Am godi eich proffil, denu buddsoddiad neu hybu morâl y tîm? Gall ennill gwobrau eich helpu chi i wneud hynny a rhagor. Ond os ydych chi am gyrraedd y rhestr fer, rhaid i chi lunio stori afaelgar sy’n sefyll allan, sy’n taro tant â’r beirniaid, ac sy’n dangos yn union pam mae eich busnes chi’n haeddu cael sylw.
Rwy wedi beirniadu nifer o wobrau ac wedi llunio nifer o gynigion buddugol ar gyfer fy musnes fy hun ac eraill. Dyma deuddeg gair i gall gen i am beth sy’n gweithio.
- Byddwch yn ddethol, nid dim ond yn brysur
Ymchwiliwch i’r gwobrau sydd bwysicaf i’ch busnes chi. Pwy yw’r enillwyr blaenorol? Beth sydd o werth i’r beirniaid? Darllenwch y sylwadau a’r meini prawf yn ofalus. Mae pob canfyddiad yn bwysig. Mae’n well mynd amdani gydag un cyflwyniad cryf na gwasgaru eich cyfleoedd dros bump.
- Dim copïo a gludo
Gall beirniaid ganfod cyflwyniad generig o bell, felly cofiwch deilwra pob cynnig. Anelwch at ffocws y wobr benodol, boed yn arloesi, cynaliadwyedd, neu effaith. Defnyddiwch eu hiaith nhw, adlewyrchwch eu gwerthoedd nhw, a dangoswch eich bod chi’n deall i’r dim beth maen nhw’n chwilio amdano. Defnyddiwch y meini prawf yn ganllaw i fapio syniadau ar gyfer cynnwys cyn i chi ysgrifennu gair. Byddwch chi’n falch maes o law yn y broses.
- Adroddwch stori sy’n cydio
Mae ffeithiau’n bwysig, ond ar eu pennau eu hunain, fyddwn nhw ddim yn cipio calonnau pobl. At eich data chi, ychwanegwch hanes gafaelgar. Pa broblem ydych chi’n ei datrys? Pam mae’n bwysig? Beth sydd wedi nodweddu eich llwybr chi hyd yma? Pa rwystrau ydych chi wedi eu goresgyn? Mae’r cynigion gorau’n cydbwyso’n gywrain resymeg ac emosiwn, gan apelio at y meddwl a’r galon fel ei gilydd. Neu a’i roi fel arall: Ffaela ffeithiau, daw diwedd data, straeon sy’n sefyll! Byddwch yn glir beth yw eich stori chi ac ewch ati i’w hadrodd yn gelfydd.
- Bachwch nhw’n gynnar
Mae’ch pennawd, eich brawddeg gyntaf a’ch paragraff agoriadol yn hollbwysig. Mae beirniaid yn brin o amser, yn union fel chi. Daliwch eu sylw o’r cychwyn cyntaf. Byddwch yn feiddgar. Byddwch yn glir. Rhowch awydd iddyn nhw barhau i ddarllen. Peidiwch ag ysgrifennu stori dditectif. Ymchwiliwch i’r pyramid ben i waered, sy’n fodel gwych ar gyfer strwythuro cynigion am wobrau.
- Gadewch i eraill siarad drosoch chi
Peidiwch â bodloni ar ddweud eich bod chi’n wych; gadewch i gwsmeriaid, cleientiaid, aelodau staff neu bartneriaid wneud hynny drosoch chi. Mae tystiolaethau’n werth aur mewn cynigion am wobrau. Mae dyfyniad cryf gydag effaith yn y byd go iawn yn rhoi’r cadarnhad hollbwysig hwnnw gan drydydd parti, sy’n ychwanegu hygrededd ac ymddiriedaeth at eich cyflwyniad.
