Mae ymddygiad chwiliadau’n symud. Dyma sut y gall busnesau â’u bryd ar dwf barhau’n gystadleuol mewn byd digidol wedi eu pweru gan offer AI a chwiliadau sgyrsiol.

Bellach nid yw chwilotwyr yn dangos dolenni yn unig mewn ymateb i ymholiadau gan ddefnyddwyr. Mae AI Overviews Google, Copilot Bing, a ChatGPT gyda phori amser go iawn wedi eu dylunio i roi atebion sgyrsiol ar unwaith i ddefnyddwyr. O’r herwydd, yn aml caiff defnyddwyr beth y mae arnyn nhw ei angen heb ymweld â gwefan.

Beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau sy’n tyfu

I fusnesau sy’n tyfu, mae i’r newid hwn oblygiadau go iawn i’ch strategaeth ddigidol. Er mwyn i bobl ddarganfod eich cynnwys chi ac ymddiried ynddo, mae angen iddo fodloni disgwyliadau chwiliad a yrrir gan AI.

Mae platfformau AI yn chwilio am gynnwys sy’n glir, wedi’i strwythuro’n dda ac sy’n ateb cwestiynau go iawn yn gyflym. Maen nhw’n crynhoi canfyddiadau a dynnwyd o nifer o ffynonellau, nid yn unig y rhai uchaf eu safle.

7 o ffyrdd i barhau’n weladwy mewn chwiliad AI

Dyma beth y gall eich busnes chi ei wneud i addasu i’r newid hwn:

  1. Adolygwch eich prif dudalennau
    Defnyddiwch offer megis Google Analytics 4 neu Search Console i ddarganfod y tudalennau sy’n denu’r traffig. Wedyn gwiriwch a ydyn nhw’n arwain gyda chrynodeb cryf, neges glir, neu gynnig gwerth. Peidiwch â gwneud i ddefnyddwyr sgrolio i ddeall beth rydych chi’n ei wneud neu pam mae’n bwysig.

  2. Defnyddiwch gwestiynau naturiol yn eich penawdau
    Mae mwy o bobl yn defnyddio chwiliad llais. Hynny yw, maen nhw’n gofyn cwestiynau llawn megis, “Beth yw’r feddalwedd orau ar gyfer rheoli timau o bell?” Defnyddiwch y cwestiynau hyn yn benawdau a rhoi atebion uniongyrchol, defnyddiol oddi tanyn nhw

  3. Traciwch draffig a yrrir gan AI
    Edrychwch a ydych chi’n cael cyfeiriadau gan offer megis ChatGPT neu Perplexity. Os felly, ewch ar ôl y cysylltiadau hynny a holi beth oedden nhw’n chwilio amdano. Mae hyn yn helpu i lunio cynnwys yn y dyfodol.

  1. Hybwch chwiliadau llais a lleol drwy ddiweddaru eich Proffil Google Business
    Mae cynorthwywyr clyfar megis Siri ac Alexa yn casglu data lleoliad o’ch proffil. Gwnewch yn siŵr ei fod yn gywir ac ychwanegwch ymadroddion sy’n benodol i ranbarth at eich safle megis “Yn gwasanaethu cleientiaid ar draws Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe” i helpu offer AI i ddeall lle rydych chi’n gweithredu.

  1. Cynhaliwch brawf Deep Research
    Os yw llai o bobl yn clicio trwodd i wefannau, mae ymddangos mewn atebion AI yn hybu hygrededd. Os eich brand chi fydd y ffynhonnell i droi ati am ganfyddiadau defnyddiol, bydd yr amlygrwydd hwnnw’n cefnogi ymddiriedaeth a gwerthiant yn y dyfodol. Defnyddiwch swyddogaeth Deep Research ChatGPT ac efelychu ymholiad cwsmer, megis “Dewch o hyd i ddarparwr pecynnau carbon isel yng Nghymru.” Ydy’ch busnes chi’n ymddangos? Os nad yw, rhedwch yr ymholiad eto a holwch ChatGPT pam. Bydd yn tynnu sylw at beth sydd ar goll, sy’n ganllaw gwerthfawr i wella eich cynnwys.

  1. Cynyddwch ymddiriedaeth a hybu amlygrwydd drwy gynnwys arbenigol wedi’i strwythuro
    Gallwch chi gynyddu ymddiriedaeth a gwella sut mae AI yn darllen eich cynnwys â’r gwelliannau cyflym hyn:
  • Ychwanegwch bios byr ar yr awduron at yr erthyglau neu’r blogiau. Mae llinell megis “Ysgrifennwyd gan Emma Williams, Pennaeth Gweithrediadau” yn cynyddu awdurdod
  • Rhannwch dudalennau hwy yn adrannau gan ddefnyddio isbenawdau a phwyntiau bwled
  • Cyflwynwch eich gwefan i Bing Webmaster Tools. Mae ChatGPT yn defnyddio Bing i gasglu ei ymatebion, felly mae hyn yn cynyddu eich amlygrwydd.

  1. Treuliwch awr y mis hwn ar amlygrwydd mewn chwiliadau
    Mae chwiliad AI yn gwobrwyo cynnwys sy’n ddefnyddiol, sy’n ddibynadwy ac sy’n hawdd ei ddeall. Nid bod y ddolen gyntaf ar Google yw hi bellach, ond bod yr ateb gorau.

Dyma dasg syml:

  • Nodwch dri chwestiwn cyffredin y mae’ch cwsmeriaid yn eu holi
  • Ysgrifennwch atebion clir a’u cyhoeddi nhw ar eich gwefan
  • Edrychwch a yw’r tudalennau hyn yn ymddangos mewn ymatebion AI

Hon yw un o’r ffyrdd hawsaf o hybu amlygrwydd ar draws platfformau a yrrir gan AI.

Angen help i addasu eich cynnwys ar gyfer chwiliad AI?

Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) yn cynorthwyo busnesau sy’n tyfu i lunio strategaethau digidol cryf, sy’n barod ar gyfer y dyfodol. Mynnwch air â’ch Rheolwr Perthnasoedd os bydd angen cymorth arnoch chi i addasu i’r cynnydd mewn chwiliadau AI.

Share this page

Print this page