Ar ôl gweithio ers 17 flynedd i’r GIG a gwasanaethau cymunedol, gwelodd Donna Chappell fwlch ym maes gofal dementia, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Teimlai’n rhwystredig fod pobl, yn aml, yn cael eu trin yn wrthrychau gofal goddefol, yn hytrach nag unigolion sydd â hunaniaethau, sgiliau a straeon cyfoethog.
Dyna a arweiniodd Donna i greu Ty Dol, sef clwb gweithgareddau wedi’i ysbrydoli gan Montessori ar gyfer pobl sydd â dementia a chyflyrau iechyd hirdymor. Mae Ty Dol wedi’i wreiddio yn niwylliant a chymuned Cymru, a chynigia brofiadau ystyrlon, ymarferol - o bobi traddodiadol a thasgau ym myd natur i adrodd straeon dwyieithog - a nod y cyfan yw adfer syniad o bwrpas a llawenydd i bobl.
Gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, trodd Donna ei syniad yn fenter strwythuredig sy’n gwneud incwm ac sy’n newid bywydau eisoes. Cawsom ni air â Donna i ddysgu sut y rhoddodd cymryd rhan yn y rhaglen gyflymu hyder iddi droi ei syniad yn fusnes sy’n tyfu.
Beth ysbrydolodd Ty Dol?
Roeddwn i am greu rhywbeth a fyddai’n parchu hunaniaeth pobl, ac nid gofalu am eu hanghenion yn unig. Wrth wraidd Ty Dol mae cysylltiad, pwrpas ac urddas. Mae wedi’i adeiladu ar y syniad bod gan bobl sy’n byw gyda dementia gymaint i’w gynnig o hyd.
Rydyn ni’n defnyddio egwyddorion Montessori ym maes gofal dementia, gan ganolbwyntio ar beth y gall pobl ei wneud. Rydyn ni’n gweithio’n ddwyieithog, yn dathlu traddodiadau Cymreig, ac yn darparu popeth trwy hybiau cymunedol. Mae’n bersonol, wedi’i leoli mewn lle, ac yn rymusol.
Sut y bu’r Rhaglen Cyflymu Twf o gymorth?
Cyn cofrestru ar y rhaglen gyflymu, roedd gen i’r weledigaeth ond roeddwn i’n cael trafferth ei llunio’n fodel busnes hyfyw. Doeddwn i ddim yn siŵr sut i dyfu, prisio fy ngwasanaethau, neu gynllunio ar gyfer tyfiant. Helpodd y rhaglen gyflymu fi i fireinio pob rhan o’r busnes, o egluro cefndir fy nghwsmeriaid a diffinio fy nghynnig i ddeall materion cyllid. Ces i hefyd fanteisio ar ymgynghorwyr arbennig a rhwydwaith cefnogol o entrepreneuriaid o’r un anian. Helpodd fi i sylweddoli y gall busnesau a arweinir gan werthoedd fod yn fasnachol hyfyw o hyd. Pan newidiais i feddwl fel hyn, dyma bopeth yn newid.
Beth oedd dy heriau mwyaf cyn y Rhaglen Gyflymu?
Roedd gen i weledigaeth gadarn, ond dim model busnes clir. Doeddwn i ddim yn gwybod sut i brisio fy ngwasanaeth, strwythuro tyfiant, neu barhau’n ariannol gynaliadwy heb gyfaddawdu ar fy ngwerthoedd.
Oedd unrhyw adegau yn y rhaglen sy’n aros yn y cof?
Oedd - pan ddechreuais i beidio â theimlo’n euog am godi tâl am y gwasanaeth. Gwelais i faint o werth rydyn ni’n ei gynnig i deuluoedd a chymunedau. Rhoddodd hynny’r hyder i mi adeiladu model cynaliadwy, nid breuddwyd bersonol yn unig.
Roedd y grŵp cymheiriaid yn wych, ac o’r herwydd doeddwn i ddim yn teimlo ar fy mhen fy hun bellach. Roedd y mentoriaid yn ymarferol ac yn galonogol, ac roedd ennill gwobr “Cynnig Flex” yn hwb i’m hyder yn ogystal â chynyddu’m hamlygrwydd. Gadewais i’r rhaglen gyda mwy o eglurder a hunan-gred nag yr oeddwn i’n credu ei bod yn bosibl.
Pa offer neu sgiliau penodol a wnaeth y gwahaniaeth mwyaf?
Cynllunio ariannol, dylunio gwasanaethau, a rhoi prawf ar syniadau heb orymrwymo. Dysgais i sut i wneud penderfyniadau’n strategol yn hytrach nag yn emosiynol. O ganlyniad, des i’n sylfaenydd cryfach.
Ble mae’r busnes arni ar hyn o bryd?
Rydyn ni’n masnachu mewn tri hyb cymunedol, gyda chynlluniau i ymestyn i bump ymhen chwe mis. Mae galw go iawn - mae teuluoedd, gweithwyr cymdeithasol, a chleientiaid preifat yn chwilio am ein cymorth. Rydyn ni hefyd yn lansio llyfrgell fenthyca blwch atgofion a phrosiect celfi wedi eu hailwampio i ariannu gweithgareddau ychwanegol megis teithiau a cherddoriaeth fyw.
Beth sydd nesaf i Ty Dol?
Rydyn ni’n ehangu gyda rhagor o hybiau, recriwtio staff, a thyfu ein prosiectau ar gyfer yr economi gylchol. Yn y tymor hir, hoffwn i Ty Dol fod yn enghraifft flaengar o ofal tosturiol dan arweiniad y gymuned yng Nghymru, a’r hybiau’n cael eu cynnal saith diwrnod yr wythnos, wedi eu gwreiddio yn y diwylliant lleol, ac yn cynnig cyfleoedd gwaith i bobl leol.
Beth sy’n dy gymell di fel sylfaenydd?
Fy nghymhelliant i yw’r gred bod pobl sy’n byw gyda dementia yn haeddu mwy na gofal. Maen nhw’n haeddu cymuned, llawenydd, a phwrpas. Gweld y wefr ar wynebau pobl yn ystod ein sesiynau sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i mi. Pan fydd rhywun sydd wedi bod yn dawedog drwy’r dydd, yn sydyn, yn ymuno â gweithgaredd pobi neu’n dechrau canu yn Gymraeg, mae’n fy atgoffa i pam mae’r gwaith hwn mor bwysig. Dwi hefyd yn hoff o’r creadigrwydd a’r dysgu parhaus wrth adeiladu rhywbeth newydd.
Pa gyngor y byddet ti’n ei roi i sylfaenwyr eraill?
Does dim eisiau bod gennych chi’r holl atebion i ddechrau. Wrth weithredu cewch chi eglurder. Gofynnwch am help, profwch syniadau, a chadwch eich cysylltiad â’ch cymhelliad. Ac os gallwch chi, ymunwch â rhaglen debyg i hon. Bydd hi’n eich estyn chi yn yr holl ffyrdd cywir.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf helpu eich datblygiad chi, ewch yma.