- Gall AI helpu, ond peidiwch â gadael iddo ysgrifennu drosoch chi
Ie, gall offer megis ChatGPT, CoPilot a Gemini helpu i danio syniadau neu strwythuro eich meddwl. Ond gall beirniaid synhwyro o bell wag siarad wedi’i gynhyrchu gan AI. Ymhlith yr arwyddion amlwg mae cysylltnodau em hir wedi eu gwasgaru trwy’r testun, geiriau megis ‘dyrchafu’, ‘meithrin’ a ‘plymio’. Defnyddiwch dechnoleg i ategu’ch proses, nid i ddisodli llais eich brand. Cyffyrddiad dynol sy’n mynd â hi bob tro. A gall pob testun AI elwa o olygydd dynol arbenigol.
- Cadwch bethau’n glir ac yn real
Taflwch y sloganau. Osgowch ‘synergedd’, ‘tarfu’, a ‘newid y gêm’ oni bai eu bod nhw wir yn berthnasol. Ysgrifennwch fel person, nid cynnig marchnata. Bydd iaith ddynol, glir yn llwyddo’n well bob tro na jargon corfforaethol.
- Ychwanegwch ergyd weledol
Gall delwedd neu ffeithlun grymus wneud eich stori’n fyw. Os bydd y llwyfan gwobrau’n caniatáu hynny, defnyddiwch luniau’n strategol i ategu eich neges, nid i dynnu sylw oddi wrtho.
- Atebwch bob cwestiwn yn llawn
Mae’n swnio’n syml, ond mae ar goll mor aml. Atebwch beth sy’n cael ei ofyn yn glir ac yn drylwyr. Peidiwch â chymylu ateb annelwig i aros o fewn nifer y geiriau. Os yw’r ffurflen gais yn gofyn am effaith, dangoswch hynny â chanlyniadau go iawn.
- Prawf ddarllen proffesiynol
Mae teipos esgeulus a gwallau gramadegol yn cyfleu agwedd ffwrdd â hi. Mae cynnig graenus wedi’i olygu’n dda yn dangos parch at y broses ac amser y beirniaid. Yn well byth, gofynnwch i rywun gwrthrychol ddarllen trwyddo a holi, ‘Ydy hwn yn gwneud synnwyr?’ Ydy e’n afaelgar? Os ydych chi’n brin o amser, manteisiwch ar offer neu feddalwedd prawf ddarllen rhad ac am ddim, megis Grammarly.
- Dangoswch dwf a momentwm
Yn aml, dyfernir gwobrau i fusnesau sydd ar i fyny. Pwysleisiwch eich momentwm. Pa gerrig milltir ydych chi wedi eu cyrraedd? Beth sydd nesaf? Gwnewch y beirniaid yn gyffrous am ble rydych chi’n mynd.
- Dangoswch, peidiwch â dweud
Dyw hi ddim yn ddigon dweud “rydyn ni’n arloesol” neu “mae ein tîm ni’n angerddol”. Rhowch brawf i ategu pob honiad. Boed yn ganlyniad i’r cwsmer, yn gynnydd mewn refeniw, yn ganlyniadau arolwg gweithwyr, yn sylw yn y cyfryngau neu’n gadarnhad gan y diwydiant, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys y dystiolaeth dros unrhyw honiadau. Mae dangos yn fwy grymus o lawer na dweud.
Gall ennill gwobrau agor drysau at arian, talent, partneriaethau a’r wasg. Ond nid dros nos mae llunio cynigion gwych. Cymerwch yr amser i sicrhau bod eich rhai chi’n strategol, wedi’u teilwra a’u bod nhw bob amser yn teimlo’n ddynol. Mae’n werth yr ymdrech.
Angen helpu i fireinio neu ehangueich stori? Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) yma i helpu. O hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfathrebu i gymorth strategol gydag adrodd straeon, rydyn ni wedi helpu llawer o fusnesau Cymru i droi llwyddiant yn wobrau, a gwobrau’n dwf. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Rheolwr Perthnasoedd heddiw.