rhai sy'n dymuno cychwyn eu busnes eu hunain a'r rhaglen Benthyciadau Cychwyn Busnes, sy'n darparu hyd at £25,000 o gyllid.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: British Business Bank.

Ydych chi'n meddwl cychwyn busnes?

Mae Busnes Cymru yma i'ch helpu gyda'ch camau cyntaf i hunangyflogaeth gydag ystod ymarferol o arweiniad a chefnogaeth busnes. Mae gennym daflenni ffeithiau rhad ac am ddim ar bynciau busnes a mynediad at gyngor ac arweiniad busnes i'ch helpu i ddewis y busnes cywir i chi, ynghyd ag adnoddau ar-lein i fagu eich hyder wrth gychwyn busnes.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.