Mae Hair Syrup, a sefydlwyd gan Lucie Macleod o Sir Benfro a hithau’n dal yn y brifysgol yn 2020, wedi datblygu'n gyflym o brosiect myfyrwraig frwd i fod yn un o brif fusnesau newydd Cymru. Ar ôl dechrau’n frand olew gwallt cartref, yn dilyn profiadau Lucie hithau a llwyddiant ar TikTok, yn fuan trodd hwn yn ffenomen harddwch gwerth miliynau o bunnoedd.
Er iddi adael Dragons' Den y BBC heb fuddsoddiad, daeth ei hymddangosiad â Hair Syrup i sylw nifer o bobl mewn amser byr. Esgorodd hyn ar ail-frandio strategol a chyfnod o dyfiant cynhyrfus. Gyda chymorth hollbwysig y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT), prif wasanaeth cymorth Busnes Cymru i helpu busnesau i dyfu’n gyflym, mae Lucie wedi goresgyn heriau gweithredol, o broblemau Adnoddau Dynol i rwystrau logistaidd. O ganlyniad i’r cymorth hwn roedd modd iddi ganolbwyntio ar greu brand, arloesi, ac ehangu’n rhyngwladol.
Aethon ni i gwrdd â Lucie i holi sut y bu RCT o gymorth iddi.
Pa ran a gafodd RCT yn natblygiad Hair Syrup?
Wrth ymuno â RCT, ces i ennyd hollbwysig i fwrw golwg ar bethau fel sylfaenydd. Wrth i’r busnes ddechrau tyfu’n gyflym, roeddwn i’n treulio gormod o egni ar ddatrys materion mewnol, yn enwedig ynghylch Adnoddau Dynol. Cyflwynodd RCT ni i Reolwr Adnoddau Dynol profiadol, gan drawsnewid deinameg ein tîm a'n cynhyrchiant yn gyffredinol.
Ar ôl Dragons’ Den, roedd cymorth RCT yn hollbwysig wrth i ni fynd ati i ailwampio’r brand. Yn sgil arweiniad gan arbenigwyr, dyma ni’n penderfynu gwneud ein logo yn dryloyw, rhyw fân newid bach sy’n ganolog i'n brand erbyn hyn. Beth sy’n hynod am RCT yw pa mor bersonol yw eu cymorth. Gadawon nhw i mi ganolbwyntio ar fy nghryfderau, megis marchnata, a darparu arbenigwyr mewn meysydd lle roedd angen yr help mwyaf arnaf.
Pa heriau a gafodd Hair Syrup, a sut y bu RCT yn help i’w goresgyn nhw?
Mae gweithio yng nghefn gwlad Sir Benfro yn creu anawsterau logistaidd sylweddol, o storio mewn warysau i drefnu cludwyr. Mae recriwtio yn her arbennig, gan nad oes cronfa leol o dalent sy'n gyfarwydd â brandiau e-fasnach sy'n tyfu'n gyflym. I ddechrau, roedd rhaid i mi fynd i’r afael â phopeth drosof fy hun, ac aeth hynny’n drech na fi yn fuan iawn.
Trwy RCT ces i gysylltiadau hanfodol, yn enwedig ym maes AD, a wnaeth gryn dipyn i ysgafnhau baich materion rheoli o ddydd i ddydd. Nawr, yn hytrach na bod wrthi’n ceisio ymateb i broblemau mewnol, rwy’n gallu rhoi sylw i dyfu’r busnes, arloesi, ac ehangu'r brand.
Beth sy’n gwneud Hair Syrup yn wahanol yn y diwydiant harddwch?
Rydyn ni wedi gwneud dewis bwriadol i ddilyn trywydd gwahanol i’r diwydiant harddwch traddodiadol. Tyfiant hollol organig sydd gennym ni. Wrth ei wraidd mae cynnwys sy’n deillio o gymuned a straeon gonest sy'n taro tant â'n cynulleidfa Cenhedlaeth Z. Dydw i erioed wedi talu dylanwadwyr i hyrwyddo Hair Syrup; ein cwsmeriaid yw ein llysgenhadon ni.
Mae arloesi’n greiddiol i ni. Mae ein fformiwlâu unigryw a'n delweddau gafaelgar wedi creu hunaniaeth unigryw mewn marchnad orlawn. Rydyn ni hefyd yn cofleidio didwylledd. Ar TikTok, mae ein cynnwys yn chwareus, yn dryloyw, ac weithiau'n ddadleuol. Mae hyn yn cynnal diddordeb ein cynulleidfa ac yn gwneud ein brand yn gofiadwy.
Beth yw eich cynlluniau chi ar gyfer dyfodol Hair Syrup?
Y cam mawr nesaf i ni fydd ehangu'n rhyngwladol trwy siop TikTok yn Iwerddon a'r Unol Daleithiau. Rydyn ni’n rhagweld y bydd hyn yn cyfrannu'n sylweddol at ein refeniw. Rydyn ni newydd benodi Rheolwr Gweithrediadau i drin materion logisteg a rheoli’r tîm. O ganlyniad, mae gen i ragor o amser i ganolbwyntio ar strategaeth a thyfu’r brand.
Rydyn ni hefyd yn buddsoddi mewn ymgyrchoedd all-lein, gan gynnwys hysbysebion ar y Tiwb a chyfweliadau rhyngweithiol ar y stryd. Ein nod ni yw creu brand gweladwy a chofiadwy y bydd pobl yn awchu sôn amdano. Gyda chymorth parhaus RCT, rydyn ni mewn sefyllfa dda i recriwtio rhagor o bobl, buddsoddi, a datblygu strategaethau i dyfu.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i ddarpar entrepreneuriaid?
Peidiwch â siarad, gwnewch. Mae’n hawdd sôn am eich cynlluniau chi. Gweithredu sydd bwysig.
Rhowch bethau mewn persbectif. Pan fydd pethau’n mynd o le, gall hi deimlo fel diwedd y byd, ond holwch eich hun, “Beth yw’r peth gwaethaf a allai ddigwydd?” Mae’r meddylfryd hwn yn eich helpu chi i symud ymlaen.
Rhowch ffydd ynoch chi eich hun. Rydw i wedi credu erioed nad oes dim pen draw i’m potensial i. Mae'r gred honno wedi bod yn hanfodol wrth dyfu Hair Syrup o ystafell wydr i frand £6.5m.
Defnyddiwch RCT yn ddoeth. Dewch i wybod beth yw eich cryfderau a’ch gwendidau chi, wedyn gallwch chi fanteisio ar y cymorth rhagorol sydd ar gael gan RCT i lenwi’r bylchau. Mae eu cymorth nhw’n rhy werthfawr i’w wastraffu ar bethau rydych chi eisoes yn gallu eu gwneud.
Dysgwch ragor am y Rhaglen Cyflymu Twf yma.
Dysgwch ragor am Hair Syrup yma.