Newid y Stori: Y busnes newydd yng Nghymru sy’n rhoi calon ddiwylliannol, greadigol i ofal dementia
Ar ôl gweithio ers 17 flynedd i’r GIG a gwasanaethau cymunedol, gwelodd Donna Chappell fwlch ym maes gofal dementia, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Teimlai’n rhwystredig fod pobl, yn aml, yn cael eu trin yn wrthrychau gofal goddefol, yn hytrach nag unigolion sydd â hunaniaethau, sgiliau a straeon cyfoethog. Dyna a arweiniodd Donna i greu Ty Dol, sef clwb gweithgareddau wedi’i ysbrydoli gan Montessori ar gyfer pobl sydd â dementia a chyflyrau iechyd hirdymor...