Mae ein Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes yn rhaglen 10 wythnos unigryw sydd wedi'i chynllunio i gefnogi entrepreneuriaid uchelgeisiol o Gymru i ddatblygu a lansio syniadau busnes cryf, a chanddynt y potensial i dyfu ac i ehangu'n gyflym.
O sicrhau eich cwsmer cyntaf, adeiladu model busnes cynaliadwy a pharatoi ar gyfer buddsoddiad, mae ein Rhaglen Cyflymu cyfan gwbl ar-lein yn darparu cefnogaeth wedi'i theilwra gan Hyfforddwyr Twf Uchel profiadol ac arbenigwyr o fewn y diwydiant sydd wedi'i gynllunio i'ch helpu i ehangu'n ddoethach a chyda hyder.
Manteision allweddol ein Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes:
- Canllaw cam wrth gam i adeiladu syniadau busnes, denu cwsmeriaid sy'n talu a chreu model busnes cynaliadwy
- Datblygu sgiliau busnes craidd trwy weminarau, dosbarthiadau meistr a mentora arbenigol 1-i-1
- Rhwydweithio gyda chymheiriaid sy'n eich galluogi i gwrdd ag entrepreneuriaid eraill o'r un anian a chael mynediad at rwydweithiau gwerthfawr
- Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i hybu creadigrwydd ac gwella ymchwil i'r farchnad, gan eich helpu i gyrraedd marchnadoedd yn gyflymach a rhoi hwb i effeithlonrwydd
- Cyfleoedd i adeiladu eich cysylltiadau cyhoeddus a chael sylw positif yn y cyfryngau
Rydym yn chwilio am geisiadau gan entrepreneuriaid o Gymru sydd â syniadau busnes cryf ac sy'n anelu at gyflawni trosiant o £l miliwn erbyn 2029, creu 10 neu fwy o swyddi llawn amser ac allforio'n rhyngwladol.
Anelu'n uwch Mae cyfle isod i glywed gan rai o'n cyfranogwyr diweddar ar sut mae ein Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes wedi eu helpu i roi hwb i'w busnes.
STRAEON LLWYDDIANT
Dysgwch fwy a gwnewch gais yma
Bydd ein Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes yn rhedeg yng Ngwanwyn 2026. Cofrestrwch eich diddordeb heddiw a byddwn yn eich hysbysu pan fydd ceisiadau'n agor