Mae Howard yn hyfforddwr, ymgynghorydd, ac arweinydd busnes profiadol sydd ag arbenigedd ym maes datblygiad sefydliadol a strategaeth twf uchel. Mae’n Gymrawd Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, a dechreuodd ei yrfa yn NatWest cyn symud i rolau uwch yn International Thomson Organization. Yno, lansiodd fenter gyhoeddi a maes o law cyd-sefydlodd fusnes mewn partneriaeth â Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain. Yn un o Reolwyr Perthnasoedd y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT), mae’n cynorthwyo cwmnïau uchelgeisiol yng Nghymru i dyfu’n hyderus.

Gofynnon ni i Howard rannu beth sy’n ei gymell, beth mae wedi’i ddysgu, a’r cyngor y mae’n ei gynnig fwyaf aml.

Beth oedd y peth cyntaf a wnaeth dy ddenu di at weithio gyda chwmnïau twf uchel?

Rwy wedi gweld sut y gall busnesau twf uchel drawsnewid economïau lleol. Maen nhw’n creu swyddi, yn gyrru arloesedd ac yn cyfrannu’n sylweddol i Gynnyrch Domestig Gros Cymru. Ar ôl dechrau a thyfu fy musnes fy hun, rwy’n deall pa mor bwysig yw cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Yn aml, mae angen i fusnesau twf uchel symud yn gyflym a mynd i’r afael â heriau cymhleth, felly os gallan nhw fanteisio ar gyngor arbenigol wedi’i deilwra, gall hynny wneud byd o wahaniaeth.

Beth yw’r rhan fwyaf buddiol o fod yn Rheolwr Perthnasoedd?

Gweithio gyda phobl dalentog ac ymrwymedig. Rwy wrth fy modd â gallu cynorthwyo sylfaenwyr a thimau arwain i fireinio eu cynlluniau, achub ar gyfleoedd a goresgyn rhwystrau. Mae’n rhoi boddhad enfawr gweld eu gwaith caled nhw’n troi’n llwyddiant go iawn, yn broffesiynol ac yn bersonol.

Beth yw’r cyngor busnes gorau rwyt ti wedi’i roi neu’i dderbyn erioed?

Byddwch yn driw i chi’ch hun. Cofiwch eich gwerthoedd a gadewch iddyn nhw lywio eich penderfyniadau chi. Bydd adegau pan fydd hi’n teimlo’n haws cyfaddawdau neu dorri corneli wrth fynd ar ôl llwyddiant ariannol, ond rhaid i chi ofyn a yw’r dewisiadau hynny’n cyd-fynd â’ch egwyddorion. Glynu wrth eich gwerthoedd chi yw’r peth hanfodol ar gyfer llwyddiant tymor hir.

Beth yw’r un nodwedd rwyt ti’n ei gweld yn yr arweinwyr busnes mwyaf llwyddiannus?

Maen nhw’n gwybod nad ydyn nhw’n gallu dod i ben ar eu pennau eu hunain. Mae’r arweinwyr mwyaf effeithiol yn sicrhau bod pobl o’u cwmpas nhw sy’n dod â sgiliau a safbwyntiau gwahanol. Maen nhw’n gwrando, yn cymryd cyngor ac yn parhau’n agored i ddysgu. Y gallu hwnnw i addasu sy’n eu helpu nhw i ymateb i newid a pharhau i symud ymlaen.

Sut wyt ti’n ymlacio y tu allan i’r gwaith?

Mae beicio a rhedeg yn rhan bwysig o’m bywyd i. Yn 2023 ymunais i â thaith feicio Paris i Bordeaux gyda Jonathan (Jiffy) Davies i godi arian at Ganolfan Ganser Felindre. Ces i gymaint o flas arni nes i mi fentro ar 350 milltir yn Fflorida llynedd ac rwy wedi cofrestru ar gyfer eu taith feicio nhw yn Sbaen ym mis Mai 2026. Rwy hefyd yn gwirfoddoli yn fy manc bwyd lleol, sy’n cadw fy nhraed i ar y ddaear ac sy’n cynnal cysylltiad â’r gymuned hefyd.

Beth yw’r un peth yr hoffet ti i holl fusnesau RCT ei wybod?

Nid dim ond i gynorthwyo twf mae RCT, ond hefyd i helpu busnesau i lywio heriau hefyd. Gallwn ni eich cysylltu chi â hyfforddwyr arbenigol, arbenigwyr sector a rhaglenni eraill Busnes Cymru, gan gynnwys Rhaglen Cyswllt Diwydiannol MIT Llywodraeth Cymru. Gwasanaeth sydd wedi’i bersonoleiddio’n fawr iawn yw hwn ac sydd â mynediad at rwydwaith pwerus.

Pa heriau rwyt ti’n helpu cleientiaid i fynd i’r afael â nhw fwyaf aml?

Egluro eu pwrpas, gweledigaeth a’u strategaeth. Rwy’n helpu busnesau i bennu nodau mesuradwy a sicrhau bod y nodau hynny’n cael eu rhannu’n glir ar draws timau a rhanddeiliaid. Gall twf heb gyfeiriad faglu’n gyflym. Mae sicrhau’r eglurder hwnnw’n hollbwysig.

Elli di rannu achlysur rwyt ti’n falch ohono yn ystod dy gyfnod yn RCT?

Helpu cleient i sicrhau a datblygu safle newydd ar gyfer ehangu. Cyflwynais i arbenigwyr allweddol a chydlynu’r prosiect er mwyn iddyn nhw allu symud ymlaen yn hyderus. Rhoddodd hynny iddyn nhw’r lle a’r gallu roedd arnyn nhw eu hangen i gyflawni eu cynlluniau twf nhw.

Ac i gloi, beth yw dy gyngor anhepgor i berchnogion busnes uchelgeisiol?

Efallai eich bod chi’n sylfaenydd neu’n arweinydd, ond rydych chi’n dal i fod yn rhan o dîm. Adeiladwch rwydwaith cryf o bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw, hyd yn oed os ydych chi’n entrepreneur unigol. Unwaith y byddwch chi wedi pennu eich gweledigaeth a’ch strategaeth chi, rhannwch hi. Gwahoddwch adborth a gwrandewch yn ofalus, yn enwedig pan fydd y safbwynt yn wahanol i’ch un chi.

Mae eich cam nesaf yn dechrau yma

Os ydych chi’n wynebu her newydd neu’n archwilio cyfleoedd newydd, mae eich Rheolwr Perthnasoedd yma i’ch helpu chi i symud ymlaen gydag eglurder a hyder. Cysylltwch â ni heddiw i ddechrau’r sgwrs.

Share this page

Print this page