Adeiladu’n well: Sut daeth Grŵp Raven Delta yn arweinydd ym maes adeiladau iach gyda chymorth y Rhaglen Cyflymu Twf
Mae Grŵp Raven Delta, sydd wedi ei leoli yn Abertawe, yn chwyldroi’r modd rydyn ni’n meddwl am adeiladau. Yn hytrach na’u gweld nhw’n strwythurau statig, mae’r Grŵp yn eu trin nhw’n amgylcheddau deinamig sy’n cael effaith uniongyrchol ar ein hiechyd, ein llesiant, a’n cynhyrchiant. Sefydlwyd Raven Delta gan Brif Swyddog Gweithredol y Grŵp Dave Kieft, a daw â nifer o gwmnïau arbenigol dan un genhadaeth unedig: gwella ansawdd amgylcheddol dan do (IEQ), sicrhau cydymffurfiaeth, a...